Y Dolig yma mae'r llythrennau S C yn sefyll am Sion Corn. Anghywir! Santa Claus? - anghywir.
S C yw Simon Cowell. Does dim dadl. Dolig yr X Factor yw hwn.
Ystyr yr X
Ie,Happy Xmas. Y byd wedi tynnu Crist allan o'r 糯yl? Anghywir eto! Nid dyfais fasnachol yw'r X-mas. Hen dalfyriad eglwysig yw 'X' o lythyren gyntaf yr enw Groeg am Grist - Christos. A dyna i chi X-Factor o ffaith.
Dyma un arall. Does dim synnwyr yn y dywediad "as sure as eggs are eggs". "As sure as 'x' is 'x'" yw'r dywediad. Ac fe all 'x' gynrychioli y ffactor annisgwyl, anhysbys. Dyna yw'r Nadolig.
Y fath siom
Eleni fe gynhyrchwyd sioeau Nadolig mewn ysgol a chapel gan gymryd yr X-Factor yn thema. Oedd. Roedd Simon Cowell yn bresennol wrth chwilio am y seren fwyaf llachar.
Ond o'r fath siom iddo fe. Dyw enillydd yr X-Factor, Joe McElderry, a'i g芒n The Climb ddim yn rhif un yn y siartiau.
C芒n o'r enw Killing in the Name gan Rage Against the Machinesydd ar y brig.
Dipyn o rebels
A'r hyn sy'n hynod am y band rap hwnnw yw eu bod nhw'n dipyn o rebels. Ar waetha cyfrwystra Simon Cowell yn canmol y cwpwl sy wedi arwain yr ymgyrch yn erbyn c芒n yr X-Factor, a cheisio eu prynu i fod yn rhan o'i deyrnas y rebels sydd ar y brig.
A dyna union stori'r Nadolig. Dyfodiad rebel. Ystyr arall i 'x' yw croes. Dyna ddigwyddodd i'r rebel a anwyd ym Meth'lem Jwdea.
Baban, ie. Ond baban a dyfodd i fod yn rebel; yn herio'r awdurdodau, yn dymchwel hen gredoau. Ac ar y groes honno yn Golgotha , Ie - killing in the name - yn trechu angau'i hun.
Rhif un. Christos.
Iesu Grist.
Yr 'x-factor' mwyaf rhyfedd fu erioed.