Heddiw yw dydd byrraf y flwyddyn gyda golau dydd yn llai a'r nos yn hirach.
Na hidiwch - yn raddol bach byddwn yn sylwi ar olau dydd yn ehangu a thywyllwch y nos yn crebachu dros y misoedd nesaf.
Er bod llawer o'r gaeaf yn aros, fel y bydd y dydd yn ymestyn, cynyddir y gobaith bod y gwanwyn ar y gorwel.
Newydd llawn gobaith
Cawsom, y dyddiau diwethaf, newyddion llawn gobaith gan wyddonwyr sydd wedi darganfod ffyrdd o oresgyn cancr yr ysgyfaint a'r croen a dywedodd un papur newydd na fydd yn rhaid i neb ofni cancr cyn bo hir.
Gobeithio bod hwn yn anrheg Nadolig real iawn.
Yr hyn sy'n cymell llawer o wyddonwyr i gysegru doniau ymchwil a galluoedd arbennig yw y Crist a anwyd ym Methlehem ac a ddangosodd pa mor werthfawr a chysegredig yw bywyd dyn, trwy ddweud,
"Mi a ddeuthum fel y c芒nt fywyd a'i gael yn ei holl gyflawnder."
Diolch i Dduw am eu llwyddiant.
Goleuadau
Yn y stryd y tu cefn i'n t欧 ni mae y tai a'r lawntiau a'r gwrychoedd ar hyd yn oleuadau lliwgar, hynod o brydferth, ar them芒u y Nadolig.
Eto, ychydig wedi'r Nadolig diffoddir hwy, ond mae neges y Crist a ddaeth yn oleuni'r byd - yn llawn gobaith a bywyd yn parhau i lewyrchu.
Er nad yw'n ddigon, diolch am gytundeb Copenhagen i daclo newid hinsawdd - mae o leiaf yn obeithiol ac mae'n rhoi llygedyn o obaith inni gynyddu ein cyfraniad i'r frwydr.
Peidiwn anobeithio.
Crist y Nadolig
A fydd gobaith Crist y Nadolig yn cyfoethogi llawenydd y dathlu i lawer? Yn cysuro y rhai fydd mewn gofidiau ac yn gwmni llawn gobaith i'r unig?
Y gorau bosib tros yr 糯yl i bob un. Nadolig llawen a bendithiol.