Bore Mawrth Tachwedd 24 2009
Dach chi'n cofio'r cyfresi comedi Yes Minister a Yes Prime Minister?
Yn 么l pob s么n, gwerthodd y 91热爆 y fformat i'r Iwcrain yr wythnos diwethaf. Mae'r India, Twrci a'r Iseldiroedd eisoes wedi' ei haddasu i'w diwylliannau gwleidyddol eu hunain.
Mae'n amlwg fod rhywbeth yn sefyllfaoedd y rhaglen sy'n canu cloch mewn sawl diwylliant ac mewn gwahanol sustemau gwleidyddol.
Gohirio ar frys
Awgrymodd un sylwebydd, mewn geiriau y byddai'r gwas sifil slic, Sir Humphrey ei hun wedi bod yn falch ohonynt, mai cyfrinach y rhaglen oedd ei bod yn disgrifio'r gelfyddyd fyd-eang sydd ar waith mewn sustemau gwleidyddol a biwrocrataidd o bob math.
A hon yw'r gelfyddyd gudd i ohirio popeth - penderfyniadau, newidiadau, ymchwiliadau a phethau a allai beri embaras - trwy geisio rhoi'r argraff, eich bod yn gweithredu ar frys.
A druan o Sir John Chilcott. Oherwydd hyd yn oed cyn i'w ymchwiliad i ryfel Irac, sy'n cychwyn y bore yma, ddechrau casglu tystiolaeth gyhoeddus mae rhai sylwebyddion mwy pigog na'r cyffredin yn awgrymu y dylai newid ei enw i Sir Humphrey ar 么l y cymeriad yn y gyfres gomedi.
Mae rhai wedi croesawu'r "ymchwiliad annibynnol" ac yn gobeithio y bydd yn codi'r llen ar y rhyfel ond eraill yn amheus a gawn ni'r "gwir" y tro hwn eto.
Fydd unrhyw un yn fodlon?
Er holi aelodau'r gwasanaethau cudd, diplomyddion, milwyr a gwleidyddion am ryfel sydd wedi rhannu cymdeithas, sydd wedi difetha bywydau ym Mhrydain ac Irac, ac wedi costio chwe biliwn, pedwar cant trideg a naw o filiynau o bunnau, tybed a fydd unrhyw un o gwbl yn fodlon gyda'i ganlyniadau?
Ond tybed, a yw yn gwneud unrhyw wahaniaeth go iawn i ni os mai sbin wleidyddol ynteu'r "gwir" fydd cynnwys yr adroddiad?
Dwi' m yn meddwl mai bod yn ddiniwed yw credu bod y "gwir" yn gwneud gwahaniaeth. Oherwydd os na allwn ymddiried yn ein gilydd oni fydd sinigiaeth, caledwch a chreulondeb, fel pydredd yn difetha mer iechyd ein cymdeithas?
Saif y gwir
Mae rhai sylfaeni y gallwn bwyso arnynt yn sefyll o hyd. Pan fydd ymchwil ac adroddiad Syr John Chilcott yn angof, fe fydd adroddiad ar sail ymchwil oes un g诺r doeth yn dal i sefyll;
"Gwir yw gair yr Arglwydd, ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd. Y mae'n caru cyfiawnder a barn. Gwyn ei byd y genedl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddi." (Salm 33).
Bendith arnom oll.