91热爆

Traddodiadau a G诺yl y Pasg

Lili

Mewn gwledydd Cristnogol, mae G诺yl Y Pasg yn 诺yl grefyddol sydd yn coff谩u atgyfodi lesu Grist.

Cyn y Pasg daw , neu ddydd Mawrth Crempog - diwrnod i hel boliau. Dyma gyfnod y Carnifal a gwelir pasiantau ysblennydd ar y diwrnod yma, yr enwog Mardi Gras, neu o'i gyfieithu o'r Ffrangeg, dydd Mawrth tew!

Y Grawys

Dydd Mercher Lludw sydd yn cychwyn cyfnod Y Grawys, 46 diwrnod cyn y Pasg. Gan fod y Pasg yn 诺yl symudol, mae'r diwrnod yma felly rywbryd ym mis Chwefror neu ddechrau Mawrth. Caiff y diwrnod ei enw o'r arferiad, yn yr Eglwys Gatholig yn bennaf, o roi lludw ar dalcen y ffyddloniaid er mwyn eu hatgoffa mai dim ond lludw yw dyn.

Chwe wythnos a phedwar niwrnod yn ddiweddarach (cyfnod sydd yn cynrychioli'r cyfnod y bu Crist yn ymprydio yn yr anialwch), am hanner nos ar y nos Sadwrn cyn Sul y Pasg, daw cyfnod Y Grawys i ben.

Y Pasg

Ar ddydd Sul Y Pasg y dethlir atgyfodi Crist. Er mai g诺yl a gysylltir 芒'r Cristion ydi'r Pasg, mae'n ymgorffori G诺yl Y Bara Croyw a ddethlir gan yr Iddewon, g诺yl bwysig sydd yn para wyth niwrnod ac sydd yn coffau ff枚edigaeth yr Iddewon o gaethiwed Yr Aifft.

Dethlir G诺yl Y Pasg ar y dydd Sul cyntaf sydd yn dilyn y lleuad llawn sydd yn digwydd ar neu wedi Mawrth yr 21ain. Gall y Pasg ddigwydd felly cyn gynhared 芒 Mawrth yr 22ain neu gyn hwyred ag Ebrill y 25ain.

Mae tridiau'r 诺yl yn dechrau ar Ddydd Iau Cablyd (Maundy Thursday), sef y nos Iau cyn Dydd Gwener y Groglith, pan gynhaliwyd y Swper Olaf, yn 么l traddodiad, sy'n seiliedig yn ei dro ar bryd traddodiadol y Seder ym (Pesach neu Passover yn Saesneg). Dydd Gwener y Groglith yw'r diwrnod y dywedir i Iesu Grist gael eu groeshoelio arno. Mae'n aml yn digwydd yr un pryd 芒'r Pesach.

Traddodiadau cynharach

Mae cysylltiad arbennig rhwng y lili wen a'r Pasg a hithau'n cynrychioli'r atgyfodiad. Ond mae i ddathliadau'r Pasg lawer o draddodiadau nad oes a wnelo nhw ddim 芒 Christnogaeth.

Daw'r cwningod a'r wyau lliwgar o draddodiadau paganaidd ac maent yn symbolau o fywyd a dechreuad newydd. Mae'r arferiad o ddefnyddio wyau wedi eu cysylltu 芒'r Pasg ers canrifoedd.

Yn wreiddiol, paentiwyd wyau a lliwiau llachar oedd yn cynrychioli goleuni'r gwanwyn. Defnyddiwyd hwy mewn rasus rholio wyau Pasg neu fe'u rhoddir hwy fel anrhegion.

Yn adeg y Canol Oesoedd, rhoddwyd wyau i'r gweision a'r morynion ar adeg y Pasg. Mae gwahanol wledydd wedi datblygu eu traddodiadau eu hunain am addurno wyau.

Traddodiadau y gwahanol wledydd

Yng Ngroeg, fe gyfnewidir wyau rhuddgoch, er mwyn dynodi gwaed Crist. Mae pobl Slofacia yn addurno eu hwyau gyda phatrymau arian ac aur a phobl Armenia yn addurno eu hwyau gyda lluniau o Grist, Y Forwyn Fair a chynlluniau crefyddol eraill.

Arferai'r Rhufeiniaid ddathlu cyfnod Y Pasg drwy gynnal rasus rhedeg a thrwy roi wyau fel gwobrau i'r buddugwyr. Efallai fod rhai ohonoch chi wedi clywed am yr arferiad o gynnal ras rholio wyau ar Lawnt y T欧 Gwyn yn Yr Unol Daleithiau.

Daw cannoedd o blant yno gyda basgedi yn llawn o wyau lliwgar a'u rholio nhw i lawr y lawnt enwog, gan obeithio fod yr Arlywydd yn gwylio'r hwyl.

Seiliedig ar erthygl o Bapur Fama (papur bro ardal Yr Wyddgrug)


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.