Mae Sul y Tadau yn disgyn ar y trydydd Sul ym Mehefin.
Mae'n ddiwrnod arbennig i bawb wneud yr ymdrech i ymweld 芒'u tad, gan roi cerdyn, anrheg neu fynd am ginio allan.
Mae'r dyddiad yn amrywio o amgylch y byd, er enghraifft mae Sbaen wedi penodi Mawrth 19 fel Sul y Tadau, tra bod Awstralia'n dathlu ar y Sul cyntaf ym Medi. Ond mae'r mwyafrif o wledydd gan gynnwys Cymru yn dathlu ar y trydydd Sul ym Mehefin.
Bydd llawer o ysgolion yn trefnu fod y plant yn paratoi cerdyn ar gyfer y dydd hwn.
Credir i'r dathliad gychwyn yn yr Unol Daleithiau yn 1910. Daeth y syniad gan Mrs Sonora Smart Dodd pan glywodd bregeth yn yr eglwys am Sul y Mamau. Meddyliodd am ei thad, oedd wedi magu chwech o blant ei hun ar 么l ei wraig farw ar enedigaeth eu chweched plentyn.
Roedd Mrs. Dodd yn teimlo y dylai diwrnod gael ei benodi i anrhydeddu ei thad. Ond ni feddyliodd y byddai'n datblygu i fod yn ddathliad cenedlaethol, heb s么n am nifer o wledydd eraill!
Yn 1972 cafodd Sul y Tadau ei sefydlu'n swyddogol yn yr Unol Daleithiau gan yr arlywydd Richard Nixon.