"O'i derwen un fesen wyf fi - wreiddiodd
ym mhridd y ffrwythloni,
heddiw rhof ddiolch iddi -
mwy na mam fu Mam i mi."
Robin Llwyd ab Owain
Pedwerydd Sul y Grawys yw Sul y Mamau a dyma'r diwrnod pan fydd plant yn rhoi cerdyn ac anrheg, siocled neu dusw o flodau i'w mam. Mae rhai hefyd yn 'sbwylio' mam gyda brecwast yn y gwely neu ginio Sul mewn gwesty crand.
Yn draddodiadol, dyma'r diwrnod pan roedd morwynion a gweision yn cael diwrnod i ddychwelyd adref i fynychu eu heglwys neu gapel teuluol, n么l adref. Daeth yn draddodiad hanesyddol felly i gael aduniad teuluol ar y diwrnod arbennig hwn.
Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd lonydd cefn gwlad yn y gwanwyn, arferai'r merched pigo blodau gwyllt i'w mam. A dyma ble daeth yr arferiad o gyflwyno tusw o flodau hardd.
Y Grawys
Er mai yng nghanol Grawys mae'r diwrnod, roedd yna rywfaint o ystwytho rheolau bwydydd y Grawys. Roedd yna draddodiad o bobi cacen Simnel a'i roi i'ch mam ar Sul y Mamau. Dyma 谤测蝉谩颈迟 gan bapur bro Yr Wylan. Ar ben y gacen mae un ar ddeg o beli marsip谩n sydd, yn 么l traddodiad, yn cynrychioli disgyblion yr Iesu gan adael Jiwdas allan.
Mae'n debyg fod yr enw Simnel yn dod o'r gair Lladin 'simila' sy'n golygu 'blawd m芒n'.