91Èȱ¬

Pesach - Pasg yr Israeliaid

Plât Seder

Neal Belkin o Israel yn sgrifennu am ŵyl Pesach yr Israeliaid.

Y ddwy ŵyl wanwyn, Pasg yr Iddewon a , yw'r gwyliau Iddewig a Christnogol â'r cysylltiadau cryfaf â'i gilydd. Hynny oherwydd bod y digwyddiadau y mae Cristnogion yn eu coffáu bob Pasg yn tarddu o ŵyl Pasg yr Iddewon.

Mae hyd yn oed eu henwau yn debyg: Pesach yn Hebraeg, a Pasg yn y Gymraeg. Ond nid felly yn Saesneg gan fod Easter yn dod o Eostre, duwies y gwanwyn y Saeson.

Yn ogystal â hyn, mae'r gwyliau hyn yn dathlu'r digwyddiadau a roddodd gychwyn i'r ddwy grefydd - croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu ar gyfer y Pasg ac ymadawiad yr hen Israeliaid o'r Aifft ar gyfer Pesach.

Yn gaethion yn yr Aifft

Mae'r Hen Destament yn adrodd i'r Israeliaid gael eu dwyn yn gaethweision i'r Aifft am fwy na dau gant o flynyddoedd. Yn ôl yr hanes yn Exodus 3-12 pan wrthododd brenin Yr Aifft ganiatáu i'r Israeliaid adael daeth Duw â deg pla ar ei bobl.

Mae enw'r ŵyl yn cysylltu â'r pla olaf; marwolaeth y cyntaf-anedig gyda Duw yn ymweld â phob tŷ yn Yr Aifft gan ladd y cyntaf-anedig. Ond pasiodd dros dai'r Israeliaid a dyna darddiad Pesach sy'n dod o'r gair Hebraeg am 'basio dros', sef 'pasach y mae'r enw Saesneg Passover yn gyfieithiad syml ohono.

Gŵyl y Bara Croyw

Wedi'r drasiedi hon roedd yr Eifftwyr am gael gwared â'r Israeliaid cyn gynted â phosibl ac o ganlyniad doedd dim digon o amser 'da nhw i bobi eu bara yn iawn. Wnaeth y toes ddim codi'n iawn a bu'n rhaid iddynt adael gyda bara croyw, matza yn Hebraeg.

Oherwydd digwyddiad hwn, hyd heddiw, dydy'r Iddewon ddim yn bwyta bara wedi ei lefeinio yn ystod holl gyfnod y Pesach a hynny'n egluro'r enw arall sydd ar yr ŵyl - Gŵyl y Bara Croyw.

Moses arweiniodd yr Israeliaid, yn ôl cyfarwyddiadau Duw, allan o'r Aifft ac i ryddid yn eu gwlad eu hunain gan dderbyn y Torah - Pum Llyfr Moses - a'r Deg Gorchymyn. Dyna pam y gelwir yr ŵyl hefyd Ŵyl ein Rhyddid.

Saith niwrnod

Y dyddiau hyn, mae Pesach yn parhau am saith niwrnod yn Israel (Ex 13:6), ac am wyth y tu allan. Ar y noson gyntaf, dathlwn trwy ddefod arbennig gartref ymhlith teulu a ffrindiau. Gelwir y noson hon yn 'Nos y Seder sy'n cynnwys, yn ogystal â phryd mawr, ddarllen hanes y Pesach o lyfr o'r enw Hagadah - y gair Hebraeg am 'adroddiad'.

Mae'r Hagadah wedi ei ysgrifennu fel na fydd y plant yn cwympo i gysgu! Mae'r ddefod yn cychwyn gyda'r plentyn ifancaf yn darllen cwestiynau am y Seder fel, "Pam rydyn ni'n bwyta matza?"

Gweddill y ddefod yw'r ateb i'r cwestiynau hyn er mwyn ein hatgoffa o'n caethiwed ac o'n hymadawiad sydyn gyda'r matza yn hytrach na bara cyffredin ac hefyd o'n taith hir drwy'r anialwch i Wlad Israel i ddod yn genedl rydd.

Ar ddechrau'r ddefod mae'r tad, neu pwy bynnag sy'n arwain y ddefod, yn dangos plât gyda thri matza i bawb sy'n bresennol o gwmpas y bwrdd. Mae'n torri un matza yn ddau ac yna'n cuddio un ohonyn nhw. Gelwir yr hanner matza yma yn Afikoman sy'n golygu 'ancwyn' neu fwyd yn y Groeg. Yn ystod y pryd, mae'r plant yn chwilio amdano a'r plentyn sy'n ei ddarganfod yn derbyn gwobr.

Wyau mewn dŵr halen

Fel gyda phob pryd gŵyl, mae bwydydd arbennig, yn ogystal â'r matza, sy'n cael eu bwyta yn ystod y pryd.

Wyau, er enghraifft ond nid wyau siocled nac wyau wedi'u llenwi â hufen melys gwyn a melyn fel y rhai y mae'r plant yn eu mwynhau fel rhan o'r Pasg Cristnogol ond wyau wedi eu berwi'n galed mewn dŵr halen! Hynny, oherwydd bod yr wyau yn arwydd o fywyd newydd - sef, cenedl newydd - a'r dŵr halen yn arwydd o ddagrau'r caethion.

Llysiau chwerw

Rydym ni'n bwyta tamaid bach o lysiau chwerw fel rhuddygl - horseradish - gyda'r matza er mwyn ein hatgoffa o fywydau chwerwon y caethion.

Serch hynny, gŵyl hapus yw Pesach ac o'r herwydd rydym yn bwyta hefyd rywbeth melys gyda'r chwerw - charoset sy'n bast wedi'i wneud o afalau, cnau, datys a gwin.

Ar ôl y pryd, mae'r tad yn rhoi darn o'r Afikoman i bawb. Matza, wyau gyda dŵr halen, llysiau chwerwon, charoset a bwydydd syml. Ond rhan o Ŵyl y Pasg ydyn nhw, ac, yn blentyn, roeddwn i'n hoff iawn o'r Pesach a Nos y Seder a'r defodau. Yn wir, hyd heddiw, Pesach yw fy hoff ŵyl.

Y Swper Olaf

Dechreuais y darn hwn trwy sôn am y cysylltiadau rhwng Pesach a'r Pasg - ond mae cysylltiad pwysig arall hefyd, Y Swper Olaf. Pryd y Seder oedd y Swper Olaf ac fe ddathlodd Iesu Ŵyl y Pesach gyda'i ddeuddeg disgybl. Mae'r hanes yn y Testament Newydd (Mat 26:17-30). Ac ar ôl Pryd y Seder, yr un noson cafodd Iesu ei fradychu, a chyn bo hir, ei groeshoelio.

Ond - yn ôl y traddodiad Cristnogol - fe gododd ar y trydydd dydd felly, mae'n bosibl dweud i Gristnogaeth gael ei geni yn ystod yr ŵyl Iddewig, Pesach.

Neal Belkin


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.