"Mi ddysgais i sut i wneud jam gan nain. Fel arfer, byddwn yn cael dau bwys o ffrwythau a dau bwys o siwgr. Mae faint o dd诺r rydach chi'n ei roi i mewn yn dibynnu ar ba ffrwyth rydach chi'n ei ddefnyddio - does dim angen unrhyw dd诺r efo mafon, ond rhywfaint gydag afalau.
"Rhaid rhoi'r ffrwythau yn gyntaf i feddalu, yna rhoi'r siwgr i mewn pan mae o wedi cyrraedd y cysondeb iawn. Rhaid rhoi'r un faint o siwgr a ffrwythau bob tro.
I sicrhau eich bod yn cael set dda, rydw i'n cymryd mymryn ohono ar lwy a'i roi mewn metholated spirits. Os 'da chi'n cael blob iawn, mi wneith setio'n dda - os na, berwch o am ychydig hirach, neu adiwch ychydig o sudd lemon neu gyrrent duon. Os ydy'r gymysgedd yn rhy galed, mae'n rhy hwyr i wneud jam, er y gallech ei ddefnyddio fel puree neu rywbeth.
"Yna rydw i'n ei roi mewn jariau cynnes, a rhoi caead yn syth i'w gadw'n ffres. Rhaid cynhesu'r jariau wrth gwrs - peidiwch 芒 rhoi jam poeth mewn jar oer neu fe fydd yn cracio!
"Fy hoff jam yw un mafon a nectar卯n. Dwi ddim yn hoffi lot o hadau, ac mae mafon yn anodd i'w setio, felly rydw i'n rhoi ychydig o nectar卯n hefyd."
Yn wreiddiol wedi ymddangos ar wefan 91热爆 Lleol i Mi.