Caiff yr 诺yl arbennig yma ei dathlu ar Fedi 29ain. Roedd G诺yl Fihangel yn arfer bod yn un o'r dyddiau pwysicaf y calendr.
Cysylltir yr 诺yl hefyd gyda'r dywediad 'Haf Bach Mihangel', os yw'n dywydd braf o gwmpas y cyfnod yma.
Mae s么n yn y Beibl am Sant Fihangel, ble mae ef a'i lu o angylion yn ymladd gyda'r ddraig. Mae'n symboleiddio'r frwydr rhwng da a drwg.
Rhoddodd y Pab Gelasius yr 诺yl i Sant Fihangel yn y flwyddyn 487 OC. Yn dilyn hyn bu llawer o ddrychiolaethau o'r Sant o amgylch y byd. Roedd y gweledigaethau yma o hyd yn digwydd ar ben bryniau. Yn hwyrach byddai capeli yn cael eu codi yno er mwyn anrhydeddu'r Sant.
Mae bwyta g诺ydd ar 糯yl Fihangel yn un traddodiad. Credir fod hyn gan i'r Frenhines Elisabeth y Cyntaf fwyta g诺ydd pan glywodd y newydd am orchfygiad yr Armada Sbaenaidd. Yn dilyn hyn daeth yn arferiad i fwyta'r aderyn yma i ddathlu'r 糯yl Fihangel.
Cysylltiad arall gyda'r 诺yl yw na ddylid casglu na bwyta mwyar duon ar 么l Medi 29ain. Yn 么l hen draddodiad, y gred yw bod y Diafol wedi eu gwneud yn anaddas i'w bwyta ar 么l y diwrnod hwn. Mae'n dial gan iddo gael ei luchio o'r nefoedd gan yr Archangel Mihangel a glanio i ganol mieri! Er mwyn dial, credir fod y Diafol yn poeri (neu waeth!) ar y mwyar duon ar y dyddiad yma.
Mae rhai pobl o'r farn mai'r hen 糯yl Fihangel, ar Hydref 10fed yw'r dyddiad i beidio casglu mwyar duon. Ar 么l yr adeg hon maen nhw fel arfer wedi dechrau crino a ddim ar eu gorau.