Dathlir ddydd ff诺l Ebrill ar y cyntaf o Ebrill bob blwyddyn. Diwrnod yw hwn ble ceir y cyfle i chwarae j么c ar gyfeillion drwy drio eu gwneud y ff诺l. Fel rheol, rhaid chwarae'r tric cyn hanner dydd, neu'r castiwr fydd y ff诺l Ebrill.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Bydd y cyfryngau yn aml yn ymuno yn hwyl y dydd arbennig yma. Yn 1957, fe wnaeth rhaglen newyddion Panorama eitem ar sbageti yn tyfu ar goed yn y Swistir.
Hefyd yn 2008 dangosodd y 91热爆 glip o bengwiniaid yn hedfan gan ddweud eu bod yn hedfan o'r Antarctig i Dde America er mwyn cael mymryn o haul.
Tric ff诺l Ebrill sydd yn aros yng nghof llawer o Gymry yw'r un a chwaraeodd Sulwyn Thomas a'r wrandawyr ei raglen Stondin Sulwyn ar Radio Cymru yn 1985.
Does neb yn siwr iawn o lle y tarddodd Ff诺l Ebrill. Mae o'n dyddio'n 么l i gyfnod cynnar iawn - yn gysylltiedig 芒'r hwyl a miri oedd yn rhan o hen ddathliadau paganiadd y Gyhydnos a dechrau'r gwanwyn. Mae'r ffaith bod Lleu - hen dduw haul y Celtiaid - hefyd yn dduw hwyl a hiwmor, yn si诺r o fod yn rhywbeth i'w wneud 芒 hyn. Ac, wrth gwrs, ei 诺yl o ydi'r Gyhydnos, ddiwedd Mawrth - pan fydd oriau'r dydd o'r diwedd gyhyd 芒'r nos, ac yn arwydd fod yr haul a'r haf wedi trechu'r tywyllwch a'r gaeaf.
Twm Elias, Tro Drwy'r Tymhorau.
Drwy gael y Parchedig I.D.E Thomas o Los Angeles i mewn ar y j么c, llwyddodd Sulwyn i dwyllo nifer o'i wrandawyr drwy ddatgan fod yr Eisteddfod am gael ei lwyfannu yn America yn 1991!
Dywedodd fod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol am gyhoeddi eu bwriad i gynnal yr 诺yl flynyddol yn Los Angeles a byddai modd i garafanwyr Cymru logi Winnebagos moethus yno! Roedd y ffonau'n boeth yn ystod y rhaglen, gyda rhan fwyaf o'r cyfranwyr yn gwrthwynebu'r fath syniad.
Cyrhaeddodd yr hanes dudalen flaen Y Cymro wythnos yn ddiweddarach, gyda'r teitl 'Ffyliaid Ebrill yn Ffyrnig'. Roedd yn adrodd yr hanes am wrandawyr Radio Cymru yn condemio'r syniad o fynd a'r Eisteddfod allan o Gymru.