Mae 'diwrnod crempog', neu ddydd Mawrth Ynyd, yn digwydd ar y diwrnod olaf cyn y Grawys, sy'n dechrau ar ddydd Mercher Lludw. Mae'r dyddiad yn ddibynnol ar 诺yl symudol a gall amrywio o ddechrau mis Chwefror i ganol Mawrth.
Roedd hi'n arferiad ers talwm i blant 'hel crempog' ar ddydd Mawrth Ynyd a dyna darddiad cynifer o benillion a rhigymau a gysylltir 芒 'diwrnod crempog', fel yr enwog 'Modryb Elin Enog'.
Ysgrifennodd Tecwyn Vaughan Jones am yr arferiad yn sir Gaernarfon a M么n yn rhifyn Chwefror 2007 Llafar Bro:
"...yn sicr yn sir Gaernarfon a sir F么n byddai plant yn heidio o gwmpas sawl tref a phentref yn canu am grempog ar Ddydd Mawrth Ynyd.
"Gwyddys fod hwn yn arferiad ledled Cymru ar un adeg. Ers talwm, ganrif a mwy yn 么l roedd hwn yn arfer cyffredin ymysg plant y tlodion. Fel hel calennig byddai cryn wrthwynebiad yn yr ardaloedd trefol a chan bobl y capel i'r fath fegera. Parhaodd y traddodiad ac ambell un yn mynd ati yn unswydd i wneud crempog ar gyfer y plant ddeuai i hel, yn union fel y byddent hefyd yn mynd ati i wneud cyflaith ar nos Galan, i'w roi i'r plant fel calennig y bore canlynol.
"Roedd hwn yn hen draddodiad wrth gwrs ond pylodd y diddordeb yn ystod y 19fed ganrif. Sonnir fel y byddai trigolion yr wyrcws yn cael eu hel allan ar ddydd Calan a dydd Mawrth Crempog i fynd i hel.
"Caent lond eu boliau yn 么l y s么n - ac mae crempog yn llenwi bol does dim dwywaith am hynny! Roedd boliau llawn yn arbed arian i reolwyr yr wyrcws yn ogystal!"
Modryb Elin Enog
Y rhigwm 'hel crempog' mwyaf cyfarwydd inni heddiw ydy Modryb Elin Enog. Dyma un fersiwn ohoni:
Modryb Elin Enog
Os gwelwch yn dda gai grempog?
Ma mam yn rhy dlawd i brynu blawd
A Sian yn rhy ddiog i n么l y triog
A nhad yn rhy wael i weithio
Os gwelwch yn dda gai grempog?
Mae'n debyg bod y rhigwm yma'n deillio o rigymau h欧n oedd yn cael eu canu ar ddydd Mawrth crempog, fel hon, y cofnododd Tecwyn Vaughan Jones gan wraig o'r Manod, 'Stiniog, oedd wedi ei magu yn ardal Aberdaron ar ddiwedd y 19eg ganrif:
Wraig y t欧 a'r teulu da
A welwch chi'n dda roi crempog?
A lwmp o fenyn melyn mawr
Fel 'raiff i lawr yn llithrig;
Os ydych chwi yn wraig led fwyn,
Rhowch arni lwyn o driog.
Os ydych chwi yn wraig led frwnt
Rhowch arni lwmp o fenyn;
Mae rhan i'r gath, a chlwt i'r ci bach
A' r badell yn grimpin grempog!
A dyma un arall o tua 1890 a gofnododd yn ardal Ffestiniog:
Os gwelwch chi'n dda ga'i grempog,
Os nad oes menyn yn y t欧
Ga'i lwyad fawr o driog.
Mae mam rhy dlawd i brynu blawd
A nhad rhy ddiog i weithio.
Rysait Crempog
Rysait Crempog o bapur bro Clochdar, ardal Cwm Cynon (rhifyn Chwefror 2008).
Mae angen:
4 owns o flawd plaen
Pinsiaid o halen
1 wy
Hanner peint o laeth
Lard ar gyfer ffrio
Offer:
Padell ffrio fach
Chwisg
Rhidyll a chyllell balet
Plat
1. Rhidyllwch y blawd a'r halen i mewn i fowlen.
2. Curwch yr 诺y a'r llaeth.
3. Yn raddol, ychwanegwch yr 诺y a'r llaeth at y blawd. Curwch yn dda.
4. Cymysgwch nes y bydd gennych gytew (batter) llyfn. Defnyddiwch y chwisg i wneud hyn.
5. Toddwch ychydig o lard mewn padell ffrio. Gofalwch nad oes gormod o saim yn y badell, ond rhaid gorchuddio'r gwaelod.
6. Arllwyswch ychydig o'r cytew i'r badell gan wneud yn si诺r fod y cytew yn gorchuddio gwaelod y badell. Coginiwch am 2-3 munud nes i'r grempog setio. (Gellir ychwanegu cwrens duon wrth goginio'r ochr gyntaf.)
Defnyddiwch gyllell balet i ryddhau'r ochrau. Trowch y grempog drosodd.
7. Coginiwch eto am 2-3 munud. Trowch y crempogau ar bl芒t cynnes a gweinwch hwy gyda sudd lemwn a siwgr.