![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![Clawr y llyfryn](/staticarchive/306b31dc2cba2790dca6e7be30335f7028e8f927.jpg) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Llyfrau
Dylan
Cyhoeddi rhestr o lyfrau am Dylan Thomas a chan Ddylan Thomas
Ebrill 2003
|
Mae
Dylan Thomas yn siwr o fod y llenor Cymreig y sgrifennwyd y mwyaf
amdano gan feirniaid a chofianwyr.
Ac i nodi hanner canmlwyddiant ei farwolaeth y mae Cyngor Llyfrau
Cymru wedi cyhoeddi llyfryn yn rhestru detholiad o lyfrau sydd ar
gael wedi eu sgrifennu gan Dylan ac am Dylan.
Mae'n cynnwys manylion am 46 o deitlau i gyd gyda lluniau llawn lliw
o'u cloriau - ond dim ond cyfr\zan fechan iawn yw hynny o'r holl lyfrau
sydd wedi eu cyhoeddi am yr awdur a'r bardd o Abertawe..
Mae'r teitlau yn amrywio o A Child's Christmas in Wales i ffacsimili
o sgript radio gan Dylan Thomas a'r trosiad Cymraeg poblogaidd o Under
Milk Wood - Dan y Wenallt.
Wrth gyhoeddi'r llyfr dywedodd Elwyn Williams o'r Cyngor Llyfrau:
"Yr
ydym yn falch o'r cyfle i gyfrannu at ddathliadau'r flwyddyn drwy
gyhoeddi llyfryn fydd yn hyrwyddo gwaith yr awdur yng Nghymru a thu
hwnt, gan wybod y bydd yn rhestr ddefnyddiol i'r holl bobl sy'n edmygu
gwaith y bardd o Abertawe."
Cefnogwyd y cyhoeddiad gan Ganolfan Dylan Thomas yn Abertawe sydd
yn cynnal blwyddyn bron o ddigwyddiadau i nodi'r hanner canmlwyddiant
yn cynnwys sgyrsiau, darlithoedd, perfformiadau, arddangosfeydd, teithiau,
darllediadau a gwyliau.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|