|
|
Cofio
digrifwr dawnus
Cyfrol yn cyffwrdd a holl ddoniau Ryan Davies
Chwefror 2003
|
Cofiant Ryan gan Rhydderch Jones. Y Lolfa. 拢5.95.
Cofiant wedi ei ail-gyhoeddi ydi hwn - i gydfynd a chofio chwarter
canrif marwolaeth y diddanwr a'r digrifwr tra ar wyliau yn yr Unol
Daleithiau fis Ebrill 1977.
Ers cyhoeddi'r gyfrol y tro cyntaf yn 1979 bu farw ei hawdur, y dramodydd
Rhydderch Jones, hefyd.
Y Lolfa sy'n cyhoeddi'r gyfrol y tro hwn ond o ran geiriad nid yw'n
wahanol i'r argraffiad cyntaf ar wah芒n i ragair gan Bethan Davies,
merch Ryan.
Cyfaill a chydweithiwr
Teg dweud mai teyrnged yn hytrach na chofiant moel a gafwyd gan Rhydderch
Jones a honno'n deyrnged gan gyfaill a chydweithiwr gyda'u cyfeillgarwch
yn cael ei olrhain o gyfnod y ddau yn fyfyrwyr yn Y Coleg Normal ym
Mangor.
Daeth Ryan i'r coleg yn dilyn cyfnod o wasanaeth milwrol gyda'r RAF.
Daw yn eglur yn fuan fod hwn yn gyfnod eithriadol o gyfoethog yn y
coleg o safbwynt myfyrwyr 芒 dawn i ddifyrru ac nid oes amheuaeth ychwaith
mai Ryan Davies oedd y seren ddisgleiriaf yn eu plith.
Mwy na digrifwr
Y mae tuedd - a pheryg - inni feddwl amdano fel digrifwr a chlown
yn unig ond yr oedd wedi ei ddonio yn llawer helaethach na hynny.
Mae Rhydderch Jones yn dyfynnu geiriau y diweddar Alun Williams toc
wedi marw Ryan:
"Os y'ch chi'n mynd i feddwl amdano, a'i gofio fe yn 么l ei dalentau
e, wel, dyma'r difyrrwr Cymraeg mwya erioed, heb os nac oni bai. Ma'
dyn yn tueddu i feddwl, tase fe wedi bod yn ganwr mawr, fe fase fe
wedi medru ennill bywoliaeth iddo fe'i hun - fel canwr, actor, ysgrifennwr,
cynhyrchydd, pianydd neu delynor."
Dydi o ddim yn cynnwys y gair "actor" yn ei restr ond yr oedd
Ryan yn actor deallus, yn yr ystyr traddodiadol, hefyd ond bod hynny'n
cael ei anghofio oherwyddcymaint o argraff a wnaeth fel y Fe yn Fo
a Fe ac fel hanner ddoniolaf y ddeuawd gomedi, Ryan a Ronnie.
Mae'r ffaith fod teledu hyd heddiw yn dal i ailddangos ei gyfraniadau
yn arwydd eithaf sicr na ddaeth neb, mewn gwirionedd, i lenwi ei esgidiau.
Mae meddwl hynny yn gwneud hon yn gyfrol drist wrth inni sylweddoli
gymaint y dalent a gollwyd.
Stori dda
Ond dydi hi ddim yn gyfrol bruddglwyfus ac y mae Rhydderch Jones yn
olrhain gyrfa Ryan yn ddeheuig a difyr iawn gydag ambell i stori wirioneddol
werth chweil fel yr un am eu hymweliad 芒 chartref y dramodydd Marghanita
Laski pan oeddan nhw'n actio mewn cynhyrchiad Cymraeg o'i drama, The
Offshore Island.
Mae'n ddarlun hoffus o Gymry digon gwladaidd mewn gwirionedd yng nghymdeithasfa
gwraig yr oedd J. B. Priestly yn JB iddi a llenorion fel Racine a
Voltaire yn fara beunyddiol iddi.
"Bu pedwar ohonom yn nodio am chwarter awr gyda deallusrwydd pedwar
llwdwn," meddai Rhydderch Jones am eu sgwrs.
Nes i Ryan fedru troi'r sgwrs honno gyda'r frawddeg anhygoel:
"Talking about cynghanedd (achos yr oeddan nhw wedi crwydro
at Gerald Manley Hopkins erbyn hyn), is that a harpsichord?"
meddai.
Daeth y seiat i ben gyda Ryan yn chwarae Cainc y Datgeiniaid
ar yr offeryn.
"Ac fe ganodd Ryan a minnau Gywydd y Berwyn iddi! Roedd y ddynes
annwyl honno wrth ei bodd. Ac roedd y croeso yn gynnes a diymhongar."
Marw ar wyliau
Ar wyliau gyda'r teulu yn yr Unol Daleithiau y bu farw Ryan Davies
yn 1977. Yr oedd yn un o'r digwyddiadau hynny a wnaeth i bobl gofio
lle'r oeddan nhw pan glywsant y newyddion - neu o leiaf gofio'r ysgytwad
a achosodd y newyddion.
Yr oedd yn daranfollt ac yntau mor ifanc ac ar anterth ei yrfa a chymaint
ganddo i'w gyflawni eto.
I gyfleu'r syfrdandod mae Rhydderch Jones, yn dyfynnu yr hyn a ddywedodd
un o benaethiaid y 91热爆 wrtho.
"Rwy'n cofio," meddai, "Emyr Daniel yn dweud wrthyf y bore hwnnw fod
yr Adran Newyddion sy'n delio 芒 thrasied茂au, erchylltra a dioddefaint
yn feunyddiol, wedi ei barlysu'n (sic) llwyr, pob un yno heb air,
pob un a'i ddolur personol."
Ychwanega: "Hyd heddiw, pan fo amser wedi lleddfu y boen i raddau,
mae unigolion yn dweud wrthyf beth oeddent yn ei wneud a lle yr oeddent
pan glywsant am ei farwolaeth. Mae'n debyg fod gan bawb ei gof ei
hun am Ryan, a phawb yn hawlio rhyw ddarn bach ohono."
Teyrngedau
Mae'r gyfrol yn cloi gyda rhes o deyrngedau gyda D. G. Evans yn proffwydo
mewn englyn
Bydd bwlch hir o golli'r gwr
Dewin o gomediwr
ac y mae yn arwyddocaol ei bod bron a bod yn ystrydeb ymhlith beirniaid
teledu a'u tebyg i alarnadu hyd yn oed heddiwr na ddaeth neb i lawn
lenwi ei esgidiau.
Ond mae yna fwy na galarnadu yng nghofiant Rhydderch Jones y mae yna
werthfawrogi, edmygu a threiddio hefyd mewn teyrnged sy'n gytbwys,
sensitif a difyr.
Ac y mae yma gyfoeth o luniau - er ei bod yn drueni na ddewisodd y
wasg ddalennau o faint a fyddai wedi gwneud mwy o chwarae teg a'r
holl gyfoeth hwnnw o luniau 'personol' a phroffesiynol.
Canolbwyntio ar yrfa
Gwir mai ar yrfa'r diddanwr y canolbwyntiodd a phrin yw'r s么n am y
person preifat y tu 么l i fasg y clown a'r comic. Ond y mae ambell
i ddyfyniad awgrymog fel Ryan ei hun yn dweud:
"Diolch i'r nefoedd, pan ddof oddi ar y llwyfan, gallaf anghofio'n
sydyn fy mod wedi bod arno. Byddai ceisio byw gyda'r Ryan sydd ar
y llwyfan, coeliwch fi, yn annioddefol. Allwch chi ddychmygu bod yn
briod am 24 awr - i glown? Amhosibl. Dim ond dyn yn gwneud ei waith
ydw i wedi'r cyfan."
Tebyg y byddai'r gyfrol wedi elwa ar ei diweddaru neu hyd yn oed lunio
cyfrol newydd gyda theyrnged Rhydderch Jones yn gnewyllyn iddi.
Glyn Evans.
Mae'r adolygiad hwn yn ymhelaethiad o adolygiad a gyhoeddwyd ar wefan
, Cyngor Llyfrau
Cymru.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|