|
|
Ennill
mil efo stori
Awdur tro cyntaf yn cipio gwobr stori fer, 'Briallu'
Gorffennaf 2003
|
Cliciwch
er mwyn darllen y stori yn awr
ar y stori yn cael ei darllen gan Mari Emlyn
Y
feirniadaeth gyflawn
Athrawes o ardal Aberhonddu yw enillydd cystadleuaeth Stori Fer
rhaglen Y Celfyddydau ar 91热爆 Radio Cymru.
Bydd Sian Reeves yn derbyn gwobr gyntaf o 拢1,000 ac mae ei gwaithi'w
weld ar y wefan hon.
Dyma'r tro cyntaf i Sian, 39, sy'n wreiddiol o Gaerdydd ond nawr yn
byw yn mhentref Cradoc ger Aberhonddu, gystadlu mewn cystadleuaeth
ysgrifennu, er ei bod yn cadw dyddiadur ers blynyddoedd maith.
"Dwi wedi sgrifennu i mi fy hun erioed," meddai. "Fe wnaeth Aled Islwyn
ddweud yn y feirniadaeth fy mod i'n sgwennu mewn ffordd reddfol, a
dwi'n meddwl bod hyn yn wir. Dwi'n sgwennu pan dwi'n teimlo fel gwneud...
Ond doeddwn i erioed wedi ystyried sgwennu ar gyfer cael ei ddarllen
gan bobol eraill - doeddwn i byth yn meddwl mod i'n ddigon da!"
Daeth Si芒n i'r brig mewn cystadleuaeth neilltuol o uchel ei safon,
gydag Aled Islwyn, Robin Llywelyn ac Angharad Price yn pennu beirniadaeth
ar yr 110 o stor茂au byrion a ddaeth i lawr.
"Dwi wrth fy modd wrth gwrs gyda'r wobr. Gyda dau o blant, fydd hi
ddim yn anodd o gwbl i wario'r arian! Y cynnig callaf hyd yma ydi
prynu cwt i'r ardd - cwt sgrifennu. Mae Dafydd y mab wrth ei fodd
yn sgrifennu tipyn hefyd, felly fe fydd o'n gwt sgwennu teuluol mae'n
siwr."
Yn ogystal a bod yn wraig ty mae Si芒n yn athrawes Gymraeg rhan amser
yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, lle mae'i gwr Tony yn Bennaeth yr Adran
Ffiseg.
Meddai'r beirniaid
Does dim byd syfrdanol o wreiddiol yn y stori fel stori. Roedd creu
gwrthgyferbyniad rhwng y Gymru gyfoes a'r Gymru wledig, draddodiadol
yn un o'r them芒u a frigodd i'r wyneb yn gyson yn y gystadleuaeth.
Ond y mae yma awdur greddfol sy'n gallu defnyddio ei grebwyll creadigol
cryf i ennyn ymateb. Perthyn y stori hon i'r ganrif hon - yn wir,
fe berthyn i eleni. Hyd yn oed wrth drafod sefyllfaoedd pur gyffredin
fel teulu ar wyliau, rhoddir iddynt arwyddoc芒d annisgwyl o gyfoes
a ffres.
Y gystadleuaeth
Lansiwyd Cystadleuaeth y Stori Fer ym mis Chwefror eleni yn ystod
cyfres 'Y Celfyddydau' ar Radio Cymru gyda gwobr o 拢1000.
Y tri beirniad oedd Angharad Price, Robin Llywelyn ac Aled Islwyn
Darllen y stori
ar y stori yn cael ei darllen gan Mari Emlyn
|
|
|