91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Adnabod bro drwy ei cherddi

Cyfrol sy'n profi fod mwy i Abertawe na Dylan Thomas

Dydd Iau, Rhagfyr 26, 2002

Cerddi Abertawe ²¹â€™r Cwm (gol. Heini Gruffudd). Gwasg Gomer, £6.95
Pedair seren
Adolygiad: Eiry Miles

Cysylltir Abertawe’n bennaf â llenyddiaeth Eingl-Gymreig, a chred llawer hyd heddiw mai dinas Seisnig yw hi.

Derbyniodd Dylan Thomas a chriw’r Kardomah lawer o sylw ar draul gweithgarwch llenyddol Cymraeg y fro, ond daeth cyfle yn awr i unioni’r cam hwnnw.

Yn y gyfrol Cerddi Abertawe ²¹â€™r Cwm, y drydedd yng nghyfres Cerddi Fan Hyn, llwydda Heini Gruffudd i brofi nad dinas Dylan yn unig yw hon.

Hagrwch a harddwch
Yr hyn sy’n ei gwneud yn gyfrol arbennig o ddifyr yw’r ffaith fod Abertawe ei hun yn ardal mor amlweddog.

Rai milltiroedd o Fro Gwyr ( a glustnodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ) mae creithiau diwydiannau trwm, a hagrwch yr adeiladau modern a godwyd blith-draphlith wedi’r rhyfel.

Rhaid canmol y golygydd am ddewis cerddi sy’n adlewyrchu’r cyferbyniadau hyn.

Er ei bod yn llai na chant a hanner o dudalennau, mae’r gyfrol yn delio â chyfnod eang, ac yn rhoi lle i feirdd o bob math.

O'r Oesoedd Canol hyd heddiw

Mae ynddi gerddi gan feirdd o’r Oesoedd Canol, a chan feirdd cyfoes megis Mari George a Mari Stevens.

Cawn gerddi gan y prifeirdd Emyr Lewis, Robat Powel ac Alan Llwyd, a beirdd llai cyfarwydd fel Prys Morgan, sy’n fwy adnabyddus fel hanesydd na bardd.

Nid ‘Âá²¹³¦²õ’ yw’r beirdd i gyd chwaith; cawn gerddi twymgalon i’r ardal gan ei brodorion, ond mae Bryn Road Tudur Hallam yn mynegi teimladau chwithig mewnfudwr i’r fro.

Rhoddir hefyd le i waith y byddai rhai yn gyndyn o’i alw’n farddoniaeth, sef geiriau caneuon pop Huw Chiswell a Neil Rosser.

Heli'r môr

Fel y gellid disgwyl, mae’r môr yn elfen amlwg yn nifer o’r cerddi gyda Glas gan Bryan Martin Davies yn sôn yn hiraethus am dripiau’r bardd i’r Mwmbwls yn blentyn.

Mae’r môr yn gefnlen hudolus i brofiadau serch Mari George yn ei cherddi.

Gwylltineb a chreulondeb y môr sydd yn Bywydfad y Mumbles gan John Rees, ²¹â€™r môr yn adleisio gwewyr meddwl Islwyn yn dilyn marwolaeth ei gariad yn y gerdd Atgofion Serch.

Cerddi natur yw nifer o gyfraniadau Alan Llwyd i’r gyfrol, a disgrifio adfywiad byd natur ar ôl cau’r gweithiau diwydiannol a wna Dangosaf iti lendid gan Dafydd Rowlands.

Eithr ceir awgrym yn ei gerdd Y Pentref Hwn nad yw pethau o angenrheidrwydd yn well, ac mae Yr Hen Waith Tun gan Abiah Roderick yn disgrifio cymdeithas yn chwalu yn sgil diweithdra.

Perfformiad

Cerddi a berfformiwyd o flaen cynulleidfaoedd yw llawer o gerddi hynaf y casgliad, sy’n rhoi cip i ni ar gylchoedd barddonol bywiog a fu yn yr ardal, a rhydd cerdd Crwys i Graig-Cefn-Parc ddarlun o gymdeithas ddiwylliedig a Chymraeg ei hiaith.

Er hyn, nid yw’r gyfrol yn cyflwyno darlun delfrydol o Abertawe a’i phobl. Yn y gerdd Suburbia gan Aneirin Talfan Davies, trafodir y maestrefi oeraidd a ddisgrifiodd Saunders Lewis yn ei nofel Monica.

Mae Croeso Capel gan J.Gwyn Griffiths yn sôn am anfoesgarwch addolwyr ei gapel tuag at ei wraig, a cherdd Prys Morgan, Bro Gwyr , yn beirniadu ‘cryg werinos’ Seisnig y fro.

Disgrifiadau cignoeth

Nid rhamantu a hiraethu am ‘oes aur’ a wneir yn y gyfrol ychwaith; cawn ddisgrifiadau cignoeth o ddioddefaint y gweithwyr diwydiannol yn Y Meirwon gan Gwenallt.

Yn anochel, mae Caerdydd yn aml yn gocyn hitio, megis yng ngherdd grafog Robat Gruffudd, Second Siti.

Lladd ar Gaerdydd a wn²¹â€™r bardd canoloesol Lewys Glyn Cothi hefyd, yn ei gerdd I Ddymuno Iachad i Ddafydd ap Siôn. Ynddi, mae’r bardd yn annog Dafydd ap Siôn i arwain pobl Abertawe mewn ymosodiad ar Gaerdydd. Ymddengys nad peth newydd felly yw gelyniaeth y Swans ²¹â€™r Bluebirds!

Angen egluro

Ar y cyfan, mae’r cerddi i gyd yn ddealladwy, ac aralleiriad Cynfael Lake o’r cerddi canoloesol yn cyfleu ysbryd y cerddi gwreiddiol.

Ond, o bryd i’w gilydd, credaf y byddai rhywfaint o wybodaeth am gefndir y cerddi yn eu cyfoethogi.

Penderfynodd golygwyr y gyfres beidio â chynnwys nodiadau ysgolheigaidd, ond efallai na fyddai darllenwyr iau yn llwyr werthfawrogi cerddi megis Y Tangnefeddwyr gan Waldo a sonedau carchar T.E. Nicholas heb wybod am effaith andwyol y rhyfel ar Abertawe.
Er hyn, llwydd²¹â€™r casgliad i gyflwyno darlun lliwgar a bywiog o Abertawe o’r Oesoedd Canol hyd heddiw, ²¹â€™r newidiadau mawr a fu dros y canrifoedd.

Ond nid dinas sy’n byw yn y gorffennol yw hi; tôn herfeiddiol sydd i gerdd Mari Stevens, Cul Cymru. Iddi hi, mae Abertawe’n ddinas fyw, ddeinamig a Chymreig o hyd:

Hi sy’n meddwi
ar ddwyieithrwydd
ac ecstasi dinesig
sy’n pwmpio bît newydd
i’w Chalon Lân.


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy