|
|
Antur
enbyd
Argraffydd o Ddinbych yn mentro i fyd a bywyd newydd
Dydd Iau, Rhagfyr 19, 2002
|
Dyddiadur Mimosa - El diario del Mimosa gan Joseph Seth Jones.
Golygydd, Elvey MacDonald. Cyfres Dyddiaduron Cymru. Gwasg Carreg
Gwalch. 拢3.50.
Pryd bach blasus ydi Dyddiadur Mimosa yn hytrach na gwledd
- a dyna, wrth gwrs, y bwriad gyda'r gyfres newydd hon gan un o'r
prysuraf o weisg Cymru.
Cyfres sydd, o ran diwyg, oddeutu hanner arwynebedd llyfr clawr meddal
arferol yn mesur ond 10cm efo 15.
Er yn 117 tudalen dim ond 60 dalen o waith darllen sydd yna gan fod
yr ail hanner yn fersiwn Sbaeneg o'r dyddiadur.
I Batagonia
Go brin fod angen egluro mai'r llong a gludodd y gwladfawyr cyntaf
i Batagonia oedd y Mimosa yn hwylio o Lerpwl ym Mai 1865 ar fenter
na all rhywun ond dychmygu pa mor enbyd oedd hi y dyddiau hynny.
"Ymhlith y gwroniaid a fentrodd ar fwrdd y Mimosa gwelir enw
Joseph Seth Jones, argraffydd ugeinmlwydd yng Ngwasg Gee, Dinbych,"
meddai Elvey MacDonald mewn cyflwyniad sy'n egluro sut y bu i'r argraffydd
ifanc ymgymryd a'r fath antur a beth oedd ymateb ei gyfeillion a'i
deulu i hynny.
Deunydd addas?
Yn argraffydd wrth ei alwedigaeth nid oedd Joseph Seth Jones y tebycaf
i ymgymryd 芒'r fath antur fel y mae Elvey MacDonald yn cydnabod:
"Nid oes amau diffuantrwydd y gwr ifanc sensitif hwn. Ysgogwyd ef
i ymuno 芒'r mudiad gwladfaol gan ei ddelfrydau gwladgarol a Christnogol,
ond gellir casglu oddi wrth ei ddyddiadur a'i lythyrau nad oedd ei
hyfforddiant na'i gyflwr corfforol yn ei wneud yn ddeunydd addas ar
gyfer cynllun mor uchelgeisiol, mor fentrus, ac mor anodd i'w weithredu
芒 gwladychu Patagonia."
Yn sicr doedd o ddim yn un o'r "amaethwyr profiadol" na "chrefftwyr"
y galwodd Edwin Cynrig Roberts, un o'r arweinwyr amlycaf, amdanyn
nhw.
Mynd gyda'r gwynt
Er mai pytiog a chryno yw'r dyddiadur - neu "Hanes fy mynediad
i Patagonia" fel y galwodd y dyddiadurwr y gwaith - y mae'n cyfleu
inni naws y fordaith enbyd a'r cyrraedd tir a oedd, mae'n siwr, yn
llawer mwy diffaith na'r hyn oedd y gwladychwyr wedi ei ddisgwyl o
gofio'r adroddiadau calonogol a gafwyd gan hyrwyddwyr y fenter.
Mae'n syndod, wrth gwrs, fod dyddiadur o gwbl wedi goroesi ac adroddir
yn y gyfrol sut y cipiwyd rhai dalennau gan y gwynt a'u chwythu dros
ochr y llong i'r m么r - ond y mae digon ar 么l i'n argyhoeddi nad mordaith
esmwyth mo hon mwy nag unrhyw fordaith debyg y dyddiau hynny.
Plant yn marw
Mae mwy nag un cyfeiriad at farwolaeth plant ac angladd ar y m么r.
"Diwrnod teg. Hwylio yn araf iawn. Yn hwyr heddyw bu plentyn (merch)
oddeutu 2 flwydd oed i Robert Thomas a'i wraig, Bangor, farw," meddai
gan ddisgrifio'r angladd y diwrnod wedyn:
"Claddu'r plentyn am 10 o'r gloch y boreu, trwy ei daflu i'r m么r mewn
box a wnaed i'r pwrpas, a cherrig yn un pen iddo, i'r dyben
o'i suddo o'r golwg. Am 10 o'r gloch bu plentyn (bachgen) arall farw
plentyn i Aaron Jenkins, a'i briod, o Mountain Ash. Yr oedd
yntau oddeutu yr un oed."
Ddiwrnod arall mae'n cwyno am salwch ei hun;
"Ni chodais trwy'r dydd heddyw. Yr oeddwn yn rhydd iawn trwy'r nos
neithiwr, a pharheais felly trwy'r dydd heddyw, ac yr oedd genyf boen
lled dost yn fy mol," meddai un Sul gan ychwanegu mai testun pregeth
oedfa'r prynhawn oedd, "Rhaid gwedd茂o yn wastad a heb ddiffygio."
Llawer mewn ychydig
Er yn gyfrol fechan , y mae hon yn cynnig llawer gan beri i unrhyw
ddarllenydd ddeisyfu cael gwybod mwy am y fenter ryfeddol hon i greu
Cymru Gymraeg, Gristnogol, newydd ar beithdir ym Mhatagonia.
Ac adroddir hefyd stori ryfeddol enwi bryncyn - sydd i'w weld ar y
paith o'r ffordd fawr rhwng Porth Madryn a Threlew - ar 么l y dyddiadurwr
gan roi iddo anfarwoldeb pellach.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig
a'r Calan
|
|
|