|
|
Gwefr
diwygiad
Pwyso a mesur 04-05 a meddwl am heddiw
Dydd Iau, Rhagfyr 19, 2002
|
Diwygiad 04-05 gan Eifion Jones. Gwasg Bryntirion. 拢3.95.
Dydi rhywun ddim yn clywed y peth gymaint 芒 hynny y dyddiau hyn ond
yr oedd yna, rai blynyddoedd yn 么l fynegi barn mai "Diwygiad arall
fyddai'n dod 芒'r wlad yma yn 么l i drefn."
Ai arwydd o faint y dirywiad mewn safonau a moesau cymdeithasol yw'r
ffaith nad yw hynny'n cael ei ddweud gymaint y dyddiau hyn?
Fod pobl o'r farn fod pethau wedi mynd yn rhy bell ac nad oes ateb
. . .
Ynteu arwydd yw na chredant mai gan Gristnogaeth mae'r ateb?
Diau y byddai awdur y llyfryn bach hwn - gan wasg a oedd yn cael ei
hadnabod tan rai blynyddoedd yn 么l fel Gwasg Efengylaidd Cymru - yn
anghydweld gan ddadlau y daw gwaredigaeth os dyna yw ewyllys
Duw.
Cario pobol
Efallai fod y syniad o ddiwygiad crefyddol gyda rhyw angerdd crefyddol
yn sgubo a thwymo'r wlad yn rhywbeth digon estron heddiw.
Ond ddylai o ddim bod gan i ninnau weld mwy nag un enghraifft - hyd
yn oed yn ystod y blynyddoedd diweddar - o'r elfennau hynny oedd yn
bresennol mewn diwygiad crefyddol yn cael eu hamlygu a phobl yn cael
eu cario gan rhyw angerdd teimladol.
Tebyg mai'r enghraifft amlycaf oedd yr ymateb cyhoeddus i farwolaeth
y Dywysoges Diana gyda rhai pobl yn darogan yng nghanol gwres yr ymateb
hwnnw ein bod ar drothwy trobwynt yn ein hanes.
Ond os oeddem ar groesffordd o gwbl, go brin inni gymryd y ffordd
gywir. Dychwelyd at ei hen hunanoldeb a wnaeth cymdeithas wedi'r gwewyr
munud awr.
Yn hanes Cristnogaeth, gellid dadlau mai'r un peth a ddigwyddodd yn
dilyn ymchwydd diwygiad enwog 04-05.
Teimlo'r effaith
Ond y mae awdur y gyfrol hon yn dadlau, hyd yn oed cyn waethed ag
yw cyflwr crefyddol Cymru heddiw, y byddai'n waeth heb yr hyn a ddigwyddodd
yn ystod y ddwy flynedd ryfeddol yma.
"Nid dweud gormod yw honni na fyddai Cymru'r ugeinfed ganrif yr un
pe na byddai ddiwygiad yn 1904. Byddai gwacter mewn crefydd a'r dirywiad
moesol a chymdeithasol a'n daliodd y blynyddau diwethaf wedi 'u hamlygu
eu hunain dipyn cynt hebddo," meddai.
Yn Gristion neu beidio y mae'r syniad o Ddiwygiad yn yr ystyr gynnwrf
crefyddol yn un eithriadol o ddiddorol ac ni ellir ond rhyfeddu at
rai o'r straeon a adroddir yn y gyfrol hon wrth i'r Dr Eifion Evans
geisio "gosod Diwygiad 1904-05 mewn cyd-destun beiblaidd."
Safbwynt efengylaidd
Yn 'arbenigwr' yn y maes ac yn awdur nifer o lyfrau ar y pwnc, y mae
gan Eifion Evans ei safbwynt Cristnogol pendant ei hun ac o'r safbwynt
efengylaidd hwnnw y mae'n sgrifennu. Nid oes dim o'i le yn hynny.
Mae'n cychwyn trwy ddarlunio'r cyfnod a'r dyheadau a ragflaenai'r
Diwygiad ei hun.
"Efallai mai pinacl y dyhead am adfywiad oedd geiriau David Howell,
Deon Tyddewi. Ychydig cyn ei farw yn Ionawr 1903, addefodd mai angen
pennaf Cymru oedd adfywiad ysbrydol a fyddai yn 'gorlifo yr holl wlad',"
meddai wedi tynnu sylw at gyflwr cymdeithasol y wlad ar y pryd gyda'i
thlodi a'i meddwdod a'i gorthrwm a'i rhagrith Victoraidd.
Ac yn yr eglwysi collwyd, meddai, yn ystod chwarter olaf y bedwaredd
ganrif ar bymtheg sawl cynulleidfa "trwy gynnig rhyw fath o gandi
fflos yn lle maeth gwirionedd Duw" wrth i bregethwyr ganolbwyntio
ar berfformiad yn hytrach na chynnwys.
Enghreifftiau rhyfeddol
Dan y fath amgylchiadau dim rhyfedd fod pobl yn hiraethu am 'well'
ac fe gafwyd hynny yng ngwres y Diwygiad.
Disgrifir y Cardigan Pleasure Fair yn cael ei throi yn Gyfarfod
Diwygiad:
"Wrth i Maud Davies ganu'r pennill, Marchog Iesu yn llwyddiannus,
holltodd y ffair yn ddwy".
Yng Nghaerfyrddin, gorymdeithiodd pobl drwy'r strydoedd yn canu a
moli.
Meddiannwyd Bethesda, Arfon, gan "hurricane yr Ysbryd Gl芒n".
"O F么n i Fynwy yr oedd arwyddion o wanwyn ysbrydol."
Ac ymhlith y mwyaf blaenllaw o lafurwyr y gwanwyn hwnnw yr oedd llanc
26 oed o Gasllwchwr a fu'n gweithio mewn pwll glo ac wedyn yn ofaint,
Evan Roberts.
Mor allweddol ac amlwg oedd ef y mae'n cael pennod gyfan yn y llyfryn
55 tudalen.
Beth am heddiw
Er difyrred y straeon hyn - i ble maen nhw鈥檔 dod 芒 ni ac a ydyn nhw
yn berthnasol heddiw?
Mae'r llyfryn yn cloi gyda phennod "Diwygiad a'r sefyllfa heddiw"
lle mae'r awdur yn trafod yr anghenion ysbrydol sy'n bodoli heddiw
mewn cyfnod arall o argyfwng crefyddol.
"Trist yw cyflwr pobl Dduw," meddai Eifion Evans wrth gyfleu'r argyfwng
hwnnw a'r her mae'n ei gynnig, "Oeraidd a chyndyn ydym yn ein gwedd茂au.
Arwynebol yw cymdeithas y saint. Mae caledrwydd yn ein calonnau a
styfnigrwydd yn ein hagwedd."
Mae'n cloi trwy drafod y cwestiwn: "A oes gennym le i gredu y cawn
ddiwygiad arall?"
Holi'r
awdur
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig
a'r Calan
|
|
|