91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Cynhesrwydd cyfeillion difyr

Lyn Ebenezer yn yn cofio hen ffrindiau

Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002

Llond llaw a o adar brith ac ambell un parchus

Cofion Cynnes gan Lyn Ebenezer. £4.95. Gwasg Carreg Gwalch
Tair seren
Adolygiad: Dafydd Meirion


Casgliad o gydnabod yr awdur sydd yma, y rhan fwyaf yn fois y dafarn.
A beth sydd o’i le ar hynny?

Ond anodd iawn yw trosglwyddo cynhesrwydd y bar clyd i dudalennau oer llyfr ac yn araf braidd y mae’r llyfr yn cynhesu. Does fawr i’ch denu yn y penodau cyntaf ac mae’n cymryd hyd at y bennod ar Gwenallt cyn cynhesu go iawn.

Y lleol a'r cenedlaethol a'r byd-enwog

Mae yma gymysgedd o’r lleol a’r cenedlaethol; o Dai Rogers a wnâi i gannwyll corff sboncian ar lwyfan i Caradog Prichard a Cayo Evans.

A hyd yn oed y byd-enwog yn Richard Burton.

Fel tasech chi’n disgwyl, Cymry yw’r mwyafrif er bod yna gyfeiriadau at dripiau draw i Iwerddon. Mae’n werth darllen y bennod am Y Boil sy’n glasur o slicrwydd tafod y Gwyddel a slicrwydd sgwennu Lyn Ebenezer.

Tra’n sôn am y Gwyddelod, cawn hanes yr awdur yn cyfarfod Stephen Behan, tad Brendan a Dominic.

Sgwennwr mwyaf

Yn ôl y tad, fo oedd y sgwennwr mwya’n y teulu. Peintiwr oedd o wrth ei waith a onid oedd o wedi peintio enw tafarn leol mewn llythrennau wyth troedfedd o hyd ar dalcen yr adeilad!

Ac mae yna gyngor i ddramodwyr Cymru gan ei fab Brendan. Pan ofynnwyd iddo beth yw’r neges yn ei ddrama The Hostage, ei ateb yw "Neges? Beth ydych chi’n feddwl ydw i? Blydi postman?"

Ond mae gallu’r Gwyddel gan yr awdur i fathu dywediadau bachog. Mae’n sôn am hwyaden gafodd ei phrynu ar gyfer cinio’r Nadolig fel "sguthan ar ympryd", mae llais Luke Kelly o’r Dubliners fel un "angel crug" a dannedd Jimmy Boyle "fel stryd o fythynnod wedi’u condemnio".

Gwenallt - dyn anhapus

Ymyg y goreuon yw’r portread o Gwenallt. Ceir yma ddisgrifiad o ddyn anhapus ei fyd, dyn a gredai am wn i fod y byd i gyd yn ei erbyn.
O gyhoeddwyr i’r parchusion.

Ac mae Byddin Rhyddid Cymru, yr oedd Lyn yn rhyw fath o swyddog y wasg iddi, yn ei chael hi, hefyd, ganddo. "Mae ganddom ni fyddin, ond dyw hi ddim wedi saethu brân heb sôn am saethu Sais," meddai.

Ceir sôn am Lyn ar ei ffordd i wersyll hyfforddi’r fyddin yn y gogledd. ‘Dyma ddyn mewn lifrai gwyrdd ac yn dal dryll yn camu allan i’n hatal. "Ymhle mae pen Llywelyn ein Llyw Olaf?" gofynnodd. Cafwyd ateb ffwndrys a bloesg o’r cefn gan Peter Goginan. "Wel, dyw e ddim gen i!"’

Byd y bois

Ychydig iawn o ferched sy’n cael sylw yn y llyfr.
Byd y bois yw byd yr awdur, ond gan ferch mae un o’r sylwadau mwyaf doniol. Gwraig fferm yn pedlo beic heibio criw yn sefyll ar Sgwâr y Bont a dyma un yn ei chyfarch:

"Ma’r hen feic yn gwichian braidd."
"Fe fydde tithe’n gwichian, y diawl, petai ti rhwng ’y nghoese i," meddai’n ôl wrtho.

Llyfr difyr iawn, doniol y rhan fwyaf o’r adeg, dwys ar brydiau.
Ond llawer gwell gen i fyddai gwrando ar yr awdur yn adrodd y straeon dros beint neu ddau neu ... mae rhai ohonyn nhw wedi colli’u blas rhwng cloriau llyfr.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy