91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Llyfr teilwng o arwr cenedlaethol

Cyflwyno cymeriadau hanesyddol o gig a gwaed

Dydd Iau, Tachwedd 28, 2002

• Owain Glyn Dwr, Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru gan R. R. Davies Lolfa. £6.95.
Pum seren

Adolygiad gan Si芒n Ifan o Lysgenhadaeth Glyndwr, Caerdydd

Er gwaethaf ymdrechion y 'gwybodusion academaidd' a'r 'llyfwyr tinau gwasaidd' i bardduo a dileu hanes ein harwr cenedlaethol mwyaf allan o dudalennau hanes - fel petai'r hanes hwnnw yn daten boeth yn eu dwylo - mae hanes Tywysog Owain Glyndwr, wedi goroesi diolch i l锚n gwerin a nifer fechan o haneswyr gwladgarol ffyddlon.

Llanw wedi troi

Ac, yn wir, yn ystod y cyfnod yma o goff谩u 600 mlwyddiant y Rhyfel Mawr dros Annibyniaeth ymddengys fod y llanw wedi troi gyda mawredd Tywysog Owain Glyndwr yn derbyn, yn raddol, y gydnabyddiaeth mae'n deilwng ohono.

Cydnabyddir y mawredd yma mewn llefydd reit annisgwyliadwy a dweud y gwir.

Yn y p么l piniwn hwnnw gan bapur newydd Prydeinig The Times ar droad y mileniwm er enghraifft ac mewn un arall gan y 91热爆 y llynedd ar gyfer y rhaglen Great Britons ac hefyd gan arlywyddion gwleidyddol fel Fidel Castro.

Yn ei wlad ei hun

Ond yr un mor arwyddocaol 芒 phwysig yw'r gydnabyddiaeth sy'n cael ei meithrin i Dywysog Owain Glyndwr yn ei dywysogaeth frodorol.

Erbyn hyn mae nifer y cymunedau sy'n trefnu gweithgareddau i goff谩u a dathlu cyfnod 600 mlwyddiant y Rhyfel Mawr dros Annibyniaeth Gymreig yn cynyddu'n flynyddol.

Ac mae Dydd Owain Glyndwr yn cael ei anrhydeddu gan y Cynulliad a nifer gynyddol o gynghorau Cymru yn chwifio baner frenhinol Owain Glyndwr ar Fedi 16.

Tystiolaeth ychwanegol o'r gydnabyddiaeth newydd yma yw'r nifer o lyfrau sydd wedi ymddangos am Dywysog Owain Glyndwr ers y flwyddyn 2000.

Rees DaviesY diweddaraf o'r rhain yw cydweithrediad rhwng Y Lolfa a'r Athro R. R.Davies - sydd eisoes wedi ysgrifennu llyfr academaidd cynhwysfawr, yn Saesneg, o dan y teitl The Revolt of Owain Glyn Dwr - gwaith sy'n anhepgor ar gyfer unrhyw un sydd am astudio'r pwnc i ddiben academaidd.

Mae'r llyfr diweddaraf yma'n gwbl wahanol o ran maint, arddull ac iaith.

I'r darllenydd cyffredin

Fel y dywed yr awdur yn ei ragair, mae Owain Glyn Dwr wedi ei ysgrifennu mewn dull sydd o fewn cyrraedd y darllenydd cyffredin.

Felly, dyma lyfr y gellir ei ddarllen o glawr i glawr yn rhwydd ar daith hir mewn tr锚n, d'wedwch, a diweddu'r daith yn teimlo ichi ddod i adnabod Tywysog Owain Glyndwr a'i gyfnod yn gymaint gwell na chynt.

A hynny heb orfod pori mewn twmpath o weithiau academaidd - rhywbeth na fyddai'r darllenydd cyffredin yn dueddol i'w wneud. .

Mewn iaith seml, ddealladwy iawn, mae'r awdur yn cyflwyno darlun o sefyllfa wleidyddol Cymru'r cyfnod gan ddangos sut, y bu i'r gyfres o ddigwyddiadau ddatblygu i fod yn ddim llai na rhyfel i adennill annibyniaeth i Gymru a'i phobl.

Pobl o gig a gwaed

Wrth i ddarnau'r jig-so hanesyddol a gwleidyddol gael eu gosod yn eu lle ceir cyfle i gyfarwyddo a'r prif gymeriadau fel rhai cig a gwaed 'carismatig' y gellir uniaethu a nhw.

Er enghraifft, mae'r awdur yn disgrifio'r Cadfridog Rhys Gethin fel "Che Guevara'r gwrthryfel".

Ar wah芒n i Dywysog Owain Glyndwr - a oedd, yn 么l y disgrifiadau, yn arweinydd cenedlaethol poblogaidd, yn filwr medrus a gwladweinydd craff gyda'i ffydd yn ddwfn yn y proffwydi a'r traddodiadau ac sydd yn berchen dawn y Scarlet Pimpernel - mae'r prif gymeriadau eraill i gyd yn haeddu cael eu hatgyfodi ar ffilm hefyd.
Fyddai dim rhaid eu creu!

Prif amcan Llysgenhadaeth Glyndwr yw hyrwyddo hanes Tywysog Glyndwr a'i Ryfel Mawr dros Annibyniaeth mewn modd bywiog sy'n mynd i uniaethu Cymry heddiw a'u gorffennol arwrol.

Diben hynny yw deffro a meithrin ymwybyddiaeth a balchder cenedlaethol yn y Gymru fodern sydd ohoni.

Hybu ymgyrch

Yn ein tyb ni, gan fod y llyfr yma o yrfa Tywysog Owain Glyndwr a'i gyfoeswyr yn un mor ddifyr a bywiog a rhwydd i'w ddarllen, ni all ond bod yn ychwanegiad amhrisiadwy i'r ymgyrch i wireddu amcanion y Llysgenhadaeth i greu cenedl newydd o 'Bobl Glyndwr'.

Yn enwedig pe cyfieithid y llyfr ar gyfer y Cymry difreintiedig hynny sydd wedi eu hamddifadu o'u mamiaith.

Mae Llysgenhadaeth Glyndwr felly yn croesawu'r llyfr yma'n fawr iawn a byddem yn sicr yn ei ychwanegu at y rhestr o lyfrau ar ein safle gwe.

Am 拢6. 97 mae'n anrheg gwerth chweil ar unrhyw adeg o'r flwyddyn - ac yn arbennig yn ystod y cyfnod hwn o goff谩u y Rhyfel Mawr am Annibyniaeth 1400-22.

Gwefan Llysgenhadaeth Glyndwr www.Embassy-glyndwr.co.uk

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy