91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Lle rhyfedd efo pobl ryfeddach

Llyfr gwahanol i'r arfer gan T. Llew Jones

Dydd Iau, Tachwedd 21, 2002

• Storiau Cwm-pen-llo gan T. Llew Jones. Gwasg Carreg Gwalch. Ar gyfer rhai rhwng
Oedran: 7 i 11
Tair seren

Adolygiad: Meirion Puw Rees


Dyma lyfr arall gan yr awdur enwog, T. Llew Jones, ond mae’r llyfr hwn yn anghyffredin o’i gymharu â’i lyfrau eraill.

Straeon a phosau

Nid un stori sydd yma ond cyfres o straeon, posau, croeseiriau, barddoniaeth a sgriptiu bychain rhyngddynt ac mae’n wahanol iawn i fformat arferol yr awdur sef nofel un stori neu gyfres.

Mae’r llyfr yn llawn o weithgareddau difyr a all gadw plentyn yn ddiddig am oriau. Llyfr hefyd i’w godi a’i roi i lawr ac i ddychwelyd ato dro ar ôl tro.

Os rhywbeth mae’r dull newydd yma yn gweithio yn dda ac mae’n rhoi saib i’r darllenwr rhwng bob stori sydd yn gwneud y llyfr yma fwy diddorol i’r plant llai.

Yn wir mae’r posau yn rhai gweddol syml gyda nifer o groeseiriau hawdd a phosau geiriau addysgiadol e.e. chwilio am eiriau s’yn gorffen gyda ‘OL’ neu yn dechrau gyda ‘CAR’.

Denu darllenwr

Oherwydd y posau a’r lluniau mae diwyg y llyfr yn ddifyr wrth i chi ei godi a bwrw golwg sydyn drosto. Mi fasa’n denu darllenwyr nad ydynt yn hoff iawn o ddarllen llawer o ‘text’ ac yn rhoi blas iddynt ar waith awdur safonol a all eu hannog wedyn i symud ymlaen i ddarllen llyfrau mwy swmpus ganddo.

Yn bersonol mi fyddai’n well gen i fod wedi cael mwy o ‘sgwennu, ond mi allai weld sut y gall hwn apelio at ddarllenwyr mwy ysgafn.

Mae’r scriptiau yn fywiog ac yn hawdd iawn i’w darllen ond hefyd gallai rhai fod o ddefnydd i athrawon neu oedolion i gael plant i actio.

Straeon syml iawn

Mae T. Llew yn ysgrifennu yn ddiddorol a bywiog tu hwnt mewn dull sydd yn ddigon hawdd i’r plant ieuengaf ei ddeall ac i gadw sylw darllenwyr hynach. Yn wir mae storiau Cwm-pen-llo yn rhai syml iawn.

Hanes trigolion pentref Cwm-pen-llo sydd yma gan fwyaf - lle rhyfedd iawn gyda thrigolion rhyfeddach.

Mae eu bywyd yn rhyfedd a hyd yn oed eu henwau!
Hen ddynes flin, sy’n cwyno am bob dim yw Miss Cweryla fel mae ei henw yn awgrymu.

Mae enwau y cymeriadau yn syml a rhai y byddai plant ifanc yn gallu ei darllen heb fawr o drafferth, er engraifft ‘Loncyn’ neu ‘Mog’ ac fel hefo Miss Cweryla a Mr Cymro-sais maent yn awgrymu natur y cymeriad hefyd.

Mynd i'r lleuad

Straeon i apelio at ddychymyg plant sydd yma, er enghraifft mae’r ail stori, Roced Dr Nac, yn sôn am ddyheuad hen wyddonydd i fynd i’r lleuad.

Ar ei gynnig cyntaf mae’n syrthio i ganol gardd lysiau Mr Cymro-Sais (pwysigyn y pentref) ond gyda help llaw Loncyn, yr un drygionus yn y pentref, mae’n llwyddo ar ei ail gynnig, neu ydi o?

Stori chwedlonol ei natur yw Y ‘Peth! ac mae hon yn stori neis am hanes y Prentis yn plesio’r Brenin, yn y diwedd. ‘Fe deimlai’r Prentis bach yn hapus iawn.

Ar ôl cael ei ddifrio, ei feio a’i daflu i garchar, dyma fe nawr wedi cael swydd bwysig iawn gan y Brenin ei hunan!’

Mae digon o hiwmor yma hefyd ac elfen o ‘slapstic’ yn y straeon fel hefo’r stori gyntaf pan mae Loncyn yn syrthio i’r twll yn y ffordd.

Lluniau cartwn

Dylan Williams ydi’r arlunydd ac mae’r lluniau yma yn rhai steil cartwn s’yn portreadu y cymeriadau a’r sefyllfaoedd yn dda iawn ac yn ychwanegu at y stori.

Gan fod y cymeriadau yn rhai od mae’r lluniau ‘caricature’ yn cyfleu hynny yn dda.

Megis y llun o Mr Cymro-sais , mae’r llun yn ei ddangos mewn siwt ddu ledr hefo het ‘top’, mae'n dew, yn foliog ac yn smocio sigaret mewn ‘holder’ ac yn cario copi o’r ‘Times’.

Mae’r llun yma wedi cael ei roi ar gefndir sydd wedi cael ei dynnu hefo camera, mae’r llun i gyd yn dangos fod ‘Mr Cymro-sais’ yn hunan bwysig ac yn ddyn busnes trachwantus a dim llawer o ots ganddo am neb arall.

Gwerth cael golwg arno

I unrhyw un rhwng saith ac unarddeg mae’r llyfr yma werth golwg, ac os ydych chi’n rhiant sydd yn brysyr ac eisiau difyru eich plentyn neu ei gael i ddarllen mwy mae’r llyfr yma yn ffordd dda i ddechrau.

Os bydd y posau yn eu diddori byddant yn mynd yn ôl at y llyfr i’w datrys ac wedyn ella byddant yn dechrau darllen y storiau.

Dydi T. Llew Jones ddim wedi colli ei dalent o ysgrifennu llyfrau bywiog hefo stroi dda. Doeth fyddai ychwanegu y llyfr diweddara hwn at y casgliad adref.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy