91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Ceinion Llyn ac Eifionydd

Detholiad o gerddi am fro rhwng môr a mynydd

Dydd Iau, Tachwedd 14, 2002

Cerddi Llyn ac Eifionydd. Golygydd: R. Arwel Jones. Cyfres Cerddi Fan Hyn. Gomer. 拢6.95
Pedair seren
gan Ioan Mai Evans


Dyma'r gyfrol gyntaf yng nghyfres newydd Gwasg Gomer, Cerddi Fan Hyn

Sawl hen ffefryn

Cyfrol raenus sydd wedi llwyddo i gywain dros gant o gerddi amrywiol gan feirdd cyfoes amlwg fel Iwan Llwyd, Meirion MacIntyre Huws, Myrddin ap Dafydd a Twm Morys.

Hyn oll yn gymysg 芒 sawl hen ffefryn fel c芒n Huw Puw (J.Glyn Davies), Cwm Pennant (Eifion Wyn), Aberdaron, a Pen Draw'r Byd gan Cynan

Cawn hefyd bymtheg cwpled a gyfansoddodd Cynan yn ystod ei ddyddiau olaf pan yn ffilmio ar benrhyn Llyn ac yntau fel pe'n ymdeimlo 芒'r

machlud ar orwel y m么r di-ffin,
fermiliwn, fioled, oraens a gwin.

Yn nodweddiadol o Cynan roedd am rannu ei brofiad;

Os mynnwch ddal bendith y machlud eich hun,
Ewch yn yr ysbryd i ben draw Llyn.

Enwau ffermydd

Tipyn o gamp ddywedwn i oedd i W.J.Williams, lunio saith englyn fel hwn gydag enwau gwahanol ffermydd yn Llyn:

Tanyfoel, Brynmoel, Brynmair - Tanrallt
Ty'nrynn a Chefnllanfair,
Bryngwdyn, Bronygadair,
Pont y Go a Punt y gwair.

Syndod meddwl am y cyfrolau o hanes sydd i'r naw fferm nesaf, gan ddechrau yn gyfoes gyda Bodegroes, sydd newydd gael ei anhrydeddu yn fwyty gorau Prydain -

Bodegroes a Brynhunog y Mela
Brynmoelyn a Cherniog,
Bronygaer a Brynyg么g,
Gwernallt a'r Dafarngorniog.

Hen win

Oes gwell gwin na'r hen win a brofodd R.Williams Parry, a sawl un arall yn Eifionydd?

Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win.
Hen, hen yw murmur Ilawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan

Yn swn dyfroedd Afon Dwyfach yn yr un cwmwd yr ymlaciai awdur 'Mae'r gwaed a redodd ar y groes', Robert Ap Gwilym Ddu:

Cefais awr o ddistawrwydd
Uwch ei phen i'r awen rwydd;
Awr fach ymhlith oriau f'oes,
Fwynaf o oriau F'einioes.

Mynd a dod

O'r niter o feirdd sydd yn y gyfrol deuwn heibio i un anhysbys sydd wedi canu deg o benillion sy'n ddadleniad o'r newid syfrdanol yn hanes trafnidiaeth:

Ar Benrhyn Llyn
Y ffyrdd oedd o gyflwr difrifol -
Yn bydew, a hynod o gul,
Ni fedrai fawr ddim fynd trwyddynt
Ond pobol ac ambell i ful.

Pwy bynnag oedd y rhigymwr fe osododd y Ilwyfan i unrhyw ymchwilydd a garai olrhain hanes Bysiau'r Tocia a weddnewidiodd y penrhyn a thref Pwllheli yn ogystal fel y cydnebydd yr anhysbys:

Mae'r Tocia o hyd yn y gorchwyl
Naill deulu yn dilyn y Ilall
Yn ddiwyd a hynod ofalus,
Ac ynddynt ni welwyd un pall.
Mae ganddynt hwy naw o foduron,
A rheini'n mynd allan bob un,
Yn debyg i hyn mae'r drafnidiaeth
Sydd wedi cynyddu yn Lleyn.

Tad a mab

Calondid oedd darllen gweithiau tad a mab o gwmwd Eifionydd .Y tad Twm Prys Jones,:

Eifionydd
Unwaith, celwydd oedd, henoed
Nain a'i gw锚n ger y L么n Goed,
Ei haur hi oedd geiriau hen;
Rhywiog oedd ei chystrawen
Haf uniaith oedd Eitionydd
Hirfelyn heb derfyn dydd.

Mor gyfoes ydyw camp y mab, Ifan Prys Jones, enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Oes mae yna her yn Y Storm:

Yn Llyn, o'r Eifl hyd y Ili-trigolion
Trwy'i gilydd sy'n codi
I ddweud na fydd ynddi hi
Dwristiaid a'u hawl drosti.

I'r rhai ohonom a gafodd y fraint o adnabod taid y bardd, y diweddar John Henry Jones, Ty'n Llan, roedd yntau hefyd yn wythien aur.

Pleser ydyw cael Ilwyr gytuno 芒'r hyn a ddywed y broliant:
"Yn wahanol i gyfresi o gerddi bro y gorffennol, nid ar y beirdd ond ar eu testun y mae'r pwyslais yn y gyfres hon, mae pob cerdd yn s么n am yr ardal, ei hanes neu ei phobol."

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy