91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Nofel am yr ifanc -
i'r ifanc

Cariad a'r anesboniadwy . . .

Dydd Iau,Medi 12, 2002

Ddoe yn Ôl gan Menna Cravos

Y Lolfa, £4.95

Tair seren

Adolygiad gan Catrin Jones


Nofel i bobol ifanc yn eu harddegau yw Ddoe yn Ôl. Mae’n un hawdd i’w darllen ac yn adrodd hanes merch ifanc o’r enw Anwen sy’n dewis treulio gwyliau’r haf gyda’i nain ym Metws Cynog, pentref gwledig yn Sir Gaerfyrddin, yn hytrach na mynd gyda’i rhieni i’r Eidal.

Menna CravosMae’r nofel yn dechrau yn y diwedd fel petai wrth i Anwen ym mis Awst 2001 edrych yn ôl a chofio digwyddiadau haf 1991.

Teithio ar y trên y mae Anwen ar ddechrau’r nofel ac mae’n digwydd codi papur newydd o’r sedd wrth ei hymyl.

Wrth droi’r tudalennau yn ddidaro mae’n digwydd gweld erthygl am gantores ifanc. Wrth sylwi ar y llun o dan y pennawd saetha ias o gryndod i lawr ei chefn wrth iddi sylweddoli mai hen gyfaill iddi yw’r gantores ifanc. Mae hyn i gyd yn agor llifddorau’r cof ac mae’r hen atgofion yn llifo’n ôl.

Claddu atgofion

Dyma atgofion yr oedd Anwen yn amlwg am eu claddu a’u hanghofio: "Caeais fy llygaid, ac unwaith eto roeddwn i’n ferch ifanc ddiofal un ar bymtheg oed, ar fin mynd i dreulio’r haf oddi cartref am y tro cyntaf erioed…"

A dyma ddechrau’r stori.
Yn y tudalennau cyntaf rydym yn cael ein cyflwyno i gymeriadau eraill y nofel. Wedi cyrraedd Betws Cynnog a thy ei nain mae Anwen yn penderfynu chwilio am swydd dros gyfnod y gwyliau. Mae’n cael swydd yn gweini y nghaffi Rookwood, parc gwyliau ym Mryn Cynnog.

Mae’n dod yn gyfaill agos i Beth sydd hefyd yn gweithio yn y caffi ac yn ferch i berchennog y parc, a Siôn bachgen ifanc dawnus a ddaw i’r parc i beintio murlun. Ond yn gysgod dros yr holl hwyl mae Dewi Price, un o weinyddwyr y parc. Mae Dewi â’i gyllell yn Siôn o’r diwrnod cyntaf am ei fod wedi bod yng ngharachar yn y gorffennol am weithredu gyda Chymdeithas yr Iaith.

Ond yn fwy na hynny mae Dewi yn genfigennus o Siôn am ei fod ef a Beth yn dod yn agos iawn. Mae Dewi â’i lygaid ar Beth ers amser ac mae hyn yn ei gorddi.

Dechrau'r holl helynt

Dyma ddechrau’r holl helynt felly wrth i gynddaredd a chenfigen Dewi ei fwyta ac i Anwen wneud ei gorau i warchod ei ffrindiau.

Yn gefndir i hyn i gyd mae’r teimladau a gaiff Anwen drwy gydol y nofel ei bod yn ail fyw’r gorffennol. Teimla bod yr holl ddigwyddiadau hyn wedi digwydd mewn rhyw oes arall. Mae nifer o bethau na all Anwen wneud unrhyw synnwyr ohonynt, ac mae hyn yn cryfhau ei hamheuon.

Mae’r cyfan yn adeiladu i uchafbwynt ar ddiwedd y nofel pan yw Beth yn trefnu parti penblwydd i Siôn i ddathlu ei benblwydd yn un ar hugain oed. Yma mae’r cymeriadau yn dod ynghyd ac fel y gallwch chi ddychmygu mae tipyn o gynnwrf a gwrthdaro.

Diweddglo cyffrous

Dyma ddiweddglo cyffrous i’r nofel felly. Ond erbyn y diwedd roeddwn i’n teimlo fod popeth yn rhy amlwg a bod modd rhagweld yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd. Efallai mai camgymeriad ar ran yr awdur oedd rhoi cymaint o gliwiau i ni yn ystod y nofel o’r hyn oedd i ddod. Byddai’n well pe na baen ni’n dod i wybod am ddim o hyn hyd ddiwedd y nofel, byddai hynny wedi bod yn llawer mwy o ergyd I ni’r darllenwyr.

Yn ogystal roeddwn i’n teimlo mai araf oedd y nofel ar adegau. Ar wahân i’r parti dim ond mewn un lle arall yn y nofel y mae rhywbeth o bwys yn digwydd sef pan yw Annwen, Beth, Siôn a Meic yn mynd i’r parc yn ystod y nos wedi iddyn nhw dreulio noson yn yfed yn y dafarn leol. Yn ystod y rhan fwyaf o’r nofel dim ond disgrifio bywyd bob dydd ym Mryn Cynnog a’r parc Antur a wneir.

Pynciau cyfoes

Er hyn dyma nofel ysgafn sydd yn trafod pynciau cyfoes sy’n addas ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau fel cyffuriau, alcohol, herio’r drefn a byd heb rieni. Mae Annwen yn profi rhyddid ac annibyniaeth am y tro cyntaf yn ystod yr haf arbennig hwn ac yn dysgu o’i chamgymeriadau hefyd. Dwi’n siwr y bydd y nofel yn apelio at ddarllenwyr yn eu harddegau o ran testun ac o safbwynt yr arddull hefyd gan fod y nofel yn darllen yn rhwydd, y penodau’n fyr a’r ddeialog yn naturiol.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy