91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Gwewyr esgob mewn oes o gyffro

Nofel hanes sy'n afaelgar a chelfydd

Dydd Iau, Gorffennaf 25, 2002

Dydd Oedd a Diwedd Iddo gan Gwynn ap Gwilym. Gomer. 拢5.95.
pedair seren a hanner a hanner

Adolygiad gan Glyn Evans

Dau anhawster sydd gen i gyda'r nofel hon.
Yn gyntaf, does dim y byddaf i'n gallu'i ddweud amdani sy'n mynd i wneud iddi ymddangos gystal ag yw hi.

Yr ail beth yw fy anhawster cyson gyda ffuglen hanes, o fethu 芒 gwybod ymhle yn union y mae'r ffeithiau'n darfod a dychymyg yr awdur yn cymryd drosodd.

Yr unig ddewis gyda'r ail yw darllen y nofel fel stori heb ymboeni ynglyn 芒 beth yn union sy'n ffeithiol gywir am Si么n Trefnant a beth sy'n ffrwyth dychymyg Gwynn ap Gwilym.

Y peth gorau

O wneud hynny cefais hon y peth gorau a ddarllenais yn y Gymraeg ers tro mawr byd er mor anaddawol yr ymddangosai nofel yn s么n am fywyd esgob yn y bymthegfed ganrif ar yr olwg gyntaf.

Yr oedd y nofel yn un a anfonwyd i gystadleuaeth Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych y llynedd ond - er mawr gywilydd iddyn nhw, ddyweda i - ffwrbwt iawn oedd sylwadau'r tri beirniad a fethodd 芒'i rhoi ymhlith y rhai ar frig y gystadleuaeth.

Wedi darllen Dydd Oedd a Diwedd Iddo rwy'n ei chael yn anodd egluro methiant o'r fath ar ran y beirniaid a synnwn i ddim na fydd ambell un yn tybio i Gwynn ap Gwilym gael cam.

Gwrthryfel Glyndwr

Mae'r nofel yn cychwyn gyda Si么n Trefnant, esgob Henffordd, ar ei wely cystudd - nid ei wely angau pwysleisia - ar adeg pan yw gwrthryfel Glyndwr yn ysgubo'r wlad ac yn effeithio, yn naturiol, ar fywyd ardal fel Henffordd ar y Gororau.

Yn ei gystudd mae'n cael cyfle i ail-fyw ei fywyd o fod yn fachgen yn Nhrefnant yn esgobaeth Llanelwy i ddisgleirio yn efrydydd yn Rhydychen ac wedyn yn ennill swydd yn llys y Pab yn Rhufain cyn cael ei orseddu'n esgob yn Henffordd.

Ond y mae llawer mwy i'r stori hon na hanes Si么n Trefnant gan fod hon yn adeg o gyffro a newid nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop hefyd.

Gwleidydda

Llwydda Gwynn ap Gwilym i gyfleu gydag argyhoeddiad nid yn unig y trybestod gweladwy ond hefyd y gwleidydda eglwysig a gwladol cudd y tu 么l i'r llenni - a gwneud hynny heb lethu'r darllenydd na throi ei gyfrol yn werslyfr hanes.

Mae Si么n Trefnant yn gymeriad diddorol ei hun. Yn bragmatydd sy'n ceisio byw ei fywyd yn 么l cyngor a gafodd pan yn blentyn gan ei dad i fynd efo'r lli.

Hyd yn oed wedi cyrraedd statws esgob chwilio y mae am ddulliau o weithredu na fyddant yn cynhyrfu dyfroedd nac yn tramgwyddo na'i gyfeillion na鈥檌 wrthwynebwyr a hynny'n gwneud iddo ymddangos yn aml yn gymeriad gwan a di-asgwrn-cefn yn hytrach na'r un arwrol y byddem yn ei ddisgwyl yn brif gymeriad nofel.

Mae i'r adlais o'r ddelwedd hon o fynd efo'r lli rym ysgytwol ym mrawddeg olaf y nofel.

Swm a sylwedd hyn oll yw fod gennym gymeriad diddorol sydd yn gorfod cydnabod, ar 么l ystumio'i gydwybod bob sut wrth geisio peidio 芒 sathru cyrn hen gyfeillion o wahanol egwyddorion a safbwyntiau i鈥檞 gilydd.

"Rydw i wedi hen arfer erbyn hyn . . . 芒 gwneud yn groes i'm cydwybod. Mae'r Eglwys yn gwneud hynny iti."

Ac wrth edrych yn 么l dros droadau ei fywyd yn gorfod galaru: "Beth oedd y dynged hon a roddwyd arnaf fod popeth oedd yn annwyl imi . . . . yn bethau esgymun y disgwylid imi gywilyddio o'u plegid?"

Ymhlith y rhain y mae argyhoeddiadau crefyddol y mae'n gweld ei hun dan orfodaeth i'w tymheru a'u cuddio oherwydd gofynion swydd.

Dangos ei liwiau

Hefyd, mae croesdynnu rhwng dyletswyddau esgobol a'i wladgarwch wrth i'r dydd brysur gyrraedd y mae'n rhaid iddo ddangos ei liwiau gwleidyddol a'i gefnogaeth neu ei wrthwynebiad cyhoeddus i'r Mab Darogan, Owain Glyndwr.

Mae'r cyferbynnu rhyngddo ef 芒 Si么n Trefor - esgob Llanelwy sy'n fwy cyfforddus gyda'i bragmatiaeth - yn effeithiol yn rhinwedd y ffaith mai'r pethau sy'n debyg rhyngddynt a danlinellir yn hytrach na'r gwahaniaethau.

Mae'r sgwrs hon yn cyfleu eu meddylfryd gwleidyddol effro:

"Mi ddywedaist wrthyf fi ryw dro, Si么n Trefor, mai dy ddull di ydi aros i weld pwy sy'n ennill y chwarae cyn gwneud dim."
"A dyna'r peth i'w wneud tra bo dyn yn gweithio'i ffordd i fyny yn y byd. Ond ar 么l cyrraedd y brig, mae ganddo fo ran yn y chwarae ei hun. A chan fod ganddo fo lawer mwy i'w golli, mae'n hanfodol nad ydi o byth yn cefnogi collwr."

Gwewyr personol

Weithiau, mae ansicrwydd Si么n Trefnant ym mha wersyll i godi ei babell yn gwylltio rhywun gan wneud iddo ymddangos yn greadur llipa a gwan ond dro arall gallwn gydymdeimlo gwewyr personol un sy'n cael anhawster dangos ei liwiau.

O ystyried mai nofel fer iawn, 150 dalen, yw hon mae'n deyrnged i'r awdur iddo lwyddo cystal i gyfleu y gwrthdaro mewnol hwn ac mae鈥檔 ddiddorol mai o fewn unigolyn y mae gwrthdaro'r nofel yn hytrach na rhwng cymeriadau.

O fewn cwmpas byr hefyd llwydda i gyffwrdd 芒 sawl dadl foesol ac i roi darlun byw o gyfnod arbennig iawn wrth i'r digwyddiadau symud o Gymru i Loegr ac o Loegr ar draws Ewrop trwy Ffrainc i Rufain ac wedyn yn 么l i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Caiff lwyddiant arbennig yn dad-ddieithro bywyd a chefndir sy'n siwr o fod yn ddieithr iawn i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr.

Y syndod yw na wnaeth y pethau hyn a'r traddodi uniongyrchol, gafaelgar, fwy o argraff ar feirniaid y Fedal Ryddiaith yn Ninbych y llynedd.

Cyfoes a hanesyddol

O ran arddull dewisodd Gwynn ap Gwilym gyplysu iaith gyfoes ei hidiomau ac iaith sy'n adlais o'r hyn y byddem yn ei dybio oedd yn ieithwedd y cyfnod hanesyddol.

Y canlyniad hyn yw fod y nofel, er gwaethaf dieithrwch allanol ei chyfnod, yn hawdd ei darllen diolch i arddull sy'n gyfuniad o'r uniongyrchol di-lol a cheinder barddonol bron.

Mewn darnau disgrifiadol fe'n hatgoffir o arddull storiol sicr y Mabinogion gyda'r nodwedd honno i'w gweld ar ei hamlycaf yn y disgrifiad trawiadol o Owain Lawgoch yn anwesu'r wrach ac hefyd mewn darnau darluniadol fel yr un o ddwy osgordd esgobol yn ymuno 芒鈥檌 gilydd ar gyfer taith i Lundain.

"Ar y dydd olaf o Awst, yr oedd fy ngosgordd a minnau yn disgwyl ar gefn ein meirch ar lan afon Hafren, islaw cadeirlan Caerwrangon, am yr orymdaith o Ogledd Cymru. O'r diwedd, fe'i gwelem yn dod: ugeiniau o wyr mewn arfwisgoedd trymion ar geffylau mawr, cydnerth, eu harfau a harneisiau'r meirch yn clindarddach fel clychau, eu cleddyfau a'u tarianau yn fflachio yn haul y prynhawn, a'u baneri'n cyhwfan yn falch yn y cymylau llwch a godai o'u cwmpas. Wrth weld ein mintai ni, fe arhosodd yr orymdaith.
" Pwy ydych chi?" gwaeddodd rhyw swyddog ar y blaen, a'i law ar ei gleddyf . . .

"Safasom am ysbaid, a minnau'n cadw llygad yn agored am Si么n Trefor. Aeth dwsinau o wyr meirch heibio, ac yna un march gwyn ysblennydd, ac arfbais y brenin ar y gorchudd dan ei gyfrwy. Arno marchogai gwr ifanc golygus, syth fel bedwen, a'i arfwisg ariannaidd yn caneitio ym mhelydrau'r hau. Yr oedd wedi diosg ei benwisg, a gallwn weld ei wyneb yn disgleirio'n fuddugoliaethus o dan ei wallt melyngoch."

Llawn awyrgylch

Gafaelgar, llawn awyrgylch, hefyd yw disgrifiad o ymweliad Si么n Trefnant 芒 ffermdy ei hen athro a ninnau'n sawru sefyllfa drwy'r geiriau.

Mae yna ddisgrifiadau darluniadol grefftus o bobl hefyd:
" . . . dyma'r dyn bychan od yma i mewn, un byr, tenau, a'i ddillad yn hongian amdano, ei 锚n bron a chyffwrdd ei drwyn, ei wallt llaes dros ei ddannedd, a'i lygaid yn tanio yn ei wyneb gwelw."

Nofel fer ond un gyda llawer iawn i'w gynnig ac un sydd oherwydd eangder ei chynfas a symylrwydd cain ei harddull yn un sy'n mynd i roi pleser a phroc i'r meddwl gyda'r darlun byw a synhwyrus o gyfnod arbennig yn ein hanes yn fonws ychwanegol.

Holi Gwynn ap Gwilym

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy