91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Capel
Golwg ar grefydd

Cyfrol yn trafod hanes Cristnogaeth yn Nghymru dros y canrifoedd.

Dydd Iau, Mehefin 27, 2002

Golau Gwlad: Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000 Gwyn Davies.

Adolygiad gan Robert Pope



Nid peth hawdd yw cywasgu cyfoeth hanes Cristnogaeth yng Nghymru i 120 o dudalennau, ond dyna nod y llyfr hwn.

Ynddo, ceir cipolwg ar hanes yr Oes Geltaidd, yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, cyfnod y Piwritaniaid, y Deffroad Efengylaidd, dadeni diwylliannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r dirywiad enbyd a ddigwyddodd yn y capeli yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Yn ogystal ag adrodd yr hanes, mae'r awdur yn canolbwyntio ar nifer o gymeriadau pwysig fel Dewi Sant, Gwallter Brut, William Morgan, John Penry, Morgan Llwyd, Howell Harris, Thomas Charles, Lewis Edwards, Martyn Lloyd-Jones ac R. Tudur Jones.

Llawn lluniau diddorol
Mae'r testun yn darllen yn hawdd, ac yn llawn lluniau diddorol o gymeriadau a lleoedd pwysig yn hanes crefydd ein cenedl, er bod y traddodiad efengylaidd yn cael y sylw pennaf a diystyrir i raddau gyfraniad y traddodiadau Anglicanaidd a Phabyddol.

Nid yw'n bosibl cytuno bob tro â'r awdur, naill ai oherwydd ei ddewis o'r bobl i'w trafod neu oherwydd ei ddehongliad ohonyn nhw.

Er enghraifft, mae tuedd i wrthod Lewis Edwards fel rhywun oedd yn rhy awyddus i wrando ar wybodaeth newydd ei gyfnod yn hytrach na chadw at ddysgeidiaeth Feiblaidd, ac mae'n anodd credu fod Martyn Lloyd-Jones yn ffigwr o sylwedd ar gyfer y genedl gyfan yn arbennig ar 么l iddo symud i Gapel Westminster, Llundain, ym 1938.

Sylw i gymeriadau ymylol

Cymeriadau ymylol a sectaraidd, fel R. B. Jones, Porth, sy'n cael y sylw fel y rhai a gadwai burdeb y ffydd tra llygrwyd yr eglwysi gan ryddfrydiaeth ddiwinyddol.

Dyma bwynt nad yw heb ei wirionedd ond un sy'n tueddu i guddio cymhlethdod y sefyllfa a chraffter meddwl rhai o brif ffigurau crefyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.

Er hynny, mae'n dal yn wir bod arolwg cyffredinol yn ddefnyddiol ac mae ganddo'r potensial i ddenu diddordeb y cyhoedd.

Mae llyfr fel hwn yn atgoffa'r Cymry o'r berthynas agos yn y gorffennol rhwng datblygiad hunaniaeth genedlaethol, llenyddiaeth a chrefydd.

Mae'n bosibl, felly, iddo ennyn diddordeb cenhedlaeth nad yw'n gwybod am ddyled ein cenedl i Gristnogaeth.


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy