91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Ar eu traed eu hunain

Monolog - yr her eithaf i actor
Dydd Mercher, Mai 12, 2002

Llais un yn Llefain – Monologau cyfoes Cymraeg. Golygydd Ian Rowlands.

Pedair seren


Adolygiad gan Catrin Jones

Perfformiad theatrig yn cynnwys dim ond un actor neu actores yw monolog. Dyma ffurf bwerus iawn ar ddrama a sialens anhygoel i bob actor dewr sy’n mentro i’r tir hwn.

Trwy gydol y perfformiad fe fydd sylw’r gynulleidfa i gyd ar y person hwnnw. Arno ef neu hi y bydd y cyfrifoldeb o gynnal diddordeb y gynulleidfa a chyfleu’r stori i gyd.

Yn fwy na hynny fe fydd ef neu hi yn gorfod cofio sgript enfawr, tua awr o hyd, a hynny heb gymorth actorion eraill.

Mewn monolog mae’r perfformiwr yn gyfangwbwl ar ei ben ei hun.

Mae monolog hefyd yn gofyn hefyd am dipyn o ymdrech gan yr awdur a’r cyfarwyddwr achos mae’n rhaid cael testun go gryf er mwyn i un cymeriad allu ei drin ar ei ben ei hun.

Ond yn fwy na hynny mae’n rhaid creu cymeriad cryf sy’n gallu cynnal diddordeb am gyfnod hir. Mae’n rhaid dewis ei symudiadau yn ofalus a gwneud defnydd llawn o’r llwyfan.

Cyfrol i'w thrysori

Tri monolog cyfoes, Cymraeg, a geir yn y gyfrol Llais un yn Llefain, tri o’r monologau mwyaf pwerus i’w llwyfannu yn y Gymraeg, sef Sundance gan Aled Jones Williams, Gobeithion Gorffwyll, addasiad Sharon Morgan o stori fer gan Simone de Beauvoir a Môr Tawel, Ian Rowlands.

Dyma gyfrol sydd i’w thrysori, gan mai ychydig iawn o ddramâu Cymraeg sy’n gweld golau dydd rhwng cloriau llyfr. Mae llawer ohonyn nhw’n mynd yn angof a hynny wedi cymaint o waith a pherfformiadau gwych.

Ond mae mwy yn y gyfrol hon na’r monologau yn unig. A’r hyn yr oeddwn i’n ei hoffi fwyaf amdani oedd y cyflwyniadau difyr oedd yn gwau trwyddi. Roedd hyn yn ychwanegu elfen bersonol iawn i’r gyfrol ac yn ein cyflwyno ni’r darllenwyr i genre y monolog.

Mae’r gyfrol yn agor gyda chyflwyniad gan Ian Rowlands, golygydd y gyfrol ac awdur ei monolog olaf, Môr Tawel.

Mae Ian Rowlands, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Artistig yn Theatr Gwynedd, wedi ysgrifennu a chyfarwyddo amryw o fonologau. A safbwynt y cyfarwyddwr a geir yn y cyflwyniad hwn.

Chwys a nerfau

Mae’n sôn am sawl perfformiad lle roedd yr actor a’r cyfarwyddwr yn chwysu a’r nerfusrwydd mawr cyn y perfformiadau cyntaf. Yr hyn a’m trawodd i yma oedd gonestrwydd Ian Rowlands wrth iddo drafod y profiadau hyn.

Dydi o ddim yn esgus fod pob perfformiad wedi mynd yn llyfn ac mae’n sôn mewn un lle bod actor wedi cael blanc llwyr yng nghanol perfformiad ac wedi gorfod ailddechrau.

Wrth gyfeirio at berfformiad arall mae’n cyfaddef ei fod wedi camgymryd dwyster y sialens unwaith gan dybio y byddai pythefnos a hanner yn ddigon i actor ddysgu monolog cyfan ond yn y perfformiad cyntaf yr actor yn "marw o’u blaenau ...ei lygaid yn dryloyw gan fradychu’r panig yn ei ben".

Canlyniad hyn yw bod yr actor yn camu oddi ar y llwyfan gan ymddiheuro na all gario ‘mlaen.

Angen egni ac ymroddiad

Mae’r ysgrifennu gonest yma’n dangos yn glir gymaint yw gofynion monolog, a’r egni a’r ymroddiad sydd ei angen gan gyfarwyddwr wrth lwyfannu perfformiad o’r math hwn.

Yn dilyn ei gyflwyniad ef, fe geir rhagymadrodd i’r gyfrol gan Nic Ros yn trafod genre y monolog ac yn trafod yn gryno rai o’r monologau enwocaf. Mae’n mynd ymlaen wedyn i roi cyflwyniad byr i fonologau’r gyfrol hon.

Mwynheais ddarllen ei dri chyflwyniad ac yn sicr roedden nhw’n ddefnyddiol iawn cyn mynd ati i ddarllen y gweithiau.

Mae ei ymdriniaeth ef yn dreiddgar ac yn addas iawn ar ddechrau’r gyfrol gan roi’r monologau yn eu cyd-destun ac ymdrin â’u cynnwys, ond heb ddatgelu gormod.

Yr actor yn ganolbwynt

Wedi darllen cyflwyniadau gan awdur a chyfarwyddwr ac wedyn beirniad, diddorol yw gweld wedyn safbwynt yr actor. Wedi’r cyfan yr actor yw canolbwynt pob monolog, ac arno ef mae holl sylw’r gynulleidfa. A chyn bob un o’r tri monolog yn y gyfrol mae cyflwyniad gan y tri actor a berfformiodd y monologau hynny am y tro cyntaf.

Yn y cyflwyniadau hyn gwelwn gymaint yw’r her sy’n wynebu actorion wrth iddyn nhw gytuno i berfformio monolog, yr holl waith caled yn dysgu’r darn a’r nerfau wrth berfformio. Ond yn bwysicach na hynny mae’r gorfoledd o fod wedi llwyddo a’r teimlad gwych o fod wedi cyflawni’r sialens fwyaf yng ngyrfa pob actor.

Y tri actorion sy’n siarad yn y gyfrol hon yw Jonathan Nefydd (Sundance), Sharon Morgan (Gobeithion Gorffwyll) a Dyfan Roberts (Môr Tawel).

Jonathan Nefydd
Jonathan NefyddGalwad ffôn un prynhawn yw dechrau’r daith i Jonathan Nefydd: ‘Sioe un dyn’; roedd y geiriau yn swnio fel hunllef". Ond penderfyna dderbyn y cyfle, ac mae’r profiad yn un bythgofiadwy.


Sharon Morgan

Mae’r holl beth ychydig yn wahanol i Sharon Morgan, gan mai hi ei hun a benderfynodd fod yr amser wedi dod iddi wynebu’r her.

Mae hi’n mynd ati i ddarllen stori fer a’i haddasu ar gyfer y llwyfan. Mae hi wedi byw gyda Muriel, y ferch yn Gobeithion Gorffwyll, am fisoedd felly.

Cymaint yw ei hadnabyddiaeth o’r cymeriad nes y teimla’n gwbwl emosiynol ac "ar y dydd Llun cyn agor dwi’n cracio. Dwi ffili neud e. Mae’ bod mor agos at yr emosiyne amrwd yn brifo.’N dechre llefen. Dwi ffili stopo...Galla i ganslo popeth?"

Sharon MorganOnd llwydda Sharon Morgan i oresgyn y nerfau munud olaf ac mae’n cyrraedd y llwyfan.

Ond cyn hynny rydym yn aros gyda hi yn yr ystafell wisgo yn y cyfnod hunllefus hwnnw cyn y perfformiad ac wrth ddarllen roedd fy mol innau’n troi wrth i mi feddwl am y teimlad dychrynllyd hwnnw o fod ar eich pen eich hun o flaen cynulleidfa am gyfnod o thua awr, dim ond eich llais chi i glywed, y geiriau’n llifio’n ddireolaeth o’ch genau, a’r ofn parhaus hwnnw eich bod yn mynd i anghofio.

Rydw i’n wirioneddol gydymdeimlo â phob actor sydd wedi llwyddo i wynebu’r fath hunllef ac yn eu hedmygu’n fawr.

Dyfan Roberts

Fe fwynheais gyflwyniad Dyfan Roberts hefyd sy'n cymharu’r profiad i deithio ar long mewn storm. Dyma gymhariaeth briodol iawn o ystyried mai chwarae rhan dyn mewn cwch yng nghanol storm y mae yn Môr Tawel.

Dyfan RobertsMordaith hir yw’r perfformiad iddo, ef yw hwyliwr y llong a ni’r gynulleidfa yw’r bobol ar y cei yn ei wylio. Mae’r daith o’i flaen yn un anodd ac mae’n rhaid iddo ei hwynebu ar ei ben ei hun.

"Mae drama un person fel yr Iwerydd, Everest, Pegwn y Gogledd, fel bywyd, fel marwolaeth. ‘Mae’n rhaid i ti fyned y daith honno dy hun....’Mae o yno. Rhaid ei goncro...".

Wedi cwblhau’r daith mae’n glanio’n flinedig ac yn troi ei olygon at y fordaith nesaf.

Tywyll a grymus

Mae’r tri monolog yn y gyfrol hon yn rhai grymus iawn. Tywyll yw byd y tri chymeriad ac mae pob un ohonynt yn ymladd rhyw frwydr fewnol. Ym mywydau’r tri chymeriad mae’r ffin rhwng ffantasi a dychymyg yn denau iawn ac mae’r tri yn ymylu ar fod yn wallgof.

Fel y dywed Nic Ros: "Rydym y tu mewn i bennau’r cymeriadau hyn, yn clustfeinio ar sgyrsiau a dadleuon gyda nhw’u hunain, gan geisio olrhain llwybr synhwyrol drwy’r anrhefn meddyliol".

Sundance
Y gyntaf yw Sundance gan Aled Jones Williams. Cymeriad digon rhyfedd yw Sundance.

Yr awgrym a geir yw ei fod yn byw ar ei ben ei hun ac yn hiraethu am ei fam sydd wedi marw. Mae rhywbeth yn blentynnaidd ynddo ar sawl gwedd.

Ymddengys fod perthynas annaturiol wedi bod rhyngddo â’i fam pan oedd hi’n fyw, a nawr ei bod yn farw ni all Sundance ollwng ei afael arni. Yn y ddrama mae’n siarad gyda ffrog briodas ei fam, yn union fel pe bai ei fam yn fyw ac yn eistedd yno yn y ffrog.

Yn gwau trwy’r fonolog hon mae ffilmiau cowbois. Dyma elfen arall sy’n dangos diniweidrwydd y cymeriad. Mae’n gweld popeth yn ddu a gwyn yn union fel y ffilmiau hynny.

Gobeithion Gorffwyll

Hanes gwraig ganol oed, unig, yn byw ar ei phen ei hun a gawn yn Gobeithion Gorffwyll. Mae’n wraig fregus yn emosiynol a meddyliol. Mae’r ddrama’n digwydd ar nos Galan, ac mae amseriad yr holl beth yn ychwanegu at unigrwydd Muriel. Rydym yn tosturio wrthi am ei bod ar ei phen ei hun ar noson sydd fel arfer yn un gymdeithasol ac yn noson o ddathlu.

Awgrymir fod Muriel ar ymyl gwallgofrwydd. Mae ei hunigrwydd bron â’i threchu. Mae’n dweud ei bod wedi rhoi gwlân cotwm o amgylch y ffôn am nad yw eisiau cydnabod ei fudandod.

Mae sawl peth wedi arwain at gyflwr Muriel, ymadawiad ei gwr, marwolaeth ei merch ifanc a’r berthynas lugoer rhyngddi â’i mam. Ond mae Muriel ei hun i’w beio hefyd, a hynny am iddi ddod yn or-ddibynnol ar ei gwr ac am beidio â chreu bywyd annibynnol iddi ei hun.

Môr Tawel

Llong mewn storm ar fôr yw lleoliad y monolog olaf sef gan Ian Rowlands. Y ddrama hon oedd Drama Gomisiwn Eisteddfod Llanelli 2000. Mae’r ddrama yn ymdrin â hanes David Samwell, Cymro a fu’n llawfeddyg ar long y Discovery ar daith olaf Capten Cook. Roedd hefyd yn cael ei adnabod fel Dafydd Ddu Feddyg.

Ar ddechrau’r ddrama dywed y cyfarwyddiadau llwyfan fod David Samwell "yn hwylio storm ei freuddwydion mewn lit bateau’. Gall y ddrama fod yn digwydd mewn cwch go iawn neu ym meddwl David Samwell ei hun.

Yr hyn sy’n sicr yw bod storm ym meddwl David Samwell wrth iddo edrych yn ôl ar ei orffennol a’i brofiadau ar y Discovery. Mae’r daith honno wedi cael effaith ddofn ar ei fywyd.Mae’r cyfan fel rhyw hunllef na all ymryddhau ei hun oddi wrtho. I wneud pethau’n waeth mae David Samwell fel pe bai’n gaeth i’r laudanum, cyffur y mae’n ei lyncu yn ystod y ddrama.

Yn y monolog hwn mae David Samwell yn cyfarch Iolo Morganwg. Yn ogystal â bod yn forwr roedd David Samwell yn fardd ac yn aelod o orsedd Iolo Morganwg. Rhyw fath o gyffes i Iolo Morganwg yw’r ddrama.

Ar y dechrau mae Samwell yn cyfaddef bod ei Gymraeg wedi dirywio yn ystod ei gyfnod ar y môr: "I blame the sea it has bleached the Welsh out of me".

Mae yna rhyw dyndra drwy’r ddrama rhwng Cymreictod Samwell a’i Brydeindod, y ffaith ei fod yn fardd ac yn aelod o’r orsedd a’r un llaw ac yn forwr gyda’r Llynges Frenhinol ar y llaw arall.

Mae’r ddrama yn trafod yn onest sut yr oedd bywyd mewn gwirionedd ar y Discovery a’r gweithredoedd erchyll a barbaraidd yr oedd Cook a’i griw yn eu cyflawni.

Mae cofio hyn o gyd, y treisio a rheibio brodorion yr ynysoedd, yn ofid mawr i Samwell a dyma ail ran ei gyffes i Iolo Morganwg.

Mae’n amlwg fod Samwell yn y ddrama hon wedi cyrraedd cyflwr bregus iawn yn feddyliol a’i fod ar ymyl gwallgofrwydd. Yn wir mae ar drothwy angau a rhyw fath o waedd olaf cyn marwolaeth yw’r ddrama.

Mae’n rhaid canmol arddull Ian Rowlands, awdur y ddrama hon. Yn ei ddefnydd o eiriau mae’n llwyddo i gyfleu’r storm dymhestlog ym meddwl David Samwell a chyffro’r daith ar y Discovery. Ond hefyd mae’r disgrifiadau cignoeth o’r hyn oedd yn digwydd ar y daith yn rhoi rhyw olwg newydd ar bopeth.

Dyma dri monolog llwyddiannus felly. Mae tebygrwydd mawr yn y tri gan eu bod i gyd yn dywyll, yn ddyrys a’r cymeriadau unig yn wynebau problemau seicolegol dwys.

Does dim dwywaith nad yw’r tri yn gosod tipyn o sialens i actorion ac rwy’n gobeithio y bydd mwy o actorion yn y dyfodol yn ymgymryd â’r sialens hon.




Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy