91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Trwy lygaid plentyn

Nofel am deimladau cymysg

Dydd Iau, Mai 30, 2002

L么n Gweunydd gan Ifor Wyn Williams.
Gwasg Pantycelyn. 拢6.
Pedair seren
Adolygiad gan Glyn Evans.


L么n Gweunydd yn y nofel hon yw鈥檙 ffordd droellog sy鈥檔 arwain o'r lle mae鈥檙 bws yn aros tuag at fferm taid a nain bachgen bach sy'n ceisio dygymod a mawrolaeth ei dad.

Mae o arwyddoc芒d oherwydd mai i lawr y ffordd hon y mae鈥檔 cerdded gan ddisgwyl gweld ei fam, sydd wedi ei adael, yn cyrraedd ar y bws - ond dydi hi ddim yn dod.

Does dim ond angen dweud hynna i sylweddoli fod yna wewyr, siom, teimladrwydd a digalondid yn y nofel hon.

Mewn llaw llai crefftus nag un Ifor Wyn Williams gallai fod naill ai'n sentimental, ddagreullyd neu'n llethol drwml.

Y gwrthwyneb sy鈥檔 wir. Mae鈥檔 ddarn o lenyddiaeth delynegaidd sy鈥檔 cyfleu i鈥檙 dim ddiniweidrwydd ac ing plentyndod.

Mae鈥檙 sgrifennu'n rhagorol yn ei lwyddiant i gyfleu teimladau ac awyrgylch.

Angen gair o eglurhad

Ifor Wyn WilliamsAr ddalennau cyntaf y llyfrl, fodd bynnag, fe ddylai fod yna rywbeth yn egluro cefndir ei chyhoeddi achos nofel sy鈥檔 cael ei chyhoeddi dair blynedd wedi marwolaeth ei hawdur yw hon.

Tra yr oedd yn dioddef o ganser y sgrifennodd Ifor Wyn Williams y nofel a hynny ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr oedd eisoes wedi ennill y Fedal honno gyda nofel drawiadol, Gwres o鈥檙 Gorllewin, yn 1971, ond yn gweld y testun Pan ddaw yfory yng nghystadleuaeth 1999 yn un a fyddai鈥檔 gweddu i thema oedd ganddo wedi ei sylfaenu ar ddigwyddiadau yn ei fachgendod ei hun.

Bu farw cyn yr Eisteddfod ac er na fu鈥檔 fuddugol y tro hwn fe gafodd ei waith ganmoliaeth uchel.

Ei gymar, Anne Roberts, sicrhaodd ei chyhoeddi yn awr ac yr ydym yn ddyledus iddi am hynny gan fod hon yn nofel hunangofiannol gwerth chweil.

Pwyslais ar ddeialog

Yn awdur 14 o lyfrau i gyd yr oedd Ifor Wyn Williams yn sgriptiwr dram芒u teledu hefyd. Dim rhyfedd, felly, ei fod yn awdur a roddai bwyslais mawr ar grefft deialog ac mae olion pendant o鈥檌 afael sicr a'i farn sicr ar y grefft honno fan hyn.

Trwy lygaid Robat Wyn y gwelir y byd yn y nofel hon a bu cof Ifor Wyn Williams o鈥檌 blentyndod a'i werthfawrogiad o olwg plentyn ar y byd yn gaffaeliad mawr iddo gan fod hwn yn ddadansoddiad treiddgar sy鈥檔 deffro ynom ninnau atgofion am hen ddyheadau ac ofnau.

Mae鈥檙 defnydd o L么n Gweunydd ei hun yn eithriadol o gelfydd a hithau'n gysur ac yn fwgan bob yn ail.

Trwy sgyrsiau eraill

Yr un mor gelfydd yw鈥檙 ffordd y down i wybod sut un yw mam Robat Wyn oddi wrth ddarnau o sgyrsiau y mae ef yn eu clywed - ef yn rhy ddiniwed i sylweddoli eu gwir arwyddocad ond ni'r darllenwyr yn deall yn union beth sy'n cael ei ddweud.

Dangosodd Ifor Wyn Williams o鈥檙 blaen gystal un yw am gyfleu y math hwn o ddiniweidrwydd megis gyda鈥檙 milwr mewn yn ei nofel, Cyllell yn y Pridd.

Er mai鈥檙 thema amlwg yw鈥檙 pechod anfaddeuol o siomi plentyn bach y mae sawl elfen arall i鈥檙 stori ymddangosiadol seml hon megis yn y berthynas rhwng Robat Wyn a鈥檙 Nain y mae wedi ei hanfon ati gan ei fam. Nain sy'n ymddangos yn galed, yn ddideimlaid ac yn oeraidd tuag ato nes y down i ddeall yn well pam y mae鈥檔 tagu pob tynerwch sydd o'i mewn.

Wedyn, mae'r berthynas rhwng Robat Wyn a phlant eraill o'i oed a'i berthynas â'i fam a'i chymar newydd.

Difyr hefyd yw sylwi ar y ffordd y mae dynion a merched yn cael eu portreadu yn y nofel gyda鈥檙 dynion, at ei gilydd, yn greaduriaid hynawsach, mwy tawedog a goddefol na'r merched yng ngolwg Robat Wyn (ac Ifor Wyn?).

Dim ond 167 o ddalennau sydd i鈥檙 nofel ond o fewn y cwmpas cyfyng hwnnw creodd Ifor Wyn Williams delyneg o nofel sy鈥檔 mynd i gyffwrdd a sawl un a nofel hefyd nad yw heb ei fflachiadau o hiwmor.

Trueni na chafodd Ifor Wyn Williams weld ei chyhoeddi.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy