91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Waldo mewn rhyddiaith

Amrywiaeth yn cynnwys llythyrau at bapurau newydd

Dydd Iau, Ionawr 31, 2002

• Waldo Williams - Rhyddiaith. Golygydd, Damian Walford Davies. Gwasg Prifysgol Cymru. 拢14.99.
Tair seren

Adolygiad gan Gwyn Griffiths.

Mae鈥檙 gyfrol Waldo Williams - Rhyddiaith yn glamp o gasgliad, amrywiol, diddorol a difyr.

Hwyrach na chafodd rhyddiaith Waldo y sylw a haedda. Yn wir, faint o bobl a wyr am yr holl lythyrau a sgrifennai mor ddiwyd i鈥檙 wasg leol yn Sir Benfro. Llythyrau gwleidyddol, llythyrau鈥檔 egluro ei safbwyntiau ar amrywiol bwyntiau.
Llythyrau sy鈥檔 dangos dyn mor ffraeth ydoedd, hefyd.

Cymeriad

Mae rhyw gred fod Waldo yn ddyn difrifol a dwys ac, yn wir, yr oedd yn wr o argyhoeddiadau dyfnion - ond yr oedd hefyd yn gymeriad 芒 llawer iawn o hiwmor yn perthyn iddo.

Cymwynas y gyfrol hon yw cyflwyno鈥檙 Waldo hwnnw i ni. Mae angen gosod Waldo yng nghyd-destun ei fro. Fe鈥檌 ganed yn Hwlffordd sydd yn rhan Saesneg ei hiaith Sir Benfro ar aelwyd eangfrydig, ryddfrydig.

Dysgodd Gymraeg pan gafodd ei dad swydd prifathro yn rhan Gymraeg y sir a鈥檙 teulu鈥檔 symud i Glunderwen.

Gwytnwch Cymreictod

Mae gwytnwch Cymreictod Sir Benfro yn dipyn o ryfeddod. Ffleminiaid yn cael eu symud i dir bras y "down-below" - sgwrfa ethnig.

Eto, dros wyth canrif ni fu fawr o symud yn y ffin ieithyddol er bod y Cymry Cymraeg mewn lleiafrif ac mai gan siaradwyr y Saesneg yr oedd y grym mewn llywodraeth leol ac yn y blaen. Yr oedd y gwytnwch hwnnw ym m锚r esgyrn Waldo Williams.

Gwytnwch a welir yn y gyfres lythyrau i鈥檙 Western Telegraph, un o ddau bapur wythnosol a gyhoeddid yn Hwlffordd.

A phapur a oedd - wn i ddim am nawr - yn ddigon gwrth-Gymraeg ond yn rhoi lle i ddadleuon trwm iawn yn fynych.

Ac yr oedd safbwyntiau鈥檙 llythyrwyr o waelod Saesneg y sir yn wahanol iawn i safbwyntiau rhyddfrydig, dyneiddiol, Waldo.

Cyfrannwr mor ddiwyd

Diddorol cofio cyfrannwr mor ddiwyd oedd e i鈥檙 papurau lleol yn Sir Benfro ac yr oedd yr un peth yn wir am D. J. Williams, Abergwaun.

Os rhywbeth roedd D. J. yn fwy diwyd fyth.

Roedd eu llythyrau鈥檔 gyson iawn mewn papurau eraill fel y Cardigan & Tivyside Advertizer, y County Echo yn Abergwaun a鈥檙 Narberth News - o stabl Tenby Observer os ydw i鈥檔 cofio鈥檔 iawn.

Roedd yna wleidydda o ddifri鈥檔 mynd ymlaen yng ngholofnau鈥檙 papurau hyn a gwaith ardderchog ar ran Damian Walford Davies, golygydd y gyfrol hon, fu crynhoi cynifer o鈥檙 rhain at ei gilydd.

Cyfraniadau amserol

Mor amserol yw llawer o鈥檙 cyfraniadau. Dyna鈥檙 erthygl "Pam y Gwrthodais dalu Treth yr Incwm (1956)" lle dywedodd Waldo:
"Yr oedd Corea yn mynd ymlaen o ddydd i ddydd am yr un rheswm ag yr aethai Belsen ymlaen: am fod awdurdod yn gweithredu a phobl yn anghofio."

Mor wir am ein cyfnod ni. Hyfryd cael y portreadau hynny o Idwal Jones (Llambed), T. E. Nicholas a llawer iawn am D. J. Williams gyda hiwmor Waldo鈥檔 dod allan nawr ac eilwaith.

D.J. a chrefydd

Cyfeiria at D. J. a chrefydd. Er cymaint gweithgarwch D. J. Williams gyda chapel Pentowr yn Abergwaun ni chafodd ei wneud yn flaenor am yn hir iawn.

Yn wir, cafodd ei wrthod yn 1929 am nad oedd yn llwyr-ymwrthodwr ond y鈥檌 gwnaed yn flaenor yn 1954 llwyddwyd, rywsut, i osgoi鈥檙 cwestiwn y tro hwnnw. "Ni bu cymaint safiad erioed dros cyn lleied o gynnwys os edrychwn ar yr hylif yn unig," oedd sylw Waldo.

Mae amrywiaeth enfawr yn y gyfrol - yn llythyron Cymraeg a Saesneg i bapurau ac unigolion, erthyglau o bob math a straeon, hefyd a chefais fy atgoffa stori mor arbennig o dda yw Toili Parcmelyn.

Ochr yn ochr 芒 hyn mae rhagymadroddion gwerthfawr a dadlennol Damian Walford Davies i wahanol rannau鈥檙 gyfrol .

Cyfrol werthfawr - a difyr - dros ben, felly.

Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill? Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy