91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Canmol dyn steddfod

Cyfrol deyrnged i arweinydd steddfod o fri

Dydd Iau, Ionawr 31, 2002

• Cofio’r Adnabyddiaeth - Edward Williams, Llangefni, 1906-1992. Golygyddd, O Arthur Williams. Gwasg Pantycelyn. £8.
pedair seren ymhlith y rhjai sydd yn cofio'r adnabyddiaeth.
Dwy seren ymhlith darllenwyr eraill!
Adolygiad gan Glyn Evans


Mi alla i ymffrostio yn y ffaith imi rannu llwyfan efo Edward Williams, testun y gyfrol deyrnged hon.

Ond dydi hi fawr o frôl mewn gwirionedd - achos gall ugeiniau lawer o’m cenhedlaeth i a fagwyd ym Môn ddweud yr un peth.

I gyd wedi teimlo’r llaw gysurlon yna ar yr ysgwydd ²¹â€™r gorchymyn yna o’r tu ôl i’ch ysgwydd i’r gynulleidfa "roi pob chwarae teg iddo fo."

Edward Williams oedd Yr arweinydd Steddfod yn ystod y cyfnod byr a digon dilewyrch y cefais i fy ngwthio i "gystadlu ar yr adrodd" gan ennill fawr ddim er gwaethaf pob chwarae teg a sicrhaodd imi gan y cynulleidfaoedd.

Diolch i Yncl Ned

Gwnaeth eraill yn well ac y mae un ohonyn nhw yn un o’r 17 sydd wedi cyfrannu atgofion i’r gyfrol hon.

Gwnaeth Annwen Jones - neu Williams fel roedd hi pan oeddwn i yn ei hadnabod yn yr ysgol - enw iddi ei hun fel adroddwraig gan ennill gwobrau cenedlaethol.

Mae hi’n rhoi llawer o’r diolch am ei llwyddiant i Edward Williams neu Yncl Ned fel y daeth o iddi hi.

Mae hi hefyd yn rhoi peltan i’r Eisteddfod Genedlaethol am beidio ag anrhydeddu’r dyn yn gynt nag y gwnaeth ac am y’i gadw cyhyd oddi ar lwyfan y Brifwyl ac yntau yn arweinydd Eisteddfodau o gymaint hil gerdd.

Yr oedd yn Yncl Ned a oedd yn rhan allweddol o sawl byd ifanc.

"Tra bod plant y dyddiau hyn yn cael eu magu ar y Tellytubbies, Radio One ²¹â€™r Playstation, trampio o eisteddfod i gymanfa i gyngerdd yr oeddwn i o’m dyddiau cynharaf. Roedd ‘Lle Treigl²¹â€™r Caferi’, ‘Brad Dynrafon’ a ‘Hen Rebel Fel Fi’ yr un mor gyfarwydd i mi ag ydi ‘International Velvet’ Catatonia i ieuenctid heddiw," meddai Annwen.

Adrodd heb syrcas

Marged Esli, Edward Williams ac Annwen Williams yn Eisteddfod Genedlaethol 1966, Aberafan.Byddai Edward Williams yn dangos diddordeb arbennig mewn cystadleuwyr addawol y byddai yn dod ar eu traws mewn eisteddfodau ac o’r dyddiau hynny rwy’n cofio’n iawn fod cael eich derbyn i gael "gwersi gan Edward Williams" yn arwydd ynddo’i hun y’ch bod chi’n rhywun oedd yn mynd i wneud tipyn o farc.

Mae gan Annwen ddisgrifiad byw o wersi yng nghartref y maestro yn Llangefni:

"Rydw i’n cofio fel y byddai Yncl Ned yn eistedd yn ôl yn y gadair honno wrth y tân ac yn gwrando’n astud arnom yn adrodd a’i lygaid ar gau. Byddai’n geirio’n fud hefo ni, llyfr yn ei law chwith, y sigaret yn ddieithriad yn ei law dde, ac yntau fel arweinydd cerddorfa gyd²¹â€™r sigaret yn faton. Os agorai ei lygaid, fe wyddem yn syth nad oedd rhywbeth yn ei blesio."

Ychwanega: "Roedd ganddo glust anhygoel at rythmau’r iaith lafar. ‘Aros funud,’ meddai . . . a phwysai ymlaen i feddwl, ei droed dde ar garreg yr aelwyd, ei benelin ar ei ben-glin, a’i dalcen yn pwyso ar ei fysedd tra oedd yn pendroni."

Gadael i eiriau siarad

Mae’n rhywfaint o ddileit gan bobol fel fi i ddifrio a dirmygu adrodd - a does yna ddim amheuaeth fod mathau arbennig o adrodd yn aflwydd cenedlaethol.

Yn ôl Annwen, nid dym²¹â€™r math o adrodd fyddai’n mynd a bryd Edward Williams:

"Byddai’n gas ganddo unrhyw sioe neu ‘hen swn adrodd’ fel y byddai’n galw unrhyw fursendod."

Galwai ef am gyflwyno darnau "mor syml a didwyll ag oedd bosib."

"Gadael i’r geiriau siarad drostyn’u hunain. . . . Dim cwafars. Sdim isio rhyw hen syrcas ddiawl."

Gweini ffarmwrs

Er gwaethaf cychwyn dinod - y teulu mor dlawd y bu’n rhaid y'i anfon i’w fagu gan ei nain ac wedyn gadael ysgol i weini ffarmwrs yn 13 oed a threulio’r rhelyw o’i oes yn siopwr - gwnaeth Edward Williams gyfraniad aruthrol ym Môn dros y blynyddoedd.

Nid yn unig fel eisteddfotwr ar lwyfan ond y tu ôl i’r llenni hefyd ac ym myd y ddrama.

Arweiniodd Eisteddfod Môn am 35 o flynyddoedd, Eisteddfod Llandegfan 32 gwaith, Llanddeusant 30 o weithiau heb son am ei gyfraniad fel trefnydd ac hyfforddwr.

Yr oedd o, yng ngeiriau Derec Llwyd Morgan "yn fodel o Eisteddfodwr."

Peltan i'r Steddfod

Ac y mae John Stoddart yn son am ei afael sicr ar yr iaith - ei allu i’w hynganu yn groyw a chlir - heb son am ei feddiant o’r priodoleddau eraill hynny sy’n gwneud arweinydd eisteddfod da fel meddwl effro a threfnus, mesur go dda o bwyll ac amynedd, natur siriol a hiwmor cartrefol.

Mae Annwen Jones yn crynhoi byrdwn y cyfranwyr i gyd:

"Roedd Yncl Ned yn un o’r rhai olaf o’r werin ddiwylliedig honno na chafodd fanteision addysg. Roedd ganddo ddoniau naturiol cynhenid a’i gariad at y Pethe yn angerddol," meddai.

A hi sy’n holi pam y bu yr Eisteddfod Genedlaethol mor ddihid o’i ddoniau - a chynnig ateb:

"Tybed," meddai, "pam mai dim ond unwaith y cafodd arwain a beirniadu yn y Genedlaethol? Ond efallai nad ydi hynny’n syndod. Wedi’r cwbl, doedd o ddim yn weinidog, athro nac yn fardd, nac yn un o fois y cyfryngau," meddai gan roi ei bys efallai ar yr hyn sy’n wir.

"Ond ym 1985, yn Y Rhyl, daeth ei awr fawr o’r diwedd. Am ei gyfraniad aruthrol a’i lafur diflino yn hyfforddi ieuenctid Môn dros nifer fawr o flynyddoedd cafodd ei gyflwyno gyda Medal Syr Thomas Parry-Williams . . . Mae’n sicr na chafodd y fedal erioed berchennog mwy haeddiannol," meddai.

Yr un tinc o ganmoliaeth i’r "gwerinwr diwylliedig, dawnus" sydd yna yn holl gyfraniadau’r gyfrol ac fel sy’n anorfod bron mewn cyfrol o’r fath y mae yna gryn ailadrodd ac er nad yw hynny yn tynnu dim oddi ar gyfraniad diamheuol y gwrthrych rhaid dweud fod yna beryg i'r holl ategu barn lethu.

Rhannu cyfoeth

Serch hynny, dylai fod yn destun boddhad i bob un ohonom gael perthyn i genedl a berodd i werinwr difreintiedig a diaddysg nid yn unig ddiwyllio ei hun i’r graddau y gwnaeth ond a berodd iddo rannu cyfoeth y diwylliant hwnnw ag eraill.

Golygydd y gyfrol yw mab Edward Williams ei hun a’i gyfraaniad ef sy’n ei hagor. Mae’n cau pen y mwdwl gydag enghreifftiau o gyfansoddiadau ysgrifenedig ei dad.

Mi fyddwn i wedi hoffi nodyn bywgraffyddol byr am y gwahanol gyfranwyr ac mi fyddwn i hefyd, o safbwynt hwylustod, wedi hoffi gweld eu henwau ar ddechrau eu cyfraniad yn hytrach nag ar y diwedd.

Yr unig beth arall sydd i’w ddweud yw mai cyfrol sydd o fwyaf o ddiddordeb ym Môn ac ymhlith y rhai a brofodd ‘yr adnabyddiaeth’ yw hon gan ddeffro ynddynt fyrdd o atgofion gyda’i detholiad hael o luniau.

Y mae’r cyfraniadau yn rhy ail-adroddus i fod o gymaint diddordeb ymhlith eraill.

Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill? Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy