91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


clawr
Creaduriaid straeon gwerin

Llyfr braidd yn ddrud - ond gwerth ei ddarllen

Dydd Iau, Rhagfyr 20, 2001

Creaduriaid Rhyfeddol gan Helen Emanuel Davies
Darluniau: Graham Howells. Gwasg Gomer. £4.50
pedair seren

Adolygiad gan Meirion Puw Rees

Llun o fwystfil a merch brydfeth sydd ar glawr y llyfr hwn, mewn arddull gartwnaidd.

Ar yr olwg gyntaf, mae Creaduriaid Rhyfeddol yn ymddangos yn llyfr plentynnaidd ei gynnwys ac yn denau o ran nifer tudalennau.

Ond mae’r llyfr, sy’n sôn am greaduriaid rhyfeddol a chwedlonol yn haeddu ail olwg.

Mae’n cynnwys saith stori, bob un yn sôn am greadur neu greaduriaid rhyfeddol:

• Gwiber Emlyn
• Y Ci Ffynddoln
• Y Ceffyl Dwr
• Eryr Gwernabwy
• Yr Afanc a’r Ychen Bannog
• Y Fuwch o Lyn Barfog
• Y Twrch Trwyth

Son am ddraig

Fy fferfryn i yw’r stori gyntaf, Gwiber Emlyn sydd yn sôn am ddraig.

Mae’r stori yn cychwyn yn ddiniwed iawn efo Megan, merch fach, yn mynd i ffair Castellnewydd Emlyn yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at brynu rhubanau.

Mae’r olygfa gyntaf un yn hyfryd "Tywynnai’r haul o awyr las glir, gan wneud i ddwr afon Teifi edrych fel llif o arian byw," nes i Megan glywed y swn ‘HYRRYMMM’ rhyfedd yn yr awyr.

Mae Megan yn gweld draig yn yr awyr ac mae pawb o’i chwmpas yn cael braw nes i arwr y stori, Rhys yr Hendre, achub y dydd.

Mae gan Megan ran bwysig yn y stori hon hefyd ond mi gewch chi ddarllen am hynny eich hun.

Mae yna ddigon o gyffro yn y stori hon, yn enwedig pan fo Rhys yn herio’r ddraig. Mae’r llun ohono yn y llyn yn drawiadol gan fod Rhys mor fach a’r ddraig mor fawr ond biti na fasa’r llun yn lliw.

Ffordd dda o gyflwyno chwedlau

Mae rhai o’r storiau/chwedlau yma yn dod o’r Mabinogi a chwedlau Cymreig eraill. Er enghraifft stori y Twrch Trwyth yn chwedl Culhwch ac Olwen ac Eryr Gwernabwy o chwedl yr anifeiliaid hynaf a hanes y Ci Ffyddlon sy’n debyg iawn i stori Gelert.

Mae’r llyfr yn ffordd dda o gyflwyno y chwedlau hyn i ddarllenwyr ifanc.

Y stori oeddwn i yn ei hoffi leiaf oedd Y Fuwch o Lyn Barfog sydd yn sôn am ferch a buwch sy’n byw yn y llyn.

Mae tad Catrin yn dwyn y fuwch sy’n fuwch wyrthiol ac yn gwneud ei ffortiwn ohoni, ond pan yw’n ceisio ei lladd tua diwedd y stori, mae ei lwc yn troi.

Dyn barus yw Idris, tad Catrin, ac mae hynny yn dod a lwc ddrwg iddo yn y diwedd.

‘Roedd holl gyfoeth Idris wedi diflannu dan y dwr gan ei adael ef a’i deulu’n dlotach nag erioed!’

Mi fyswn i wedi licio gwybod mwy am y ferch yn y llyn gan mai hi oedd prif ‘gymeriad’ y stori.

Mae stori Yr Afanc a’r Ychen Barfog yn stori neis iawn ac yn sôn am ddewrder dau berson, Madog y gôf a Sian , merch y melinydd.

Maen nhw’n fodlon peryglu eu bywydau er lles gweddill y pentref. Llun o’r stori hon sydd ar y clawr ac mae maint yr afanc o’i gymharu â Sian yn ddigon i godi ofn ar rywun.

Yr hyn sy’n braf am y stori seml yma ydi fod dewrder y ddau yn llwyddo a phobl y pentref yn medru byw yn brafiach ar ôl I’r afanc gael ei dynnu o’r llyn.

‘Ymhen amser, wedi sawl cynhaeaf da ac wrth i’r anifeiliaid besgi wrth bori’n dawel ar lan y llyn, daeth y pentref yn llewyrchus unwaith eto.

Roedd pawb yn hoff iawn o adrodd stori’r Afanc ofnadwy, ac yn ddiolchgar am gadwyni cryf Madog, dewrder Sian a chymorth yr Ychen Barfog.’

Lluniau'n help

Mae’r lluniau gan Graham Howells yn ychwanegu at y storiau. Gan fod y creaduriaid yn rhyfeddol mae cael llun ohonynt yn help i weld y stori yn ei feddwl.

Nid yw hwn yn llyfr mawr ac nid yw’r lluniau y tu mewn yn lliw bob amser ac felly dwi’n meddwl fod y pris dipyn yn ormod.

Ond mae’r storiau yn rhai hawdd i’w deall ac yn ddigon difyr ac yn sicr mae’n werth ei ddarllen.

Mi fyswn i yn dweud fod y llyfr yn addas i blant 7 –11.

• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch
ni.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy