91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Leila Megane
Y gantores
ysbrydegol


Llyfr am Leila Megane yn dwyn atgofion

Dydd Mercher, Rhagfyr 12, 2001

Leila Megane - Anwylyn Cenedl gan Ilid Anne Jones. Llyfr o luniau yn ymwneud a’r gantores. Gwasg Carreg Gwalch. £8

Sylwadau Ioan Mai Evans

Wedi troi i’r ddalen gyntaf yn y llyfr Leila Megane - Anwylyn Cenedl gan Ilid Anne Jones, sylweddolais mai i dref hynafol Nefyn ar Benrhyn Llyn y daeth tad y gantores i blismona gyntaf cyn symud i dref Pwllheli.

Yno, yn Nefyn, y bum innau’n dysgu plant pan gyfarfûm â’r gantores a hithau, erbyn hyn, newydd ailbriodi yn 1951 - y tro hwn, gyda’i chyfaill bore oes, William John Hughes.

"Erbyn hyn," meddai Ilid Anne Jones, "roedd Leila Megane wedi llwyr ddiflannu o lygaid y cyhoedd."

Ond fe ychwanega ei bod yn "mwynhau gweithgareddau cymdeithasol Pen Llyn yng ngaeaf 1950."

Cyngherddau bach

Leila - un o'r lluniau yn y gyfrolRoed y gweithgareddau hynny gan fwyaf yn troi o gwmpas capel Berea (MC) yn yr Efailnewydd.

Gan yr arferwn ganu ffidil a lli gerddorol cefais wahoddiad gan y gantores i ffurfio parti adloniant gydag Ernest Hughes, tenorydd swynol o Drefor, Glyn a Taid, consuriwr a thafleisydd oedd a llawer o alw am ei berfformiadau.

Magodd yr aml gyngherddau yn yr Efailnewydd gyfeillgarwch a chan fy mod yn digwydd adnabod William ynghynt ac wedi rhyfeddu ato lawer tro yn gwibio ar ei feic am Bwllheli cefais beth o’i hanes yn ddyn busnes yn Lerpwl.

Siaradai yn uchel am ryw Fistar Davies oedd yn wr amlwg yn y gymdeithas Gymraeg yn Lerpwl a châi blwc o ganu weithiau yn y sgwrs.

A phwy oedd Mistar Davies?
Neb llai na J. Glyn Davies, ei hun, ac nis anghofiaf byth y wefr a gefais yn gwrando ar William yn canu "O Santiana, chwyth dy gorn . . .".

A mwy fyth o wybod mai ef a’i canodd gyntaf erioed.

Dal i ofalu am safon

O gantores fydenwog, byddwn yn dotio fel y byddai Leila Megane yn gofalu am safon a threfn yn y consart bach yn Berea.

Beth oedd yr ots gennym ni ble roedd y piano ond nid felly Leila Megane. Dim dechrau nes bod y piano yn yr union le, fel bo’r trebl at y canwr.

Na, chymerodd hi ddim rhan fel cantores yn yr un cyngerdd, dim ond yn y trefnu.

Yn y pumdegau roedd Betty Roberts, athrawes yn dysgu Saesneg yn yr Ysgol Sir ym Mhwllheli, yn chyhoeddi hanes y gantores yn y Caernarvon and Denbigh Herald.

Yn naturiol, roedd yr hanesion yn cydio ac awgrymais i Megane y dylsai wneud hyn ac arall ym myd y cyfryngau er mwyn diogelu ei chyfraniad arbennig i’r dyfodol.

"Na," meddai gan estyn ei braich uwch ei phen. "Mi rydw i wedi cyrraedd y fan acw ac yn y fan acw yr ydw i am aros."

Doedd dim tycio er ei bod yn rhugl ei sgwrs ac yn aml yn torri allan i berseinio ychydig o nodau fel y teimlai ar ei chalon.

Gan y gwyddwn iddi wrthod yn bendant â gwneud dim i’r cyfryngau, tybed a fyddai hi’n fodlon gwneud cyfweliad preifat ar recordydd tâp i’w ddiogelu gan y teulu ?
"Na," eto.

Cadw’r achos i fynd ym Merea oedd yn cael blaenoriaeth bellach a hithau wedi newid llwyfannau dinasoedd byd am lwyfan consart noson waith mewn pentre bychan yng Nghymru.

Gwenu y byddai bob tro y soniwn am recordio ond er mwyn lliniaru peth ar fy mhryderon cefais wahoddiad i’r felin tua diwedd y pumdegau ar ymweliad ei chwaer o Salt Lake City a nodyn yn dweud ei bod yn fodlon imi recordio sgwrs breifat.

Roedd y Grundig tâp wrth dâp yn declyn digon anghyffredin y blynyddoedd hynny ond un o freintiau mawr fy mywyd fu’r prynhawn hwnnw.

Dim blodau - dim galar

Erbyn diwedd haf 1959 medrech synhwyro fod diwedd y daith yn nesau ac ar yr ail ddydd o Ionawr ’60 bu farw Leila Megane yn 68.

Yn ôl ei dymuniad nid oedd na blodau na galar i fod.

Yr oedd deufis wedi mynd pan ddaeth y gwahoddiad gan William Hughes i berfformio yn y cyngerdd olaf gan yr hen barti ym Merea ar nos Lun ym Mawrth.

Clawr y gyfrolY lle yn llawn fel arfer a William yn ei frwdfrydedd arferol yn sibrwd, "Mae Mrs H. R. Phillips a ninnau wedi bod yn y fynwant y pnawn ‘ma ond mae Megane wedi dweud nad oes na ddim yn y fynwent ac am inni fynd ymlaen efo’r cyngerdd, heno."

Sgwrs debyg oedd gan y wraig ddieithr, Mrs Phillips o Gaernarfon, oedd yn ysbrydegydd.

Darllen wedyn yn y gyfrol am y cyfeillgarwch oedd rhwng y bardd Robert Williams Parry a T. Osborne Roberts gyda’r ddau, yn aml, yn ymddiddori mewn ysbrydegaeth a materion goruwchnaturiol.

Mi fyddai Leila Megane hithau, hefyd, yn trafod y paranormal gydag enaid hoff ac os oes a wnelo canu â dyhead ni chanodd neb Y Nefoedd yn debyg iddi hi!

• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu atgofion i'w rhannu?
Ebostiwch
ni.

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy