91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol gyntaf
Straeon rygbi yn cipio

Casgliad o straeon difyr sy'n adlewyrchu bywyd go iawn

Dydd Iau, Tachwedd 15, 2001

Pac o Straeon Rygbi 2. Golygydd, Alun Wyn Bevan. Gomer. Pris: £3.95
Pedair seren
Adolygiad gan Dylan Puw Rees
(11 oed)

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, casgliad o straeon am fyd rygbi ydi Pac o Straeon Rygbi 2 ac ef yw’r ail lyfr mewn cyfres.

Mae pob stori yn wahanol ac wedi eu hysgrifennu gan wahanol awduron.

Digwydd yn go iawn

Mae pob un ohonyn nhw yn ddifyr a chan fy mod yn aelod o dîm pêl-droed mi fedra i weld fod llawer o’r pethau sydd yn digwydd yn y straeon yma yn digwydd yn go iawn pan fo pobl mewn tîm.

Mae hyn yn gwneud y straeon yn fwy difyr a byw i mi.

Er enghraifft, yn y stori gyntaf, Y Tad a’r Mab gan Bethan Gwanas, mae Daniel, y prif gymeriad, yn teimlo i’r byw nad yw ei dad yn dod i’w wylio yn chwarae rygbi.

Yn ei feddwl, mae o’n dweud pan mae o’n sylwi pwy sydd wedi dod i weld y gêm: "Roedd pawb wedi dod i’w gweld nhw – pawb ond ei dad ei hun. Ond doedd hynny ddim yn beth newydd."

Mae’r math yma o beth yn digwydd o hyd mewn chwaraeon. Dydi rhieni ddim bob amser yn dod i weld eu plant yn gwneud pethau ond, yn aml iawn, fel ag yn achos Daniel, mae yna reswm da am hynny...

Iaith hawdd ei deall

Mae’r straeon i gyd yn reit ysgafn ac mewn iaith hawdd i’w deall. Ond er eu bod yn ysgafn a difyr mae yna foeswers ym mhob un.

Er enghraifft yn Darllen y Gêm gan Richard Evans a Bethan Mair, tydi Cai, y prif gymeriad, ddim yn gallu clywed yn dda iawn a phawb yn gwneud hwyl am ei ben a gwrthod ei gael yn y tîm.

"Beth wyt ti’n gwbod am rygbi, Cai Dim Clyw? Does dim cliw ‘da ti...Ha Ha Ha."

Ond, pan yw Celt, un o aelodau’r tîm, yn mynd yn sâl mae Cai yn gwneud sioe dda gan brofi, er ei fod yn fyddar, ei fod yn gallu chwarae rygbi gystal â phawb arall.

Ac mae hyd yn oed Marc Mathias, sydd wedi bod yn ei sbeitio, yn falch ohono. "Roedd Marc Mathias yno , a gallai Cai ddarllen ei wefusau wrth iddo ei longyfarch a dweud, ‘Rwy’n flin iawn am fod mor gas, Rwyt ti’n gallu chwarae’n ardderchog.’"

Fy hoff stori

Fy hoff stori i yw Dai Dom Da gan Hefin Jones. Mae’r stori yma yn un ddoniol iawn, yn enwedig pan yw Dafydd yn disgyn i’r tail yn yr ardd lysiau - y digwyddiad sydd yn rhoi’r rheswm am ei enw, Dai Dom Da.

Roedd yna griw o ferched yn rhedeg ar ôl Dafydd,

"Dyn ifanc mewn gwisg dyfarnwr yn rhedeg am ei fywyd rhag pymtheg o ferched cynddeiriog.....Yn anffodus i Dafydd, roedd gardd lysiau’n ffinio ag ymyl y cae a ffermwr Carreg Eithin gerllaw newydd ddod â llwyth o ddom yno’n barod ar gyfer y garddwr brwd. Ac wrth i Dafydd daflu golwg dros ei ysgwydd i sicrhau fod digon o olau rhyngddo ef a’r merched ....do fe ddigwyddodd, fe lithrodd a syrthio yn ei hyd i ganol y dom! Sôn am lanast! Dafydd yn drewi, y garddwr yn rhythu mewn sioc a merched Bryneithin a’u cefnogwyr yn eu dyblau’n chwerthin, a’r dagrau’n powlio i lawr eu gruddiau.’


Mi roeddwn i yn chwerthin erbyn diwedd yr olygfa yma hefyd.

Mae’r llyfr yn addas i blant rhwng naw a 12 ac yn un gwerth ei ddarllen.

Mi ges i lot o hwyl wrth ei ddarllen ac mi ddysgais i dipyn am rygbi hefyd.

Mae gan y timau yn y straeon chwaraewyr da, biti na fyddai rhai ohonyn nhw yn chwarae i Gymru!

• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn? Ebostiwch ni.
















Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy