91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bethan Gwanas
Gwobr Tir na n-Og

Bethan Gwanas a Myrddin ap Dafydd yn mynd a hi

Dydd Iau, Hydref 11, 2001


Myrddin ap DafyddDau awdur poblogaidd sydd wedi ysbrydoli miloedd o blant i fwynhau llyfrau a barddoniaeth yw enillwyr gwobrau Tir na n-Og eleni.  

Bethan Gwanas, awdur y nofel lwyddiannus, Amdani, a’r gyfres o’r un enw a ddarlledir ar S4C, yw enillydd y wobr am Ffuglen Orau’r Flwyddyn. 

Enillodd y wobr am y gyfrol Llinyn Trôns (Y Lolfa), ac ynddi ceir hanes gwrthdaro a chyfeillgarwch ymysg criw brith o ddisgyblion TGAU ar gwrs mewn canolfan awyr agored. 

Mae’r gyfrol eisoes wedi gwerthu dros 1,600 o gopïau.

Yn enedigol o Ddolgellau, bu Bethan yn byw yn Ffrainc am flwyddyn cyn gwneud cyfnod o waith gwirfoddol yn Nigeria. 

Bu’n dysgu am gyfnod, ac yn gweithio i’r Urdd a Radio Cymru; bellach mae hi’n ysgrifennu’n llawn amser ac yn hyrwyddo gweithgareddau darllen yng Ngwynedd.

 • Enillydd Gwobr Llyfr Gorau’r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen yw Myrddin ap Dafydd am gyfrol o farddoniaeth, Jam Coch Mewn Pwdin Reis (±á³Ü²µ³ó±ð²õ).Ìý

Myrddin oedd Bardd Plant cyntaf Cymru.

"Trwy ei waith fel Rheolwr Cyfarwyddo Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, mae wedi gwneud mwy na neb i hybu barddoniaeth ymysg plant a phobl ifanc," meddai datganiad gan Gyngor Llyfrau Cymru..

Yn ystod ei gyfnod yn Fardd Plant Cymru yn y flwyddyn 2000, ysgrifennodd nifer o gerddi i gofnodi’r achlysur, yn ogystal â chynnal gweithdai barddoniaeth mewn ysgolion ledled Cymru. 

Mae Jam Coch Mewn Pwdin Reis yn ffrwythy cyfnod llwyddiannus hwn ac yn cynnwys cerddi ganddo ef ei hun yn ogystal â nifer o gerddi’r plant.  

"Roedd hi’n dasg anodd iawn i’r beirniaid ddewis y llyfrau gorau,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau.

"Ond efallai bod Bethan a Myrddin wedi gwneud mwy na neb i hyrwyddo llenyddiaeth plant ac i gyflwyno’r wefr sydd i’w chael o lyfrau.’  

Cyflwynir gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant, gyda’r enillwyr yn derbyn gwobr o £1,000 yr un.

Adnabod awdur:





Adolygiadau


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy