91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Llyfr difyr sydd werth pob dimai

Casgliad o ysgrifau rhoi cipolwg ar fywyd trigolion bro'r Bedol ddiwedd y 19eg ganrif.

Dydd Iau, Hydref 4, 2001

Pobol sy'n Cyfri, Hafina Clwyd
Gwasg Carreg Gwalch, £10
Pedair Seren a hanner

Adolygiad Dafydd Mei


Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen rhyw lawer i ddarllen y llyfr hwn. Mae o'n lyfr tew ac mae'n s么n am ardal nad oes gen gysylltiad o gwbwl 芒 hi (neu dyna oeddwn i'n ei gredu).

Casgliad o ysgrifau - wedi'u hymhelaethu - a ymddangosodd gyntaf ym mhapur bro'r Bedol ydy'r rhain a s么n am ardaloedd yn nalgylch y papur hwnnw y mae'r llyfr.

Fel ymhob llyfr o'r fath mae yma restrau o enwau a dyddiadau a llefydd, ond dydy'r rhestrau yma ddim yn fwrn.

Dilyn sawl sgwarnog

Dilyna'r awdur nifer o sgwarnogod ond nid 芒'n rhy bell ar eu holau ac mae'n dychwelyd yn daclus i gario mlaen 芒'r stori.

Wrth gwrs mae'r bobol a enwir yn y llyfr o ddiddordeb mawr i bobol yr ardal, ond mae rhai enwau'n gyfarwydd i bobol drwy Gymru - Llwyd o'r Bryn a Gerallt Lloyd Owen (eu hynafiaid wedi bod o flaen eu 'gwell' adeg Rhyfel y Degwm), Mici Plwm, Dylan Iorwerth, Arglwydd Crughywel a Gruff Rhys a Guto Pryce o'r Super Furry Animals. Ac ymysg y rhai sydd ganddyn nhw gysylltiad trwy briodas 芒'r ardal mae Tecwyn Ifan, Kevin Davies Radio Cymru a Jenny Ogwen.

Wrth gwrs mae yna sawl cyfeiriad at weinidogion a blaenoriaid; ond mae yma hefyd s么n am rai llai 'parchus'.

Rhai fel Richard Roberts, Pant Tywyll, "a hoffai lymaid yn awr ac yn y man ac os digwyddai yfed mwy na'i arfer taflai ei het i'r ty yn gyntaf. Os byddai'r het yn cael aros yn y ty gwyddai Richard y c芒i fynd i mewn ond os byddai'n dod yn 么l fel bwmerang gwyddai ei fod mewn helynt a'i fam fel draenog".

Nifer o straeon difyr
Ac yn wir mae nifer o straeon bach difyr drwy'r llyfr. Honno am Edward Phillips, Glanllyn, a eisteddodd "o dan goeden ar lechwedd Penarth un diwrnod yn y gwanwyn pan ganodd y gog uwch ei ben. Penderfynodd agor chwarel yn yr union fan ac erbyn 1870 yr oedd hi wedi agor a chynifer 芒 thri chant yn gweithio ynddi".

A beth am hon? Mary Ann Thomas - ei thaid Thomas Coslett Thomas o Lanfihangel Glyn Myfyr - a agorodd y gwesty cyntaf yn Y Gaiman, Patagonia. Un a fu'n aros yno oedd Butch Cassidy a "adawodd ferlen yn anrheg am ei fod wedi mwynhau'r bara brith gymaint"!

Trueni na fyddai mynegai i'r llyfr gan fod yma gymaint o wybodaeth. Ac i rai fel fi - sydd ddim yn adnabod yr ardal mor dda 芒 hynny - mi fuasai map yn help garw.

Trueni hefyd na fyddai gan bob ardal rhywun mor ddiwyd a gwybodus 芒 Hafina Clwyd.

Ydy mae o'n lyfr tew, ac yn werth pob dimai o'r ddecpunt. Ac oes, mae yna gyfeiriad at un o'm hynafiaid i yn y llyfr hefyd.....

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy