91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Twm Morys ac Iwan Llwyd
Y beirdd yn teithio

Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth

Dydd Iau, Hydref 4, 2001


Y mae heddiw yn Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

Sefydlwyd Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn 1994 a thyfodd mewn poblogrwydd oddi ar hynny.

Bydd Rhaglen Hywel a Dei ar Radio Cymru yn cael ei neilltuo yn gyfangwbl i drin barddoniaeth ddydd Iau.

Bydd Myrddin ap Dafydd yn trafod y traddodiad barddol yng Nghymru - pynciau fel yr arfer o gyflwyno cadeiriau yn wobrau am farddoniaeth.

Hefyd yn y rhaglen fydd bardd Cadair Eisteddfod Dinbych, Mererid Hopwood, yn cyflwyno’i dewis o’i hoff farddoniaeth Gymraeg.

Bydd Haf Morris yn trafod Cerdd Dant a'r grefft o osod barddoniaeth i gerddoriaeth.

Bydd Mared Roberts o Wasg Y Lolfa yn trafod Poeth, cyfrol o farddoniaeth ar gyfer pobl ifanc a dysgwyr, a olygwyd gan Non ap Emlyn.

Pwnc arall dan drafodaeth yw pryd y mae geiriau caneuon ysgafn yn troi'n farddoniaeth - fel yn achos Dafydd Iwan a Bob Dylan. Hefin Wyn fydd yn trafod y pwnc yma. .

Cerdd gan Gymraes
Y thema eleni yw Teithio ac y mae 91Èȱ¬ Radio 4 yn Lloegr wedi comisiynu cerddi ar y thema Teithiau gan ddeg o feirdd i'w darlledu yn ystod y dydd gan gynnwys un gerdd gan fardd o Gymru.

Dywedodd y cynhyrchydd, Julian May, fod pobl o'r farn mai cynulleidfa ddethol ac arbenigol sydd i farddoniaeth gyfoes.

"Ond mae dathliad Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn aruthrol boblogaidd gyda'r llinellau ffôn yn brysur gyda phobol yn gofyn am gopiau o'r cerddi a ddarlledwyd," meddai.

"Yn 1999 ymwelodd dros 10,500 â'r wefan, neu sgrifennu i ofyn am gopi o'r daflen gyda'r cerddi."

Nid yw'n syndod clywed fod un o'r cerddi a glywir ar Radio 4 heddiw wedi ei chyfansoddi gan y bardd o Gymru, Gwyneth Lewis, sy'n barddoni yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Agos at ei chalon
Mae teithio yn rhywbeth sy'n agos iawn at galon Gwyneth ac y mae hi ar hyn o bryd yn paratoi i hwylio i bob porthladd yn y byd sydd â chysylltiad â Chaerdydd.
Cafodd arian Loteri yn arbennig ar gyfer hyn a bydd yn cychwyn ymhen deunaw mis.

"Rwy'n enedigol o Gaerdydd a mae'r syniad wedi apelio ata i," meddai. "Y cwbl wn i ar hyn o bryd yw y bydd hi'n daith hir iawn."

Gwyneth LewisMae Gwyneth yn gyfnither i'r gofotwr Joe Tanner ac ysgrifennodd gerdd, Zero Gravity, yn cyfuno ei daith ef i'r gofod i helpu i atgyweirio telesgop gofod Hubble gyda marwolaeth ei chwaer-yng-nghyfraith o ganser.

Darlledwyd y gerdd honno ar y radio, hefyd.

"Cerdd am hwylio i Iwerddon yw'r un a ddarlledir ar Radio 4 heddiw," meddai.

"Fe hwylion ni ym mis Awst a roeddwn i'n edrych ymlaen am dywydd braf a gwisgo'r bicini. Yn lle hynny, beth gawson ni oedd storm, nerth 9. Bu raid i ni fynd i mewn Kinsale yn ne Iwerddon.

"O hynny daeth y gerdd. Cafodd ei recordio ar y cwch yn Aberdaugleddau."

Cyfuno teithio a barddoni

Er nad oes traddodiad hir iawn o deithio ymhlith beirdd Cymru - yr amlycaf yw Syr T. H. Parry-Williams mae'n debyg gyda cherddi gwefreiddiol fel Y Ferch ar y Cei yn Rio ymhlith ein trysorau llenyddol - y mae yna nifer o feirdd ifainc cyfoes sy'n cyfuno teithio a barddoni.

Ymhlith yr amlycaf y mae Iwan Llwyd, Twm Morys a Menna Elfyn y tri ohonynt wedi darlunio a dehongli gwledydd dieithr yn eu barddoniaeth. Teithiodd Iwan Llwyd yn eang yn yr Unol Daleithiau ar gyfer rhaglenni teledu ac ymwelodd a De America gyda'i gyfaill Twm Morys.

"Mae'r profiad o gyfarfod pobol newydd mewn llefydd newydd yn help i roi golwg newydd ar eich sefyllfaoedd a'ch profiadau chi eich hunan," meddai. "Yr hyn sy'n debyg a'r hyn sy'n wahanol.

"Rwy'n cofio bod yn New Mexico, rywle yn agos i Sante Fe, a dod ar draws un o hen genhedloedd Gogledd America.

"Roeddwn i eisiau gwneud sgwrs efo nhw, cael tipyn o'u hanes. Ond 'doedd eu cred nhw ddim yn caniatau iddyn nhw gael eu recordio. Roedden nhw'n credu y bydden ni'n dwyn eu lleisiau nhw pe baen ni'n recordio nhw yn siarad ac yn dwyn eu cysgodion pe baen ni'n eu ffilmio nhw.

"Fe'm trawodd i fod hyn yn gwbl groes i'n hagwedd ni at y Gymraeg - yr awydd i'w chyhoeddi hi a'i rhannu hi, ei chlywed hi ar y radio, taflu goleuni arni.

"Fe sgrifennais i gerdd am y peth …"

Twm Morys: gweld petha newydd

Twm Morys"Drwy deithio rydan ni'n gweld petha newydd, bwyta bwydydd newydd, profi arogleuon newydd - mae o i gyd yn deffro'r synhwyrau. Dyna ydy barddoniaeth, neu ran bwysog ohono - synhwyrau," meddai Twm Morys.

"Rydw i wedi bod o gwmpas y byd unwaith neu ddwy. Dydy o ddim mor braf â hynny, wchi - hedfan.

"Mae gen i goesau hir a mae taith hir mewn awyren - economi - yn reit annifyr.

"Mae hwylio'n fwy cysurus - neu'r cwrwgl. Mae'n cael ei drwsio ar hyn o bryd lawr yn Llechryd. Ond mi fydda i'n mynd dipyn o gwmpas afonydd Gwynedd yn y cwrwgl. Mae'n dawel braf - ysgogi'r awen.

"Ond y daith ora bob amser ydy'r daith adra."

Menna Elfyn - newydd ddychwelyd

Heb os, y bardd Cymraeg sydd wedi teithio fwyaf a phellaf yw Menna Elfyn a bydd hi yn Oriel Mostyn, Llandudno, yn darllen ei gwaith ar ddydd barddoniaeth.

Agosatrwydd yw thema'r digwyddiad hwnnw.

Menna ElfynYn fwy arwyddocaol o gofio mai teithiau yw thema dydd barddoniaeth mae hi newydd ddychwelyd o Amsterdam lle bu hi'n lawnsio cyfrol o gerddi Cymru wedi eu cyfieithu i Iseldireg. Teitl y gyfrol yw Mewn Goleuni Arall.

"Dyna mae teithio yn ei wneud i chi, yn eich gwneud chi'n ymwybodol o ddylanwadau eraill - gweld eich hunan a gweld eraill 'mewn goleuni arall'," meddai.

"Mae'n wythnos brysur i mi - gan ei bod yn wythnos o ddathlu barddoniaeth. Ddydd Mercher rwy'n darllen fy marddoniaeth yn Llyfrgell y Bontfaen a rwy wedi bod yn cael fy ffilmio ger rhai cofebau lle mae darnau o marddoniaeth i arnyn nhw - fel yr un i gofio glo a'r glowyr yn Nhonypandy ac un arall ar lan ymyl afon Bargoed, hefyd yn y De.

"Petaech chi'n gofyn i mi pam fod angen dydd barddoniaeth, buaswn i'n dweud fel dwedodd Waldo, pam lai?"

Gellir darllen cerddi Saesneg ar wefan Radio 4: www.bbc.co.uk/radio4

Gwefan y gymdeithas farddol yn Lloegr yw: www.poetrysoc.com/npd

i ddarllen mwy am Twm Morys
i weld Twm yn dewis geiriau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy