91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Cystal â'r gwreiddiol

Cyfieithiad cyflawn a theilwng o gerddi Dafydd Gwilym gan yr ysgolhaig Gwyn Thomas

Dydd Iau, Medi 27, 2001

Dafydd ap Gwilym His Poems, Cyfieithiad gan Gwyn Thomas
Pum Seren

Adolygiad Catrin Gerallt


Rhyw, affaires, gwyr sy鈥檔 ferw o eiddigedd a merched priod sy鈥檔 llygadu eu cyn-gariadon yn bryfoclyd. Na - nid pennod ddiweddara Eastenders neu Brookside - ond rhai o them芒u dramatig y bardd rhyfeddol hwnnw o鈥檙 bedwaredd ganrif ar ddeg, Dafydd ap Gwilym.

Mae ei gerddi鈥檔 fwrlwm o ddisgrifiadau lliwgar, o hiwmor drygionus ac o brofiadau carwriaethol hynod gythryblus. Mae ehangder ei gynfas yn drawiadol - o ffars Trafferth Mewn Tafarn lle daw criw o Saeson (Drisais mewn gwely drewsawr) ar ei 么l wedi iddo faglu ar ei ffordd i wely merch, i ddwyster a thynerwch y cerddi am Morfudd a Dyddgu.

Cyfleu'r ffresni a'r emosiwn
Camp Gwyn Thomas yn y cyfieithiad cyflawn hwn - yw ei fod wedi llwyddo i gyfleu ffresni ac emosiwn y cerddi canoloesol trwy gyfrwng cyfieithiadau clir sydd hefyd yn gerddi caboledig - tipyn o gamp o ystyried cyfoeth y farddoniaeth wreiddiol.

Mae cerdd Dafydd ap Gwilym i鈥檙 Wylan yn ymgorffori teimladau unrhyw un sydd wedi dyheu am gariad coll;

"Yr wylan deg ar lanw dioer
Unlliw ag eiry neu wenlloer
Dilwch yw dy degwch di
Darn fel haul, dyrnfol heli"

ac mae鈥檙 cyfieithiad er mor driw i鈥檙 gwreiddiol yn delynegol;

"Ah gull on the tide, a beauty: surely
Of the hue of snow or the white moon,
Of fairness unblemished,
A patch like the sun, a sea gauntlet"

Cyfieithu'r gynghanedd

Yn ei ragymadrodd, esbonia Gwyn Thomas nad yw wedi cadw鈥檔 gaeth at fedr ac odl y cywyddau gwreiddiol, yn wir, meddai, oherwydd y gwahaniaeth sylfaenol rhwng y Gymraeg a鈥檙 Saesneg, amhosib mewn gwirionedd, yw cyfieithu cynghanedd;

"(Cynghanedd) ..... cannot be translated or when it is.....sounds childish or comical, and succeeds in doing nothing but trivializing what is often superb poetry"

Eto mae atseiniau o鈥檙 gwreiddiol mewn sawl man, fel yn y defnydd o fedr i gyfleu bwrlwm Trafferth Mewn Tafarn;

"The ostler roused all at the inn-
And now the tale was very grim!
They frowned their way around me
Searching and seeking about me;"

("Codi o鈥檙 ostler niferoedd
I gyd a chwedl dybryd oedd.
Gygus oeddynt i鈥檓 gogylch
Yn chwilio i鈥檓 ceisio i鈥檓 cylch")

neu yn nhinc y cytseiniaid yn y gerdd brydferth "Merch ac Aderyn"

"By the relic it would be a pleasant task
To kiss a maid whose word was constant
And, after our good while
To look through the mantle of my glorious girl
At peaks that are lust鈥檚 pennies..."

("Crefft digrif oedd, myn y crair,
Cusanu dyn cysonair,
Ac edrych gwedy鈥檔 gwiwdraul
Rh么m ein hun, rhwymynnau haul
Drwy fantell fy niellwraig
Drumiau, ceiniogau cynhaig")

Cyfleu'r cyfeiriadau
Yn ogystal ag ymdopi ag arddull y cerddi gwreiddiol, pen tost ychwanegol i unrhyw gyfieithydd yw cyfleu cyfoeth yr holl gyfeiriadau sydd yng ngherddi Dafydd ap Gwilym

Mae ei farddoniaeth yn dilyn traddodiad beirdd yr Uchelwyr gyda鈥檜 harfer o ganmol eu noddwyr a鈥檜 teuluoedd.

Ond roedd Cymru鈥檙 bedwaredd ganrif ar ddeg yn fwy cosmopolitan na hynny! Mae yma gyfeiriadau mwy egsotig - at draddodiad y troubadwriaid o Languedoc yn Ne Orllewin Ffrainc a鈥檜 caneuon am filwyr dewr yn hiraethu am ferched y tu hwnt i鈥檞 gafael; mae na gyfeiriadau at y bardd Lladin, Ofydd a鈥檌 ddisgrifiadau telynegol o fyd natur - cyfeiriadau sy鈥檔 atseinio yn y cyfieithiad;

"Leaves of green-barked hazels would clothe me
Good times for me-they come with May!
Omniscient God, omnipotent, He
Would ordain with Mary the coming of May"

(Deilgyll gwyrddrisg a鈥檓 gwisgai
Da fyd ym yw dyfod Mai
Duw ddoeth gadarn a farnai
A Mair i gynnal y Mai.)

Elfen mwy amrwd

Mae yma elfen mwy amrwd sy鈥檔 tarddu o draddodiad y beirdd crwydrol - s锚r roc y byd canoloesol oedd yn byw鈥檔 galed, yn slotian ac yn hel merched a thrafferth ar hyd y ffordd; mae鈥檙 Canterbury Tales yn cyfleu naws y traddodiad hwn - ac fe gawn flas ohono gan Dafydd ap Gwilym yn Trafferth Mewn Tafarn.

Athrylith Dafydd ap Gwilym yw bod ffresni ei brofiadau ei hun yn treiddio drwy鈥檙 cyfan.

Er ei fod yn dilyn traddodiadau cyfoes, fe allwn gredu
mai Dafydd ei hun sydd wedi cael y drafferth mewn tafarn, fe allwn gydymdeimlo gyda鈥檌 gariad angerddol tuag at Morfudd; mae ei ap锚l hiraethus at Yr Wylan, a鈥檌 g芒n o fawl i i fis Mai yn ein cyffwrdd i gyd.

Cerddi gafaelgar
Mae cyfieithiad caboledig Gwyn Thomas yn gampwaith sy鈥檔 trosglwyddo holl gyfoeth Dafydd ap Gwilym trwy gyfrwng cerddi gafaelgar fydd yn apelio nid yn unig at y di-Gymraeg ond at y llu o Gymry Cymraeg sydd yn teimlo bod Cymraeg Canoloesol y gwreiddiol yn rhwystr.

Diolch i ddoniau barddol ac ysgolheigaidd y cyfieithydd, mae personoliaeth afiaethus Dafydd ap Gwilym, ei gariadon, ei elynion a鈥檙 holl gymeriadau lliwgar fu鈥檔 caru yn ymladd ac yn chwerthin saith canrif yn 么l, bellach yn fyw i genhedlaeth newydd.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy