91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Y newydd ar draul yr hen

Cyfrol ffres o bregethau'n pwysleisio'r presennol newydd

Dydd Iau, Awst 16, 2001

O Sgrepan Teithiwr
Cyfrol o bregethau Gwilym H.Jones
Gwasg Pantycelyn, £6.50.


Adolygiad gan John Stevenson

Bwriad gwreiddiol Gwilym H.Jones oedd cael 'casgliad preifat' ar gyfer ei blant - y tri ohonyn nhw erbyn hyn ar wasgar a heb glywed pregethau'u tad.

Wedi dewis pymtheg pregeth, penderfynodd Dr Jones eu rhyddhau ar gyfer cynulleidfa ehangach.

Cwestiwn amlwg, wrth gwrs, yw faint o ddiddordeb, yn yr oes sydd ohoni, sydd mewn cyfrol o bregethau - pa mor nodedig bynnag yw'r awdur.

Canrif a mwy yn 么l, wrth gwrs bu galw cyson am gyfrolau o'r fath gan garedigion. Y cennad mwyaf di s么n amdano yn aml yn cyhoeddi cyfrolau swmpus dan y teitl 'Bywyd a Gwaith y Parchedig Hwn-a Hwn'.

Casglu llwch

Fe'i cyhoeddwyd yn amlach na'i gilydd wedi marwolaeth y cennad a'u Tynged oedd casglu llwch y tu 么l i ddrws gwydr a'r gas-llyfrau mewn festri capel sydd erbyn hyn wedi hen gau ei ddrysau.

Cwestiwn arall a hwnnw, o bosib, yn gwestiwn llai amlwg ond yn llawn mor ddilys yw gofyn a ddylid cyhoeddi pregethau ar gyfer rhai na chafodd eu clywed yn y lle cyntaf.

Mae yna ddeng mlynedd ar hugain er enghraifft ers cyhoeddi'r gyfrol Rhwydwaith Duw.

Wrth gyflwyno'r gyfrol o bregethau a homil茂au Gweinidog Capel y Bedyddwyr Cymraeg yn Castle Street, Llundain dywed ei olynydd, Hugh Mathews fod pregethau wedi eu cyfansoddi i'w 'dweud a'u gwrando' ac nid fel pethau i'w darllen.

"Heb osgo, goslef, angerdd a phersonoliaeth y pregethwr y tu 么l i'r geiriau, y mae rhywbeth o angenrheidrwydd yn mynd ar goll" meddai.

Camarweiniol

Beth am y gyfrol hon felly? Mae Gwilym H - fel mae'r awdur yn cael ei adnabod gan genedlaethau o'i gyn fyfyrwyr ym Mangor - dwtsh bach yn gamarweiniol wrth hawlio ei fod yn 'amatur' ym myd pregethu.

Wedi cyfnod o ofal eglwysig ym M么n a Dyffryn Clwyd bu'n hyfforddi darpar weinidogion ei enwad yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth cyn cydio yn yr hyn ddaeth yn llafur oes yn Adran Astudiaethau Beiblaidd, Prifysgol Cymru, Bangor.

Anodd gorbwysleisio gwaith blaengar yr adran hon i'n dealltwriaeth ysgolheigaidd o'r Beibl. Heblaw am y rhai sy'n dal i ymddiddori yn y maes, ychydig erbyn hyn sy'n cofio am waith arloesol Bleddyn Jones Roberts, Margaret Thrall, Charles Whitley, Dafydd Ap Thomas a Gwilym H.Jones ei hun.

Ffresni ysgytwol

Trwy ddefnyddio technegau'r ieithydd, yr anthropolegwr a'r archeolegwr, llwyddodd yr ysgolheigion hyn i ryddhau'r pwnc o lyffethair rhagdybiaethau enwadol ac i edrych ar gynnwys a chefndir y Beibl gyda rhyw ffresni ysgytwol.

Mae yna ffresni'n perthyn i'r gyfrol hon ac mae thema ganolog y casgliad i'w gweld yn y bregeth gyntaf. Dywed Dr Jones yn ddiflewyn ar dafod ym mhregeth Llanrwst (1989) 'yr hyn garwn ei wneud yw pwysleisio mai'r presennol newydd ac nid y gorffennol hen sy'n bwysig'.

Mae thema'r 'newydd' fel llinyn arian drwy'r gyfrol ond yn yr un bregeth mae Gwilym H yn ddigon hirben i ragweld natur cwyn ei feirniaid. 'Mi wn', meddai 'y bydd rhai yn dweud ar 么l y gwasanaeth yma, na soniodd y pregethwr fawr ddim am yr Efengyl nac odid dim am Iesu'.

Blas o'i darllen
Darllenais y gyfrol hon fel un na fu trwy ddrws capel ers blynyddoedd. Ond hefyd fel un sy'n ymddiddori'n fawr yn ein treftadaeth Anghydffurfiol fel Cymry Cymraeg. Cefais flas o'i darllen.

Roeddwn ar adegau braidd yn anghyfforddus gyda'r s么n parhaus am werth y newydd ar draul yr hen.

Oes na werth cnoi cil ar yr hyn ddywedodd Walter John yn y casgliad pregethau a nodais ar gychwyn yr adolygiad. 'Ni wn' meddai Walter John 'beth oedd y rheswm dros osod dyddiad ei godi ar ffrynt pob capel ymron ond mae'n dda ei fod yno....Peidiwch 芒 thorri'ch cyswllt 芒'r cwmwl tystion mor ddi seremoni."

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy