91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sandi Thomas
'Wnaiff y Cymry ddim siarad Cymraeg 'da fi'

Cwyn Americanes sy'n dysgu Cymraeg


Dydd Iau, Mehefin 14, 2001

Speak WelshYou Don’t Speak Welsh! gan Sandi Thomas. £5.95. Cyhoeddwyd gan Dinas. Dyddiad cyhoeddi Mehefin 18

Ceir sylwadau llym a digon beirniadol o’r Cymry Cymraeg mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi am y profiad o ddysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan, You Don’t Speak Welsh!

Yn ôl yr awdur, Sandi Thomas, mae agwedd y Cymry Cymraeg at ddysgwyr yn anghredadwy:

"Os ydyn nhw am i’r Gymraeg barhau, pam eu bod yn gwrthod siarad yr iaith gyda dysgwyr?"

Profiadau pleserus a phoenus
Ategir y teimlad rhwystredig yma sawl tro yn y gyfrol, sy’n gofnod o’r profiadau pleserus a phoenus o ddysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan yn Aberystwyth:

"Why must the most frightening, the most intimidating part of learning Welsh be the fear of speaking it in public?"

Ceir darlun gwahanol o Gymru a’i diwylliant o safbwynt Americanes yn y gyfrol, yn ogystal â’r problemau enbyd mae rhywun yn ei gael wrth ddysgu’r iaith.

"Bydd unrhyw ddysgwr yn gallu uniaethu gyda phroblemau’r awdur gyda threiglo ac ynganu: ("There must be a better word for library than "thluhvurhrgethl") a bydd y gyfrol yn sicr yn ddefnyddiol a phwrpasol i athrawon a thiwtoriaid," meddai llefarydd o Wasg Y Lolfa, y cyhoeddwyr.

Cariad at Gymru
Yn ogystal â beirniadu’r Cymry mae Sandi Thomas, sy’n Americanes o Galiffornia, yn datgan ei chariad at Gymru a’r iaith Gymraeg:

"Dysgu Cymraeg yw un o’r pethau gorau dwi erioed wedi wneud – mae e wedi agor byd newydd i fi, a dwi yn gobeithio bod yn rhugl yn y Gymraeg a symud i fyw i Gymru rhyw ddydd."

Dywedodd Lefi Gruffudd ar ran Y Lolfa fod y gyfrol yn rhoi golwg ffresh o Gymru a’r Gymraeg.

"Golwg rhywun o’r tu allan sy’n rhyfeddu at bopeth – bydd yn agoriad llygad i’r Cymry Cymraeg sy bob amser yn cymryd pethau mor ganiataol."




Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy