91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Pwy Sy Na Tâs o lyfrau plant

Anna-Marie Robinson yn holi tybed oes yna ormod o anifeiliaid fferm ar gyfer plant bach . . .

Dydd Iau, Mehefin 7, 2001

Y llyfrau sy'n cael sylw:

• Bocs Teganau Smot a Tywydd Smot
• Swn pwy? • Pwy sy 'na?, • Alli di weld? • Glywi di?
• Lawr i'r Fferm Aeth Pam a Fi

• Beth Wela i ar y Fferm?
• Yr Afr Flin a Mochyn Ar Goll

• Bocs Teganau Smot a Tywydd Smot gan Eric Hill. Gwasg Gomer, 拢2.95 yr un.

tTair seren yr un
Dau Lyfr Bwrdd Bach ar gyfer y plant fenga, gyda lluniau lliw dros ddwy dudalen a brawddeg o stori i gyd-fynd a phob llun.
Llyfrau syml iawn, yn cyflwyno gwahanol deganau a thywydd sylfaenol gyda pwt o frawddeg yn disgrifio'r llun ar y top.

Mae Smot ei hun yn hen ffefryn gyda phlant o bob oed, ac mae croeso mawr bob tro mae na lyfr newydd gyda Smot ynddo fo - er nad dim straeon am Smot yw'r ddau lyfr yma, yn hytrach rhestrau o deganau a gwahanol dywydd.

Ar y cyfan maen nhw'n lyfrau bwrdd bychan sy'n hawdd i ddwylo bach afael ynddyn nhw gyda digon o wrthrychau adnabyddus i'r darllenwr ieuenga.

• Swn pwy?,
• Pwy sy 'na?,
• Alli di weld?
• Glywi di?
Gwasg Gomer, 拢2.99 yr un
.
Pedair seren yr un
Dyma hwyl. Cyfres newydd a'i gelwir yn Pi-po - a dyna'r union sydd gennym yn y pedwar llyfr yma.

Ar them芒u gwahanol, sef clywed a gweld, mae'r llyfrau yma'n annog blant bychain i ddyfalu pa swn mae nifer o wahanol anifeiliaid yn ei wneud, yn ogystal a dyfalu pa anifail sy'n cuddio tu 么l i wahanol wrthrychau.

Er mwyn gweld pa anifail sy'n cuddio, mae'n rhaid llithro rhannau o'r tudalennau cadarn i un ochr. Mae g锚m pi-po fel'ma wastad yn mynd lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.

Cyfres wych, sy'n hwyl i rieni hefyd!
Un o bob un i ty ni plis.

• Lawr i'r Fferm Aeth Pam a Fi, Gwasg Gomer, 拢3.50, darluniau gan Jane Chapman, Addasiad Gordon Jones.
Dwy seren
Llyfr lluniau yw hwn yn y bon, yn dangos taith Pam a "Fi" o gwmpas y fferm.

Un bennill sydd ar bob tudalen, sef "Lawr i'r fferm aeth Pam a fi, Buwch ddaeth draw am sgwrs a ni. Dyma'r geiriau glywson ni...MWW! MWW! MWW!" (neu clwc, clwc, clwc, mee,mee, mee, wff, wff, wff..........)

Mae'r lluniau lliwgar yn hyfryd gyda digon o fanylder i gadw diddordeb plentyn bychan yn y cymeriadau a'r anifeiliaid.

Mae'r un frawddeg yn cael ei hailadrodd ar bob tudalen er mwyn cyflwyno synau anifeiliaid gwahanol mewn ffordd sy'n gyfarwydd - ac mae'n gweithio.

Ond does ddim byd gwreiddiol yn cael ei gynnig yma.

• Beth Wela i ar y Fferm? gan Caroline Anstey, Addasiad Emily Huws, Gwasg Gomer, 拢3.50
Dwy seren
Ac mi ryda ni ar fferm eto - syrpreis syrpreis!

Pam fod cymaint o lyfrau plant bach wedi eu lleoli ar fferm dwch?

Mae'n wir deud fod plant bychan yn hoff o anifeiliaid ond mae stori yn bwysicach i'w harwain drwy lyfr.

Mae yna ferch yn y llyfr yma ond does na ddim enw iddi (nac, ychwaith, enw i'r ferch yn llyfr Pam a Fi, uchod), na stori ychwaith.

Mae plant wastad yn hoffi cymeriad maen nhw'n eu hadnabod o lyfrau eraill (fel Smot, Tecwyn), ac er bod cefn y llyfr hwn yn awgrymu ei fod yn addas i blant o ddwy i fyny, credaf ei fod yn addas i blant llawer ieuengach na hynny, sydd yn dechrau adnabod anifeiliaid.

Lluniau gwych eto, ar ffurf "sbecian drwy dwll" i weld pa anifail sydd dros y ddalen.

• Yr Afr Flin a Mochyn Ar Goll, Cyfres Cae Berllan gan Heather Amery a Stephen Cartwright, 拢2.95 yr un, Gwasg Gomer. Addasiad Emily Huws. Ymgynghorydd Iaith, Betty Root.
Pum seren yr un

Clawr Mochyn ar gollCafodd Cyfres Cae Berllan, sef cyfres o stor茂au byrion, eu sgwennu mewn ymgynghoriad ag arbenigwr iaith ar gyfer plant sy'n dechrau darllen.

Fferm yw'r thema unwaith eto, gyda'r un cymeriadau, Mari Morgan a'i phlant, Cadi a Jac, ym mhob llyfr, sydd yn help i gadw diddordeb plant wrth iddyn greu pherthynas a dod i adnabod eu ffrindiau newydd.

Mae'r llyfrau yma'n rhoi cyfle ardderchog i rieni a phlant rannu'r profiad o ddarllen straeon ac edrych ar y lluniau sy'n mynd efo'r stori, gydag un frawddeg fer, hawdd, ar dop y tudalen i'r plentyn ei darllen allan yn uchel, ac yna testun hirach ar waelod pob tudalen i'r rhiant ei darllen allan.

Mae cyflwyniad gan yr ymgynghorydd iaith, Betty Root, tu mewn i'r clawr, yn egluro bwriad y gyfres a rhoi syniadau i'r rhiant ar sut i ddarllen y llyfr gyda'u plant. Cyfres gwerth ei chael.







Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy