|
|
'Parlys'
ym myd drama
Ond CCC yn ateb cyhuddiad o fod yn fiwrocratiaid diweledigaeth
Dydd Iau, Ebrill 5, 2001
|
Yn ôl y llenor a’r dramodydd, Gareth Miles, mae sefyllfa’r theatr
Gymraeg yn gwaethygu o ddydd i ddydd.
"Mae pethau’n waeth nag oedden nhw flwyddyn yn ôl," meddai.
Dywed fod Sgript Cymru yn straffaglu i wneud y gorau o gyllid
truenus o wael, fod Theatr Gwynedd a Theatr Bara Caws wedi’u parlysu
tra bo arian yn dal i lifo i’r "colony" Theatr Clwyd "i noddi
prosiectau ystrydebol mewn theatr anghywir mewn lle anghywir".
Beio Cyngor y Celfyddydau
Ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, ddydd Llun
dywedodd ei fod yn rhoi’r bai i gyd ar Adran Ddrama Cyngor Celfyddydau
Cymru.
"Mae Mike Baker wedi bod yn arolygu ac yn goruwch-arolygu’r theatr
Gymraeg ers pymtheng mlynedd a mwy, a mae mwy o gyfrifoldeb arno fo
na neb am hyn," meddai Gareth Miles.
"Cyngor y Celfyddydau sydd wedi bod yn gofalu am y ddrama - biwrocratiaid
di-weledigaeth ydyn nhw, mae arna i ofn, a dyna pam rydyn ni yn y
sefyllfa yma.
"Pan ddaethon nhw a Dalier Sylw a Made In Wales
i ben dywedodd Cyngor y Celfyddydau y byddai yna o leia ddeunaw o
ddramau newydd yn cael eu llwyfannu.
"Tair gawson ni - dyna’i gyd. Bydd Dalier Sylw yn gwneud un
ddrama Gymraeg ac un ddrama Saesneg y flwyddyn nesa - a’r rheini gyda
chast bach iawn.
"Mae Mike Baker wedi bod yn gyfrifol am wneud gwaith andwyol iawn."
Cyhuddiad o ymosodiad personol
Ond yn ôl Daniel Jones, cadeirydd Pwyllgor Drama Cyngor Celfyddydau
Cymru, doedd beirniadaeth Gareth Miles yn ddim amgen nag ymosodiad
personol, heb lawer o sail na thystiolaeth.
"Pan gychwynnwyd y strategaeth ddrama ddiwedd y 90au doedd y Cyngor
ddim wedi cael arian ychwanegol am bum mlynedd i’w dosbarthu i’r sector
ddrama," meddai.
"Rhoddwyd yr holl sector, yn unigolion, yn gwmniau a Chyngor y Celfyddydau
mewn cyfyng-gyngor aruthrol.
"Dyna’r sefyllfa oedd yn wynebu Cyngor y Celfyddydau yn niwedd y 90au.
Dwi’n synnu bod rhywun fel Gareth Miles sy’n hyddysg yn theatr a gwleidyddiaeth
Cymru ddim yn gweld mai polisïau llywodraeth a pholisïau ariannu sydd
tu ôl i’r sefyllfa.
"Tua dwy flynedd yn ôl fe gawson ni gynllun newydd gan Gyngor Celfyddydau
Cymru ynglyn â’r theatr Gymraeg. Un o’r rheini oedd creu pwerdy ar
sail Theatr Gwynedd a Bara Caws.
'Mae arian yno'
"Dyw’r cwmniau ddim wedi eu parlysu, mae gan y ddau gwmni arian a
mae ganddyn nhw arian ychwanegol yn y flwyddyn ariannol i ddod a maen
nhw’n gwybod fod arian yna ar gyfer y flwyddyn ar ôl hynny.
"Felly mae modd iddyn nhw gynllunio ymlaen llaw ac y mae Bara Caws
ar y lôn efo Pen Set gan Wil Sam - maen nhw’n gwneud
gwaith ardderchog - a ’dan ni newydd weld Theatr Gwynedd yn gwneud
dwy ddrama newydd gan Aled Jones Williams.
"O ran y ‘pwerdy’ fe ddaeth y cynllun o flaen y Cyngor ym mis Tachwedd
dwetha ac erbyn hynny roedd dogfen y Cynulliad, Diwylliant Cytûn,
wedi’i gyhoeddi ac roedd Jennie Randerson wedi’i phenodi yn Weinidog
y Celfyddydau.
"Byddai gwireddu’r cynllun yna heb fynd ’nôl ac edrych ar y sylwadau
sydd yn y ddogfen yna - a beth yw blaenoriaethau polisiau’r Cynulliad
- wedi bod yn ffolineb llwyr.
"Roedd yn ofynnol arnon ni yn Diwylliant Cytûn adrodd
yn ôl erbyn diwedd 2001 ar gyfer cynlluniau ar gyfer y ‘pwerdy’ ac
mae Jennie Randerson - yn ôl yr hyn oedd ganddi i’w ddweud rai dyddiau
yn ôl yn y Cynulliad - wedi ategu hynny.
"Mae’r adolygiad ar y strategaeth honno yn mynd ymlaen gan geisio
tynnu mewn holl bartneriaeth y cwmnïau eraill, y cwmnïau cymunedol
a’r holl drafodaeth am natur theatr gynhaliwyd yn Diwylliant
Cytûn.
"Y gwahaniaeth rhwng nawr a 1997 yw fod lle i ni nawr osod cynlluniau
wedi eu costio gerbron y Cynulliad iddyn nhw i’w cytuno a bydd hynny
yn golygu ’chwaneg o arian i’r theatr yn yr iaith Gymaeg yng Nghymru."
Dim ond dau neu dri
Dywedodd Gwilym Owen i Jon Gower, Gohebydd Celfyddydau 91Èȱ¬ Cymru,
ddisgrifio achlysuron pan nad oedd ond dau neu dri wedi dod i weld
dramau mewn neuaddau lleol.
Y ddadl yw fod angen meithrin traddodiad o fynd i’r theatr, neu fydd
yna ddim cynulleidfaoedd.
"Mae angen, fel mae Gareth Miles yn dweud, mwy o deithio," meddai
Daniel Jones. "Mwy o deithio rheolaidd o gwmpas llwyfannau Cymru er
mwyn denu’r cynulleidfaoedd yn ôl a gosod yr arfer o fynd i’r theatr
yn ôl ar yr agenda.
"Mae’r diffyg o ganlyniad i flynyddoedd o ddiffyg buddsoddi yn y celfyddydau
gan lywodraethau.
"Mae ganddon ni Gynulliad a mae gynnon ni lywodraeth sy’n gweld gwerth
hanfodol y Celfyddydau ym mywyd Cymru heddiw.
"Rydan ni wedi ceisio adeiladu Theatr Clwyd fel Theatr Genedlaethol
yn yr iaith Saesneg a mae hi’n gwneud gwaith rhyfeddol.
"Fe fues i’n gweld perfformiad o Damwain a Hap ganddyn
nhw - cyfieithad o waith Dario Fo yn y Stiwt yn y Coed Duon yng nghanol
y Cymoedd.
"Daeth 60 o Gymry Cymraeg allan yn y glaw i weld y perfformiad hwnnw.
Maen rhyfeddol.
"Ond rhaid i ni osgoi rhannu byd y theatr drwy ddweud mae gan un ochr
hyn a hyn o arian a mae angen tynnu arian wrthyn nhw i fynd i’r Gymraeg."
|
|
|