91热爆


Explore the 91热爆

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llyfr y Flwyddyn Cyfle i chi ddewis
eich llyfr y flwyddyn


Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn - pa un fyddech chi'n ei ddewis?

Dydd Iau, Mai 3, 2001

Y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enwau鈥檙 chwe llyfr sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2001.

Bydd enwau鈥檙 llyfr Cymraeg a鈥檙 llyfr Saesneg buddugol yn cael eu cyhoeddi yng Ngwyl y Gelli ar Fai 28.

Yn y cyfamser mae cyfle i ddilynwyr Llais Ll锚n ddweud pwy maen nhw鈥檔 ei feddwl ddylai ennill - neu hyd yn oed ddewis llyfr nad yw ar y rhestr fer.

Gallwch ebostio eich awgrym trwy glicio yma

Y cyfan sydd raid ichi ei wneud yw enwi'r llyfr y tybiwch chi a ddylai gael ei anrhydeddu yn llyfr y flwyddyn.

Mae鈥檙 wobr gan Gyngor y Celfyddydau yn mynd i鈥檙 llyfr a ddewisir gan banel o feirniaid yn llyfr mwyaf nodedig yn y Gymraeg ac yn y Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2000.

Mae tri llyfr Cymraeg a thri Saesneg ar y rhestr fer gyda gwobr o 拢3,000 yr un i鈥檙 enillwyr ym mhob categori a 拢1,000 yr un hefyd i鈥檙 awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. .

Yr awduron Cymraeg yw:

Owain Martell• Owen Martell
Gwasg Gomer. Nofel gyntaf awdur, a fagwyd ym Mhontneddfechan ac sy鈥檔 byw bellach yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn adran chwaraeon 91热爆 Cymru.

Y nofel hon fu鈥檔 fuddugol yng Nghystadleuaeth Nofel 2000 Gwasg Gomer.


Mihangel Morgan• Mihangel Morgan , Y Lolfa. Casgliad newydd o storiau byrion gan "awdur gwreiddiol a beiddgar". Yn frodor o Aberd芒r, y mae鈥檔 byw yn Nhal-y-bont ger Aberystwyth ac yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth.


Jerry Hunter• Jerry Hunter Soffestri鈥檙 Saeson Gwasg Prifysgol Cymru. Ymdriniaeth ddadlennol 芒 chyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru: oes y Tuduriaid.

Magwyd yr awdur yn Ohio; y mae鈥檔 byw yng Nghaerdydd.




Yr awduron ar y rhestr fer Saesneg yw:

• Desmond Barry
The Chivalry of Crime Jonathan Cape. Nofel am hanes Jesse James, a鈥檌 gymdeithas dreisgar. Magwyd yr awdur ym Merthyr Tudful ond y mae yn awr yn byw yn New Jersey.

• Stephen Knight Mr Schnitzel Viking. Nofel hunan-gofiannol gan un o feirdd Saesneg amlycaf Cymru. Fe鈥檌 lleolir yn Awstria ac yn Abertawe, lle magwyd yr awdur.

• Owen Sheers The Blue Book Seren. Y mae Owen Sheers, o鈥檙 Fenni, eisoes wedi鈥檌 gydnabod yn un o leisiau mwyaf addawol y mileniwm newydd. Dyma ei gasgliad cyntaf.

Dewiswyd y chwe llyfr gan ddau banel o feirniaid: yn Gymraeg, Harri Pritchard Jones, Gwyneth Lewis ac R. Arwel Jones; ac yn Saesneg, Bernice Rubens, Peter Florence a Peter Stead.

Cysylltiadau rhyngwladol

Y mae Cyngor y Celfyddydau yn tynnu cryn sylw at gysylltiadau rhyngwladoly gystadleuaeth hon eleni gan ddweud:

"• Mae Desmond Barry, o Ferthyr, yn ysgrifennu am yr Unol Daleithiau ac yn byw yno;
• Jerry Hunter, o鈥檙 Unol Daleithiau, yn ysgrifennu am Gymru, yn Gymraeg;
• Owen Martell yn ysgrifennu am Gymru a鈥檙 Unol Daleithiau;
• Mihangel Morgan, yn cwmpasu Efrog Newydd, Paris, Tokyo ac Aberystwyth;
• Stephen Knight yn symud rhwng Cymru ac Awstria; ac Owen Sheers rhwng Cymru a Ffiji."

Ewch ymlaen yn awr i enwi eich dewis chi o lyfr y flwyddyn trwy glicio yma


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy