91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr  Cosyn Sbort a hwyl
i fach a mawr


Y stori ddiweddaraf o Wlad y Rwla yn mynd i lawr yn dda

Dydd Iau, Mawrth 29, 2001

Adolygiad gan Dinah Jones - gyda help Ben (pump oed) a Sian (tair oed)

• Cosyn gan Angharad Tomos, Y Lolfa. £2.95.


Pws Esgid Uchel; Hugan Fach Goch. Gwasg Carreg Gwalch. £2.50 yr un.


•ˆStori newydd o wlad y Rwla

O’r diwedd, stori newydd o Wlad y Rwla! Y drydedd ar ddeg yng Nghyfres Rwdlan.

Mae’n hir ddisgwyliedig yn ty ni, lle mae’r llyfrau wedi plesio’n enfawr.

Mae Ben yn ffan mawr o’r straeon a chyda phob stori newydd mae na gymeriad newydd i ddod i’w nabod ²¹â€™r hen ffefrynnau fel y Dewin Dwl, Rwdlan ²¹â€™r Llipryn Llwyd i’w cyfarfod unwaith eto.

Mae nhw’n sbort i’w darllen - i’r rhai bach ²¹â€™r rhai mawr! Ac mae’n anodd cyfleu pa mor braf yw cael llyfr gwreiddiol Cymraeg i’r plant yn hytrach nag addasiad neu gyfieithiad.

Ond os oedd na bleser wrth fynd ati i ddarllen am gymeriad bach newydd yng nghreadigaeth hudolus Angharad Tomos mi roedd na ofid hefyd. A fyddai cystal ²¹â€™r lleill? A fyddai na siom?

Fel gyda gweddill y llyfrau, mae’r lluniau sy’n cyd-fynd ²¹â€™r stori yn ddeniadol o syml ²¹â€™r llyfr ei hun yn fach ac yn dwt ac o faint cyfleus i’w ddarllen yn y gwely.

Maen nhw’n llyfrau braf i’w perchen ac mae rhes ohonyn nhw ar silff lyfrau’r plant.

Hefyd am £2.95 mae’n bris da am lyfr gwreiddiol Cymraeg - gyda llawer o luniau a stori a "gafael" ynddi.
Dechrau da felly.

Doniolwch yn aros yn y cof

Fel yn y lleill mae na ddoniolwch yn stori Cosyn gyda hiwmor yr awdur yn sefyll yn y cof. Yn Diwrnod Golchi mae’r Dewin Dwl yn gwisgo ewyn y sebon golchi ar ei wyneb fel barf. A dyma fe’n mynd o gwmpas fel hen wr o wlad y sebon.

Cafodd Ben bwl o chwerthin nes ei fod yn wan wrth inni ddarllen am hyn ac hyd heddiw, pan mae na ddigon o fybls yn y bath, mae’n dal i chwarae bod yn hen wr o wlad y sebon.

Mae na doreth o emosiynau yn y straeon bach cynnes yma hefyd gyda nifer o’r cymeriadau yn ennyn hoffter.

Pan aeth Cosyn i drwbwl dyma Ben a Sian yn edrych lan ata’i gyda’u llygaid yn fawr fel soseri, cystal a dweud, "O na, beth sy’n mynd i ddigwydd i Cosyn?"

Fel gyd²¹â€™r gweddill, dyma stori dda, sy’n cael ei hadrodd yn dda ac sy’n creu ymateb, emosiwn a chynhesrwydd.

Mae’r plant yn poeni beth sy’n digwydd i’r cymeriadau. Mae nhw’n gallu chwerthin, becso a mwynhau’r rhyddhad pan fo dihangfa’n dod.

Chwerthin a drygioni

Ond y chwerthin ²¹â€™r drygioni sy’n taro deuddeg bob tro. Dyma awdures sydd wedi creu byd o gymeriadau na fydd yn dyddio. Mae Catrin, sy’n ugain oed, ac yn gwarchod y plant, yn cofio hoffi Rala Rwdins pan oedd hi’n fach. Ac mae nhw’n dal yn ffres ac yn fyw.

Mae’r iaith yn rhwydd i’w darllen - heb fod yn nawddoglyd - gyda thoreth o eiriau cyfoethog .

Roeddwn yn arfer addasu rhai o’r geiriau gogleddol fel efo, dos, fo ac hitia i’r geiriau sy’n gyfarwydd i ni fel gyda, cer, fe a phaid a becso - yn enwedig yn llais yr awdur.

Does na ddim llawer o eiriau sy’n ddieithr i’r plant ac erbyn hyn rwy’n dueddol o ddefnyddio mwy o’r ffurfiau gogleddol.

Mae na gyfres deledu lwyddiannus yn seiliedig ar Wlad y Rwla. Ond dyw hi ddim wedi sarnu’r llyfrau fel sy’n gallu digwydd weithiau pan fydd lluniau ar y sgrîn yn cymryd lle’r geiriau ar y dudalen.

Mae’r ddwy gyfres - yn y ddau gyfrwng gwahanol - yn ategu ei gilydd.

Ond beth am y cymeriad newydd - Cosyn? Pwy yw Cosyn? Mi gewch chi ddarganfod hynny drwy ddarllen y llyfr; digon yw dweud i'r creadur bach newydd yma lwyddo i swyno’r darllenwyr yn ty ni.

Er mai’r Dewin Dwl - yr un bach comic - yw hoff gymeriad Sian o hyd, Cosyn oedd hoff gymeriad Ben erbyn diwedd y stori.

Ac ar ôl darllen y dudalen olaf mae’n gofyn beth sy’n digwydd i Cosyn pan fydd yn dihuno.

Mrs Awdures, beth amdani? Beth am stori arall am Cosyn? A plis peidiwch a’i gadael hi’n rhy hir cyn yr un nesaf!

Pws Esgid Uchel; Hugan Fach Goch. Gwasg Carreg Gwalch. £2.50 yr un.



Dyma ddwy stori draddodiadol yn y gyfres Straeon Plant Bach gydag Eira Wen a tri Mochyn Bach wedi eu cyhoeddi yn barod.

Addasiadau ydyn nhw o lyfrau a gyhoeddwyd yng Ngwlad Belg.

Mae’n wastad yn fy synnu sut mae plant yn hapus i ddarllen yr un hanesion cyfarwydd dro ar ôl tro mewn diwyg a geiriau gwahanol.

Ond unwaith eto roedd na groeso mawr i’r fersiynau diweddaraf gan y ddau plentyn.

Mae nhw’n lyfrau clawr caled gyda thudalennau bwrdd sydd eto o faint twt a chyfleus am bris rhesymol.

Mae’r addasiadau Cymraeg yn dderbyniol er bod y gair etifeddu yn y frawddeg gyntaf yn Pws Esgid uchel wedi bod yn ychydig o rwystr wrth ddechrau’r stori.

Mae’r lluniau’n lliwgar a chlir ond heb y gwreiddioldeb a geir yng Nghyfres Rwdlan.

Hugan Fach Goch oedd y ffefryn gyda Ben a Sian.

• Beth yw eich barn chi a'r plant am y llyfrau hyn?
Ebostiwch i ddweud
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy