|
|
Holi
awdur:
Mihangel Morgan
Nofelydd,
bardd ac ysgolhaig
|
Enw:
Mihangel Morgan
Beth yw eich gwaith?
Darlithydd.
Llenor.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Caligraffydd
0 ble'r ydych chi鹿n dod?
础产别谤诲芒谤
Lle鹿r ydych chi鹿n byw yn awr?
Tal-y-bont
Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?
Rwy'n dal i ddisgwyl am y digwyddiad 'ma
Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Mae Pan Oeddwn Fachgen yn stori am fachgen sydd mewn penbleth
ynglyn 芒'i rywioldeb - ydy e'n fachgen neu'n ferch. Ces i'r syniad
gwreiddiol with mlynedd 'n么l.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Pedair nofel, dwy gyfrol o gerddi, cerddi i blant a dros 50 o storiau..
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
The Observer's Book of Dogs gan y Cymro, Clifford 'Doggie' Hubbard.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf
Pwy yw eich hoff awdur?
Truman Capote; Isaac B. Singer; Owen Martell; Waldo; T. H. Parry-Williams.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Nag oes. Dwi ddim yn credu bod llyfrau yn effeithio arnom fel'na.
Pwy yw eich hoff fardd?
Waldo
Pa un yw eich hoff gerdd?
Mewn dau Gae.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ffi ffei ffo ffym
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dwi ddim yn gwylio'r teledu.
Fy hoff ffilm yw . . ..
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Casgymeriad - Charlus, yn nofel hir Proust; Quilp yn Dickens.
Hoff gymeriad - Don Quixote; hefyd, Holden Caulfield, Salinger.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
A'm caro, cared fy nghi.
Pa un yw eich hoff air?
Fy hoff air Cymraeg, pobl.
Fy hoff air Saesneg, puppy.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ateb holiadur.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Golygus
Disglaer
Diymhongar.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy niymhongarwch.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Does gen i ddim arwyr.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Byddwn wedi hoffi bod yn llygad-dyst i beth bynnag a ddigwyddodd ar
y Marie Celeste.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn
ei ddweud neu yn ei ofyn?
Byddwn wedi hoffi cwrdd 芒'r sawl a ysgrifennodd lawysgrif Voynich
a byddwn wedi gofyn beth yw ei hystyr.
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Ddim yn hoffi teithio.
Teg edrych tuag adref.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Dwi ddim yn un o'r bobl 'ma sydd yn addoli bwyd.
Gorau enllyn, chwant bwyd.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Mynd i sioeau cwn. .
Pa un yw eich hoff liw?
Coch
Pa liw yw eich byd?
Oren.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf yn gwahardd holiaduron sy'n gofyn Pa un yw eich hoff liw?
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes.
Y teitl yw, Croniclau Pentre Simon neu Alcemi.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol
arall?
Nid yw croen Miss Silfester yn wyrdd ond mae hi'n debyg iawn i froga.
am Pan Oeddwn Fachgen
|
|
|