91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Holi awdur:
David Meredith


Awdur ac un o ffigurau amlycaf y byd Cysylltiadau Cyhoeddus yng Nghymru

• Enw:
David Meredith

Beth yw eich gwaith?

Swyddog Canmlwyddiant Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (rhan amser)


Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Pennaeth y wasg a chysylltiadau cyhoeddus HTV (1968 - 1989) ac S4C (1993 - 2001)

0 ble'r ydych chi'n dod?

Aberystwyth, Ceredigion

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

Ar ffarm Cwm Cynllwyd, Llanuwchllyn ger Y Bala

Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?

Gweld geni fy mhlant yn iach

Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf?

Dwedwch ychydig amdano.
Hunangofiant. Catharsis - sgrifennu fy hunangofiant. Yr ysfa am gofnodi troeon yr yrfa. Gofalais fod digon o luniau ynddo - dros 80.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

Llyfr ar fywyd a gwaith Michelangelo
Llyfr ar fywyd a gwaith Rembrandt
Stori i blant - 'Congrinero'
Stori antur i blant -'Fôn Fawr a Bili Bach'

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

'Y Bratchets'
'Treasure Island' R. L. Stevenson

A fyddwch yn edrych arno'n awr?

Ddim ers llawer blwyddyn ('Bratchets')
'Treasure Island' - yn achlysurol

Pwy yw eich hoff awdur?

Aled Islwyn

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Treasure Island

Pwy yw eich hoff fardd?

T. Gwyn Jones / Gwenallt

Pa un yw eich hoff gerdd?

'Cwm Tawelwch'. Gwilym R. Jones

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

'Ble'r eidi fab y ffoedigaeth,
A'th gar salwn yn hymian ar y rhiw?'

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Ffilm - Shane, Alan Ladd
Rhaglen deledu - Rhaglen Gwilym Owen ar 'Y Rhyd', o'r rhaglen 'Yr Wythnos'

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

Casgymeriad - Blind Pugh (Treasure Island)
Hoff gymeriad - Ben Gunn (Treasure Island)

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

Dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio!

Pa un yw eich hoff air?

Banana

Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Dawn cyfansoddwr cerddorol

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

Cymro
Carwr dynoliaeth
penderfynol

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

Dim digon amyneddgar

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

Michelangelo. Edmygwr ei gampweithiau gwych.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

Y diwrnod y dadorchuddiwyd ffresgo Michelangelo ar nenfwd Capel y Sistin yn Rhufain yn yr 16eg ganrif.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

Owain Glyndwr - a gofyn iddo ble roedd yn mynd (pan ddiflannodd!)

Pa un yw eich hoff daith a pham?

O Gymru ar draws Ffrainc dros fwlch y Simplon i'r Eidal. Prydferthwch yr Alpau. Croeso'r Eidalwyr.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Bowlen o gawl llysiau.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Ymweld ag amgueddfeydd, stelcian yn fy mhlanhigfa goed y tu ôl i'r ty a rhyfeddu at natur a 'gweld' y coed maswrn, criafol a phîn yn tyfu.

Pa un yw eich hoff liw?

Coch

Pa liw yw eich byd?
Melyn a du

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi
?
Deddf ar i bawb garu ei gyd-ddyn pwy bynnag y bo.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Oes. Nofel.


Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

"Agorodd drws cefn y Ford Lincoln du a gwelodd y gwn arian yn sgleinio yng ngolau'r haul."

am Pwy Fase'n Meddwl
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91热爆 Cymru'r Byd






About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy