|
|
Holi
awdur:
Cennard Davies
Awdur
llyfrau i ddysgwyr
|
Enw:
Cennard Davies
Beth yw eich gwaith?
Newydd ymddeol o fod yn ddarllenydd ym Mhrifysgol Morgannwg
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athro ysgol
O ble'r ydych chian dod?
Treorci, Cwm Rhondda.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Treorci
Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?
.Priodi a genedigaeth fy mhlant.
Beth symbylodd eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Cwestiwn gan fyfyriwr, se;f Pa ddiarhebion sy'n dal i gael eu defnyddio
ar lafar? Roeddwn i'n meddwl y byddai'n werth eu nodi, eu cynnwys
mewn sgwrs ynghyd 芒 rhai dywediadau cyffredin eraill.
Beth arall ydych chi wedi ei sgrifennu?
Nifer o lyfrau i ddysgwyr - Llafar a Llun; Y Geiriau Bach; Lluniau
Llafar; Torri'r Garw; Sefyllfa a Sgwrs; Dros y Bont; Y Gymraeg Ddoe
a Heddiw; Cyrsiau Cymraeg Catchphrase a Linguaphone.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Y Cel Du ( addasiad o Black Beauty) a Tom Sawyer.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na fyddaf.
Pwy yw eich hoff awdur?
Yn newid o gyfnod i gyfnod.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
The Great Silence gan Sean de Tr茅ine.
Pwy yw eich hoff fardd?
Mae gen i nifer o ffefrynnau; Waldo, T H Parry-Williams, Gerallt Lloyd
Owen (Cymraeg); Garcia Lorca (Sbaeneg); Iain Crichton Smith (Gaeleg)
Pa un yw eich hoff gerdd?
Mewn Dau Gae, Waldo.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Cyfaredd cof yw hiraeth
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Have I Got News For You
Dwi ddim yn ddyn ffilmiau
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Gormod i'w rhestru
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Gorau Cymro, Cymro oddi cartref - o ddeall ei wir ystyr.
Pa un yw eich hoff air?
Gwnaf
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu offeryn cerdd yn dda.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Rhaid ichi ofyn i'r teulu a ffrindiau!
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Tuedd i adael pethau tan y funud olaf.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a
pham?
Owain Glyn Dwr - gweledigaeth, dewrder, agwedd eangfrydig at ddysg
a pherthnasau rhyngwladol Cymru.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg - tasai William Morgan wedi gofyn imi
gyfieithu ond un adnod!
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyn Dwr.
Beth ddigwyddodd i ti?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith adref dros fynydd Y Rhigos
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio hamddenol mewn ty bwyta yn Ffrainc gyda physgod yn brif gwrs.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, Garddio, Darllen, Teithio.
Pa un yw eich hoff liw?
Glas
Pa liw yw eich byd?
Gwyn.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Heb ateb.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Ddim ar y funud.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Rwy'n dal i chwilio am un!
|
|
|