91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dylan Holi awdur:
Dylan Llewelyn


Awdur Y Byd Mawr Crwn - llyfr am bêl-droed

Dydd Iau, Ionawr 2, 2003
Y llyfr• Enw: Dylan Llewelyn

Beth yw eich gwaith?
Cynhyrchydd teledu gyda Ffilmiau’r Nant

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Mwydro am ffwtbol ar "Ar y Marc" bob bore Sadwrn. Cyfarwyddwr CPD Pwllheli a rwan awdur {o fath}

O ble’r ydych chi¹n dod?
Magu ym mhentref Y Ffôr ond byw ym Mhwllheli ers
blynyddoedd bellach

Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Downtown Pwllhel
i
Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?
Heb os, genedigaeth y plant acw – Alaw a Cian.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Roedd Gwasg Gwynedd yn awyddus imi sgwennu rhywbeth pêl-droedaidd, a chan mod i newydd orffen teithio o amgylch y byd yn gwylio, siarad a ffilmio ffwtbol ar gyfer cyfres deledu i S4C o’r enw "Mae’r Byd yn Grwn", dyma feddwl y bydde adrodd rhai o’r hanesion yn eitha difyr.

Fel gyda’r gyfres, ro’n i’n awyddus i osgoi sgwennu llyfr pêl-droed pur. Hynny yw roeddwn yn awyddus i son fwy am y teithiau, y bobloedd a hanes y gwledydd yn hytrach na dim ond sgwennu adroddiadau am gemau pêl-droed.
Ac fel rhywun sydd wedi dilyn tim pêl-droed hynod aflwyddiannus Cymru i bobman, roedd hwn yn gyfle hefyd i olrhain ychydig o’m hanesion a mhrofiadau ym mhellafoedd Ewrop yn gwylio chwaraewyr proffesiynol oedd yn amlwg yn malio llai na ni am Gymru.

Beth arall ydych chi wedi ei sgrifennu?

Rhyw dair blynedd yn ôl fi sgwennodd hunangofiant Gwyn Pierce Owen "Cmon Reff" ar gyfer ‘Cyfres y Cewri’ i Wasg Gwynedd

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Rhodd Mam

A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Byddaf maes o law gan fod Alaw newydd ddechrau’r Ysgol Sul

Pwy yw eich hoff awdur?
P.j. O’Rourke

A’ch hoff bêl-droediwr?
Kenneth Mathieson Dalglish

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Holidays in Hell gan P J O’Rourke

Pwy yw eich hoff fardd?
Gruff Rhys {Super Furry Animals}

Pa un yw eich hoff gerdd?
Gwreiddiau Dwfn {SFA}

Pa un yw eich hoff gêm bêl-droed a digwyddiad mewn chwaraeon?
Hoff gem: Cymru 2 Yr Eidal 1 ….perffaith

Hoff ddigwyddiad: Trevor "the tortoise" Misapeka o American Samoa (dyn 22 stôn) yn "rhedeg" râs 100 metr ym mhencampwriaethau’r byd yn Edmonton yn arafach nag unrhywun arall ‘rioed

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Ferris Bueller's Day Off
Rhaglen deledu: The Office

Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Sion Blewyn Coch
Cas gymeriad: Bridget Jones

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
Gorau chwarae cyd chwarae

Pa un yw eich hoff air?
Cymraeg: Melys
Saesneg: Sexy
.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Unrhyw fath o ddawn gerddorol

Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Crwn,
Diamynedd,
Cyson

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

O leia dau o’r tri pheth uchod

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Fy nhad – am brofi fod parodrwydd i weithio’n galed a synnwyr cyffredin yn bwysicach na llond trol o gymhwystera.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y chwyldro pync yn 1976 – roedd hi’n 1980 erbyn iddo gyrraedd Pwllheli

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Slobodan Milosevic.
Pam?

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith i Bortiwgal 2004.
Pam? Wel da ni heb golli’n ffordd hyd yn hyn

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bruschetta, stecsan o’r Ariannin a hufen iâ neapolitan (nid i gyd ar yr un plat wrth reswm!).

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Be di amser hamdden?
Mae gen i ddau o blant bach (a gwraig!)

Pa un yw eich hoff liw?
Coch

Pa liw yw eich byd?
Amryliw

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Ga’i ddau gynnig?
Yn gynta - deddf fydde’n gwahardd Robyn Lewis rhag sgwennu mwy nac un llythyr i’r wasg bob wythnos.

Yn ail - deddf fydde’n gorfodi sdiwdants i weithio mewn maes arall cyn cael bod yn athrawon

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Dim flwyddyn yma

Dylan, Rhys a Ryan GiggsBeth fyddai’r ornest chwaraeon fwyaf cyffrous bosibi?

Berlin, Mehefin 2006. Ffeinal Cwpan y Byd. Cymru yn erbyn Lloegr. Buddugoliaeth o gôl i ddim i Gymru fach wrth i ‘bac pas’ Meical Owen wyro oddiar Owen Hargreaves yn y funud ola un.
Melys iawn.

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy