|
|
Holi
awdur:
Dafydd Morgan Lewis
Golygydd
Cerddi Powys
|
Enw: :
Dafydd Morgan Lewis
Beth yw eich gwaith?
Swyddog Cyflogedig gyda Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athro Ysgol. Gweithio i'r Academi Gymreig, Llyfrgell Ceredigion
a'r Llyfrgell Genedlaethol.
0 ble'r ydych chi'n dod?
Plwy Garthbeibio yn Sir Drefaldwyn.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Aberystwyth
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Yn achlysurol.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano. Cael gwahoddiad gan Rocet ar drothwy
Nadolig 2001. Cofiaf iddo holi i mi uwch peint o gwrw yn Aberystwyth
pa un yn fy marn oedd y gerdd enwocaf i ddod o Sir Drefaldwyn yn yr
ugeinfed ganrif. Atebais mai 'Nant yr Eira' Iorwerth Peate oedd yn
dod i'r cof. Mae'n rhaid fod yr atebiad hwnnw wedi plesio achos wedyn
fe ofynnodd os oeddwn i awydd golygu'r gyfrol.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Golygais y gyfrol 'Cymru yn fy Mhen' flynyddoedd yn 么l.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? '
Y Ffordd Beryglus', T Llew Jones.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf.
Pwy yw eich hoff awdur?
Mihangel Morgan,
Angharad Tomos,
William Owen Roberts.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
'Dail Pren.'
Pwy yw eich hoff fardd?
Waldo Williams.
Pa un yw eich hoff gerdd?
'Mewn Dau Gae.'
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Cyfod, cerdd, dawnsia, wele'r bydysawd.'
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Beautiful Thing
Hoff Raglen Deledu: Porc Peis Bach
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Cas gymeriad/au: Pawb yn 'Stryd y Glep', Kate Roberts
Hoff gymeriad/au Teulu Bach Nantoer
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
I'r pant y rhed y dwr.
Pa un yw eich hoff air?
CYFIAWNDER.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ganu.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
叠濒锚谤
Ofnus
Cymhedrol.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy mlerwch.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Gwynfor Evans am ei gadernid a'i ddyfalbarhad.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Fe hoffwn fod wedi eistedd ar Bont Trefechan yn 1963.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi
yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Harri V ar ddechrau'r bymthegfed ganrif er mwyn dweud wrtho am aros
yn ei wlad ei hun a gadael llonydd i'r Cymry.
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Unrhyw un sy'n mynd drwy Sir Drefaldwyn. Am resymau cwbl sentimental.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Y cinio dydd Sul wythnosol yng Nghloc y Twr, Aberystwyth. Bwyd blasus
a chwmniaeth dda.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen a diogi.
Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.
Pa liw yw eich byd?
Piws.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Un a fyddai yn gwneud prynu a gwerthu tai yn anghyfreithlon ac
yn gorfodi pawb i fyw mewn eiddo wedi ei rentu. Dylai hynny leddfu
tipyn ar broblem y mewnlifiad.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae Rocet a minnau wrthi ar hyn o bryd yn golygu cyfrol o erthyglau
Angharad Tomos yn yr Herald. Bydd yn dod allan Dolig.
Ewch
i ddarllen
am Cerddi Powys.
|
|
|