|
|
Holi
awdur:
Aled Lewis Evans
Nofelydd
a bardd
Dydd Iau, Mai16, 2002 |
Enw:
Aled Lewis Evans
Beth yw eich gwaith?
Byddaf yn Weinidog Bro yn Nyffryn Ceiriog a Llangollen o Haf 2002.
Rhan annatod o'r gwaith fydd ysgrifennu ac agwedd greadigol at y gwaith.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlledwr radio ar Sain y Gororau 1983 - 1993; athro cynradd ac
uwchradd,1987-2000.
O ble鈥檙 ydych chi鹿n dod?
Yn enedigol o Fachynlleth. Cyn mynd i Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam
bum yn byw yn Y Bermo a Bae'r Penrhyn, Llandudno. Roedd yn rhaid i
ni symud efo gwaith Dad yn y Swyddfa Bost.
Lle鹿r ydych chi鹿n byw yn awr?
Yn Wrecsam, y dref gl锚n hon yn y Gogledd Ddwyrain.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Cefais amrywiaeth o ysgolion cynradd,Machynlleth, Morfa Rhiannedd,
Bermo a Bodhyfryd, a mwynhau Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, yn fawr
iawn - yn arbennig yr agwedd 'deuluol' sy'n parhau hyd heddiw, a'r
cyfle i fod mewn oper芒u roc fel Y Mab Afradlon.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Rydw i wedi bod eisiau talu teyrnged i'r gymdeithas arbennig sy'n
gallu deillio mewn caffiau, fel Caffi Llyfrgell Wrecsam. Gyda phosibilrwydd
o gau y Caffi i esgor ar gyntedd theatr newydd, fe grisialodd y deyrnged
hon. Felly mae'r Caffi yn sumbol cryf o fywyd, a bum yn mynychu y
Caffi
ers ei agoriad ym 1978.
Hefyd i adlewyrchu yr oes 么l fodernaidd, unigolyddol mae defnydd helaeth
o fonologau yn y gwaith, a buasai'n braf gweld rhai yn cael eu hactio.
Mae y thema o ymlediad didostur Technoleg yn cael sylw yn y gwaith
a bod pobl hefyd yn gallu troi'n beirianyddol eu natur yn y gweithle.
Mae llawer o hiwmor a thafodiaith bro yn y gwaith a gobeithiaf y bydd
yn boblogaidd.
Beth sy鈥檔 rhoi鈥檙 mwyaf o bleser ichi - barddoni ynteu rhyddiaith?
Byddaf yn mwynhau y ddau gyfrwng ar wahanol amgylchiadau, ac mae
greddf a'r Awen yn arwain at y naill gyfrwng neu'r llall.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Chwe chyfrol o farddoniaeth - Treffin, Sibrydion, Tonnau, Sglefrfyrddio,
Mendio Gondola a Llanw'n Troi. (Y ddau olaf sydd yn dal
mewn print)
Cyfeirlyfr Bro Maelor, Llyfr defosiynol,Troeon. Casgliad
o straeon byrion, Gai i ddarn o awyr las heddiw? Nofel am blentyndod
yn y Bermo, Rhwng Dau Lanw Medi. Dau gasgliad o addasiadau
Saesneg o gerddi - Wavelengths a Mixing the Colours.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Corn Pistol a Chwip, T Llew Jones.
A fyddwch yn edrych arno鈥檔 awr?
Heb ei weld ers tro.
Pwy yw eich hoff awdur?
Willy Russell, y dramodydd o Lerpwl. Mae ei gampwaith Blood
Brothers yn dal i ysbrydoli ar 么l ei weld tua 15 gwaith.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Therese Desqueyroux gan Francois Mauriac.
Pwy yw eich hoff fardd?
Mae gen i nifer, yn eu plith - Gwyn Thomas, Rhydwen Williams,
Alan Llwyd, Myrddin ap Dafydd a Stewart Henderson yn y Saesneg.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Yr Oed gan I.D Hooson.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Llanwddyn yn llyn heddiw, o waith fy nhaid, Y Prifardd
John Evans.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Billy Elliott ar hyn o bryd.
Teledu: Cyfresi drama gafaelgar fel Clocking Off, Talcen Caled
a Tipyn o Stad.
Pwy yw eich hoff gymeriad a鈥檆h cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriadau: gwragedd Willy Russell - Rita yn Educating
Rita a'r anfarwol Shirley Valentine.
Cas gymeriadau: cymeriadau cas Dickens a Daniel Owen. e.e. Capten
Trefor.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Canys gweled yr ydym yr awron trwy ddrych, mewn dameg; ond yna
wyneb yn wyneb.
Pa un yw eich hoff air?
Adnabod.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Dawn gerddorol - lleisiol a
chyfansoddi, er mwyn troi rhai o'r cerddi yn ganeuon a'u perfformio.
Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Creadigol
Unigol
Cymdeithasol.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Un
o'r pethau yw methu 芒 mynegi fy marn yn y modd yr hoffwn ei wneud
bob amser - ar y pryd. Ond dwi'n gwella !
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Unrhyw rai fel fy niweddar Fam - Iola Atkinson o Gorwen gynt.
Un a oedd yn gallu cyfleu ei mwynder a'i hanwyldeb ar lwyfan y byd
heb fod ofn gwneud hynny ac a oedd yn meddu ar y fath hiwmor a bwrlwm
ac egni hefyd, sy'n cael ei gofio hyd heddiw.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Bod yn y gynulleidfa yn y capel bach a welodd "Oleuadau Egryn"
yn 1904 rhwng y Bermo a Thalybont.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi
yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Fy nhaid - John Evans y bardd. Bu farw pan oeddwn yn bymtheg,
felly, er fy mod yn ei gofio fel Taid, nid oeddwn yn ddigon hen i
werthfawrogi ei ddawn lenyddol, eisteddfodol a'i bregethu.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Unrhyw lwybr yn 么l i'r Bermo
ac at y m么r. Mae'r daith o Wrecsam i'r Bermo yn un ddymunol gan oedi
am baned a sgwrs yn Y Bala.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasta o unrhyw fath gyda digonedd o lysiau.
Pwdin o gacen gaws lemwn a cappucino i orffen.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Llenydda, teithio, mynychu'r theatr a'r sinema, cerdded, cymdeithasu,
cyfarwyddo a sgriptio i gwmni drama o bobl ifanc.
Pa un yw eich hoff liw?
Glas.
Pa liw yw eich byd?
Melyn - y mwyafrif o'r amser. Ond mae cysgodion hefyd yn deillio
o oleuni.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Fod pawb sydd yn arddel enw Crist yn ymddwyn yn Gristnogol tuag
at ei gilydd, a'u cyd-ddyn yn gyffredinol.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Hoffwn ysgrifennu llyfr doniol, a dal ati i ddatblygu y rhyddiaith
yn dilyn yr ymateb calonogol i'r Caffi.
Beth fyddai鈥檙 frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol
arall?
I waith yn seiliedig ar y Bermo rhywbryd eto:
"Roedden nhw'n dychwelyd i'r Ynys, er mwyn cael cyffwrdd drachefn
芒'r m么r."
o Y Caffi
|
|
|