|
|
Holi
awdur:
Mari Emlyn
Awdur
Nofel y Mis, Cam Wrth Gam - stori am fam sy'n alcoholig
Dydd Iau, Mai 2, 2002 |
Enw:
Mari Emlyn
Beth yw eich gwaith?
Actores, sgriptwraig, awdur.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dysgu drama yn Ysgol Glanaethwy
0 ble’r ydych chi’n dod?
O Gaerdydd
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr? Yn Y Felineli
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ar y cyfan, do.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Marwolaeth rhiant
Dwedwch ychydig amdano.
Nofel gyfoes yn canolbwyntio ar berthynas pobol a’i gilydd, perthynas
gwraig a’i gwr ac yn bennaf perthynas merch a’i Mam sydd yn alcoholig.
Drwy gydol y nofel fe welir mai lled adnabod pobol mae’r cymeriadau.
Mae ‘r cywilydd a’r twyll sy’n deillio o salwch fel alcoholiaeth yn
bwrw cysgod dros bawb a phopeth
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Hon yw fy nofel gyntaf
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
"Un Noson Dywyll" gan T.Llew Jones
A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Dwi newydd ei darllen gydag un o’r meibion.
Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg D.J.Williams ac yn Saesneg Julian Barnes
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Amryw, ond yn ddiweddar "Birdsong" gan Sebastian Faulks.
Pwy yw eich hoff fardd?
T.H.Parry-Williams
Pa un yw eich hoff gerdd?
"Dychwelyd"
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"’Rwy’n wych,’rwy’n wael, ‘rwy’n gymysg oll i gyd" R.Williams
Parry
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm – Cinema Paradisio
Hoff raglen deledu – Tipyn o Stad!
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad Lady Macbeth.
Does gen i ddim cas gyemriadau, dwi’n tueddu i fod yn hoff o gymeriadau
cas!
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Mewn undeb mae nerth
Pa un yw eich hoff air?
Migmas
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Ysgrifennu
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Hapus,
Dwys
Cymysg
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gormod o lawer i’w rhestru
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf
a pham?
Nelson Mandela am ei ddewrder a’i urddas.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi
bod yn rhan ohono?
Glanio ar y lleuad
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Nelson Mandela.
Mi fyddwn i’n rhy swil i yngan gair.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith ar draws
y paith o’r Gaiman i Esquel ohewrydd ehangedr y paith a’r holl hanes
a berthyn i’r lle.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bwyd Indiaidd gyda ffrinidau
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Sgwrsio yn y dafarn leol a phan gaf lonydd – darllen.
Pa liw yw eich byd?
Amryliw
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i ddiddymu holiaduron anodd
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Yn fy mhen – oes
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Pe bawn i’n gwybod byddwn i wedi dechrau ar nofel arall!!
o Cam Wrth Gam
|
|
|