|
|
Adnabod
Awdur:
Martin Huws
Awdur
Sgrech Rhyfel
Dydd Iau, Chwefror 21, 2002 |
Enw:
Martin Huws
Beth yw eich gwaith?
Newyddiadurwr arlein
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweithiwr dur, swyddog clerigol, gofalwr shifft…sy’n ddefnyddiol efallai
wrth newyddiadura
O ble’r ydych chi¹n dod?
Caerdydd.
Ond ar Faes yr Eisteddfod y cwestiwn nesa yw "O ble ry’ch chi’n dod
yn wreiddiol?"
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Ffynnon Taf, rhwng Pontypridd a Chaerdydd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
"Mae angen i Martin newid ei agwedd at ei waith."
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch
ychydig amdano.
Wnes i ailddarllen cyfweliad â milwr yn y Falklands oedd yn diodde
PTSD; dyn a wyliodd eitem newyddion 10 mlynedd ar ôl y rhyfel a chofio’n
fyw iawn am ei ffrindiau’n cael eu llosgi ar y Syr Galahad
yn Bluff Cove.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Caerdydd, llyfr am hanes Caerdydd, i gydfynd ag Eisteddfod
yr Urdd.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Trysor Plasywernen gan T Llew Jones. Chwarae teg iddo am brofi
fod darllen difyr i blentyn yn Gymraeg.
A fyddwch yn edrych arno’n awr?
‘Sdim tudalennau ar ôl
Pwy yw eich hoff awdur?
Y Gwyddelod, Bernard MacLaverty, Brian Moore, y nofelydd o Dde Affrica
J M Coetzee a’r dyn o Algeria Albert Camus.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Puckoon gan Spike Milligan oherwydd ei hiwmor anarchaidd
Pwy yw eich hoff fardd?
Gwyn Thomas.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Unrhyw gerdd gan Gwyn Thomas.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Gwelais brif rosyn Gwalia
Beti Ffowc yn byta ffa
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Shawshank Redemption
X-Files
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Meursault yn ³¢â€ÍÖ³Ù°ù²¹²Ô²µ±ð°ù gan Albert Camus
Capten Trefor yn Enoc Huws gan Daniel Owen
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y
gwir?
Dyfal donc a dyrr y garreg
Pa un yw eich hoff air?
Shablachad.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ateb cwestiynau.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Ga i ffonio ffrind?
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Rwy’n fodlon ateb os y’ch chi’n fodlon ateb.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu
fwyaf a pham?
Nelson Mandela, am newid hanes ei wlad.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Terfysg Merthyr.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndwr.
Ble cest ti dy gladdu?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Mynydd y Garth, o Bentyrch i Waelod-y-Garth. Cyfle i ddianc rhag gweithio
ar y lein.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Lasagne.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?.
Mynd â’r ci am dro, seiclo, sgrifennu
Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd
Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd ond weithiau mae’r golau traffig yn newid i liw melyn ac
weithiau i liw coch
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Y gallwn ddeddfu, yng Nghaerdydd.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, diolch.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu
waith llenyddol arall?
Roedd yn gobeithio ei fod wedi ateb y cwestiynau i gyd. Ond eto…
|
|
|