|
|
Adnabod
Awdur:
Dafydd Meirion
Awdur
Pi-Ar, llyfr dychanol am fyd cysylltiadau cyhoeddus
Dydd Iau, Ionawr 3, 2002 |
Enw:
Dafydd Meirion
Beth yw eich gwaith?
Cynhyrchydd ar wasanaeth rhyngrwyd y 91热爆
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Perchennog busnes cyhoeddi, cysodi a dylunio, partner mewn gwasg
argraffu, cynhyrchydd teledu, rheolwr cwmni cysylltiadau cyhoeddus,
rheolwr datblygu cymdeithas dai, newyddiadurwr efo鈥檙 91热爆
O ble鈥檙 ydych chi鹿n dod?
Cael fy ngeni yn Y Bala; symud I Lanrug, Arfon, pan yn wyth oed.
Lle鈥檙 ydych chi鹿n byw yn awr? Penygroes
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Dim felly, mwynhau鈥檙 hwyl gyda鈥檓 cyd-ddisgyblion.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig
amdano.
Roeddwn i鈥檔 gweithio fel newyddiadurwr efo Cymry鈥檙 Byd
ac yn aml ddim yn dechrau gweithio tan ddau y pnawn. Felly, gan nad
ydwi鈥檔 da i ddim yn yr ardd neu鈥檔 gosod silffoedd mi benderfynais
fynd ati I sgwennu llyfr! Methais wneud fawr a鈥檙 syniadau cyntaf ond
mi ddaeth Pi-Ar o rywle!
Llyfr ydy o am helyntion dau鈥檔 dechrau busnes cysylltiadau cyhoeddus
yng Nghaernarfon.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Y Tebot Piws yng nghanol y 1970au. Tri llyfr coginio (dan ffugenw
wrth gwrs!)
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfrau Biggles
A fyddwch yn edrych arno鈥檔 awr?
Na.
Pwy yw eich hoff awdur?
Spike Milligan, Dafydd Huws, Twm Miall, Roddy Doyle.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Dyddiadur Dyn Dwad
Pwy yw eich hoff fardd?
Fawr ddim I鈥檞 ddweud am farddoniaeth ond yn cael blas mawr ar
waith Myrddin Williams, awdur Dildo Anti Nel.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Dildo Anti Nel.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Yn Nhyn Llan mae cwrw llwyd
Mae o鈥檔 ddiod ac yn fwyd.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: The Commitments
Teledu: Ddim un yn arbennig
Pwy yw eich hoff gymeriad a鈥檆h cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Goronwy Jones (Dyn Dwad)
Cas: Rheolwr y siop garpedi (Dyn Dwad)
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
I鈥檙 pant y rhed y dwr.
Pa un yw eich hoff air?
Diolch.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gallu chwarae鈥檙 gitar fel Eric Clapton.
Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Nid y fi ydy鈥檙 person gorau i ateb hyn.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich
hunan?
Dim yn arbennig.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a
pham?
Owain Glyndwr - am gadw鈥檙 fflam ynghyn.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Gunfight at OK Coral (yn edrych ar y cyrion!)
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Llywelyn ein Lliw Olaf - oedd raid iti fynd I Gilmeri?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Drawsfynydd i鈥檙 Bala. Mi fyddai鈥檔 hoffi ymweld â鈥檙 Bala gan
fod gennyf deulu yno ac mae hi鈥檔 ffordd dda i bwyso鈥檙 droed ar y sbardun
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyri da o dy bwyta Indiaidd
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, beicio, sgwennu a mynd am beint.
Pa un yw eich hoff liw?
Coch.
Pa liw yw eich byd?
Melyn.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Mae gen i restr hir - fyddai dim amser gan San Steffan na鈥檙 Cynulliad.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Cymry Gwyllt y Gorllewin (Y Lolfa) am Gymry aeth I America yn
y 19eg ganrif a dod yn gowbois, dynion drwg, ymladd a鈥檙 Indiaid ac
ati; a nofel dditectif ddoniol.
Ac efallai llyfr cerdded arfordir Mon.
Beth fyddai鈥檙 frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Wedi i mi ennill miliwn o bunnau o fy nofel gyntaf mi es ati i sgwennu
un arall.
Darllenwch
yn awr am Pi-Ar
|
|
|